Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Rwy'n darparu'r wybodaeth ddiweddaraf hon yn dilyn datgan Parth Rheoli Dros Dro y Tafod Glas (TCZ) yn Sir Fynwy yn gynharach yr wythnos yma.
Cadarnhawyd Seroteip 3 Feirws y Tafod Glas (BTV-3) gan y Prif Swyddog Milfeddygol (CVO) ar safle yn Sir Fynwy ar 26 Medi. Mae ymchwiliadau epidemiolegol pellach gan APHA a Sefydliad Pirbright wedi nodi bod BTV-3 yn cylchredeg yn actif ar y fferm. Mewn ymateb, datganodd y CVO Barth Rheoli Dros Dro am 18:00 ar 01 Hydref i helpu i atal lledaeniad y clefyd gan symudiadau da byw ac i gefnogi gwyliadwriaeth bellach o fewn y parth. Nodais yn y Senedd yn gynharach yn yr wythnos y gallai fod angen mesurau fel parthau rheoli clefydau ac rwy'n awr yn gofyn i'r aelodau nodi y gallai fod angen camau pellach i ddelio â'r sefyllfa ddeinamig a newidiol hon o ran y clefyd.
Rwy'n annog ceidwaid da byw i fod yn ofalus wrth brynu stoc, i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i'r Asiantaeth Iechyd Planhigion Anifeiliaid os ydyn nhw'n amau bod achos o'r clefyd. Mae cydweithio a chydweithredu parhaus rhwng ffermwyr, milfeddygon, Llywodraeth Cymru a gwahanol asiantaethau'r llywodraeth sy'n ymwneud â'r Tafod Glas yn parhau i fod yn hanfodol.
Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y clefyd, ac rwy'n annog ceidwaid anifeiliaid i drafod gyda'u milfeddyg o ran brechu eu buchesi a'u diadelloedd . Rydym yn ddiolchgar i'r sectorau da byw, milfeddygon ac eraill am ledaenu'r negeseuon hyn i'r diwydiant ehangach.
Rhaid inni barhau i gydweithio er mwyn amddiffyn da byw a bywoliaethau yng Nghymru rhag y clefyd hwn a allai arwain at ganlyniadau trychinebus.
