Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Medi 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd yr achosion cyntaf yng Nghymru yn 2025 o seroteip 3 y Tafod Glas (BTV-3) eu cadarnhau ddydd Gwener, 26 Medi gan y Prif Swyddog Milfeddygol (CVO), bron i flwyddyn ers cadarnhau’r achos diwethaf o’r Dafod Glas (BTV-3) yng Nghymru. 

Rwy’n deall y bydd y ffaith bod y Tafod Glas wedi taro Cymru’n destun gofid i ffermwyr, yn enwedig y ffermydd yr effeithiwyd arnyn nhw. Hoffwn ddiolch i ffermwyr a milfeddygon am barhau’n wyliadwrus ac rwy'n ddiolchgar i bawb dan sylw am weithredu mor gyflym i ddelio â'r achosion hyn o BTV-3. 

Cafwyd achos o’r tafod glas ar fustach ar fferm ger Llanandras, Powys, ac ar fuwch ar ddaliad ger Cas-gwent, Sir Fynwy. 

Gwelwyd bod y clefyd ar y bustach o Bowys yn sgil cynnal prawf ar ôl symud, gyda sampl swyddogol wedi hynny'n cadarnhau bod y BTV-3 arno.  Cynhaliwyd prawf BTV-3 ar y fuwch o Sir Fynwy ar ôl i filfeddyg y fferm roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) bod arwyddion clinigol y Tafod Glas arni. Cafwyd canlyniad positif i’r prawf hwnnw. 

Mae'r Tafod Glas yn cael ei achosi gan feirws sy'n cael ei drosglwyddo'n bennaf gan fathau o wybed sy'n brathu. Mae symud anifeiliaid heintiedig hefyd yn gallu lledaenu’r clefyd. Mae'r Tafod Glas yn effeithio ar anifeiliaid cnoi cil (fel gwartheg, geifr, defaid a cheirw) a chamelidau (fel alpacas a lamas). Nid yw'n peryglu bwyd na phobl. 

Ar 27 Medi, yn unol â'n cynllun ar gyfer rheoli'r tafod glas, cafodd y fuwch a'r bustach eu difa i leihau'r risg o drosglwyddo feirws y Tafod Glas i wybed lleol. Bydd y perchenogion yn derbyn iawndal.  Mae ymchwiliadau milfeddygol ac epidemiolegol ar y gweill ar y ddau safle i weld o ble daeth yr haint a sut y gwnaeth ledaenu.

Bydd y ddau ddaliad yn cael eu gosod o dan gyfyngiadau, pan na fydd da byw yn cael eu symud o'r daliad nac iddo ac eithrio o dan drwydded benodol, nes y ceir canlyniad yr ymchwiliadau. Bydd yr angen am ragor o fesurau rheoli clefydau yn dibynnu ar y dystiolaeth a geir trwy'r ymchwiliadau, sy'n cynnwys samplu a phrofi da byw ac archwilio symudiadau i ac o'r safleoedd dan sylw.

Mae Llywodraeth Cymru a'r diwydiant wedi bod yn cydweithio trwy’r flwyddyn i gadw'r Tafod Glas allan o Gymru gyhyd â phosibl, er mwyn diogelu iechyd a lles anifeiliaid a bywoliaeth ffermwyr Cymru.  Mae’r newyddion bod y clefyd wedi taro Cymru yn destun siom ond mae ein hymdrechion cyfunol wedi rhoi amser gwerthfawr i geidwaid da byw frechu eu hanifeiliaid ac i fod yn barod ar gyfer y Tafod Glas. 

Rwy'n annog ceidwaid da byw i fod yn ofalus wrth brynu stoc, i gadw golwg am arwyddion y Tafod Glas ac i roi gwybod ar unwaith i'r APHA os ydyn nhw'n credu bod achos o'r clefyd. Bydd cydweithio a chydweithredu rhwng ffermwyr, milfeddygon, Llywodraeth Cymru a gwahanol asiantaethau'r llywodraeth sy’n ymwneud â’r Tafod Glas yn parhau’n hanfodol.  

Brechu yw'r ffordd orau o amddiffyn da byw a bywoliaethau rhag effeithiau gwaethaf y clefyd, ac rwy'n annog ceidwaid anifeiliaid i drafod gyda'u milfeddyg ynghylch brechu eu buchesi a'u diadelloedd .  Rydym yn ddiolchgar i'r sectorau da byw, milfeddygon ac eraill am ledaenu'r negeseuon hyn i'r diwydiant ehangach.