Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Hydref 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw rwy’n cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer ariannu Llywodraeth Leol yng Nghymru yn ystod 2014-15. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro’r cyllid heb ei neilltuo y gall pob awdurdod unedol ddisgwyl ei dderbyn yn ystod y flwyddyn ariannol i ddod. Mae’n bosibl y caiff y dyraniadau ar gyfer 2014 15 eu diwygio ar gyfer y Setliad terfynol yn sgil gwybodaeth fwy diweddar am drethi a data perthnasol arall, fodd bynnag, rwy’n hyderus fod yr wybodaeth yn darparu sylfaen gadarn i’r Awdurdodau Lleol allu cynllunio ar gyfer y dyfodol.

Mae cyd-destun ariannol cyflwyno’r Setliad hwn yn fwy heriol nag erioed. Er hynny, mae’r Setliad yn parhau i sicrhau Setliad priodol ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru, fel y gall amddiffyn gwasanaethau hanfodol er gwaethaf pwysau ariannol difrifol.  Erbyn 2015-16, byddai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi’i thorri £1.7 biliwn mewn termau real ers 2010-11, o ganlyniad i benderfyniadau Llywodraeth y DU. Er bod Llywodraeth Cymru bob amser wedi llwyddo i sicrhau gwell canlyniad i’r Awdurdodau Lleol o’i gymharu â Lloegr, rwy’n cydnabod bod hwn yn Setliad anoddach dros ben. Ond os byddwn yn canolbwyntio ar yr hyn na ellir ei wneud oherwydd diffyg adnoddau, ni fydd pobl Cymru yn deall, gan eu bod yn disgwyl inni ganolbwyntio ar sicrhau gwell gwasanaethau a gwell chanlyniadau â buddsoddiad mor sylweddol. Rwyf innau’n disgwyl hynny hefyd., Dylai’r cyllid sylweddol rwy’n ei ddarparu i Lywodraeth Leol yng Nghymru, dros £4 biliwn, gael ei wario’n ddoeth ac yn dda er mwyn gallu darparu gwasanaethau cyhoeddus cryfach a mwy effeithiol.  

Rwyf wedi bod yn agored ynglŷn â realiti’r sefyllfa ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Leol Cymru ers imi gymryd cyfrifoldeb am y portffolio hwn ym mis Mawrth. Rwyf wedi gweithio’n galed wrth lunio’r Setliad hwn i gynyddu hyblygrwydd, sicrhau tegwch a rhoi cymorth ychwanegol i helpu Awdurdodau Lleol i reoli’r heriau sydd o’u blaenau. Mae fy mhenderfyniadau yn dangos cymaint y mae Llywodraeth Cymru yn gwerthfawrogi’r amrywiaeth eang o wasanaethau y mae Awdurdodau Lleol yn eu darparu. Mae angen canolbwyntio’n awr ar gynyddu’r ymdrechion i parhau i drawsnewid er mwyn cynnal y gwasanaethau hyn, a sicrhau’r canlyniadau gorau i unigolion ledled Cymru.  

Rwy’n bwriadu neilltuo £4.26 biliwn ar gyfer cyllid refeniw Llywodraeth Leol yn 2014-15. Mae hyn yn ymgorffori trosglwyddo arian grant penodol o £39.3 miliwn i mewn i’r Setliad.  O gymharu hyn â 2013-14, pan addasedig ar gyfer trosglwyddiadau, mae’r cyllid a gyhoeddir heddiw yn golygu gostyngiad o 3.5% (£153 miliwn).

Mae’r Setliad ar gyfer eleni hefyd yn cynnwys £4 miliwn yn ychwanegol i gefnogi’r Fenter Fenthyca Llywodraeth Leol ar gyfer Gwella’r Priffyrdd.

Er gwaethaf y gostyngiadau i grant bloc Cymru ers adolygiad o wariant 2010, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i gynnal ei chymorth ariannol i Awdurdodau Lleol Cymru mewn termau arian parod yn ystod y tair blynedd diwethaf. Cafodd hyn ei amddiffyn fel y gallai Llywodraeth Leol baratoi ar gyfer trawsnewid y ffordd y mae’n darparu gwasanaethau, a buddsoddi yn hynny, gan fod cyfnod anodd yn ei disgwyl.

Er bod y Setliad hwn heddiw yn golygu gostyngiad mewn cyllid o’i gymharu â 2013 14, mae’n dal yn ganlyniad cytbwys i Lywodraeth Leol Cymru o ystyried cyfyngiadau Llywodraeth y DU ar ein cyllideb. Mae’n dal i fod yn ganlyniad gwell o lawer i Awdurdodau Lleol Cymru o’i gymharu â’r gostyngiadau sy’n wynebu’r awdurdodau cyfatebol yn Lloegr. Mae’r Sefydliad Astudiaethau Cyllid1 (IFS) wedi nodi bod cyfanswm grant bloc Cymru 9.4% yn is ar gyfer 2013-14, o’i gymharu â 2010-11, mewn termau real ac ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. Ar y llaw arall, mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i ariannu Llywodraeth Leol, gan gyflwyno gostyngiad oedd hanner yr hyn a wynebai Awdurdodau Lleol Lloegr, mewn termau real, sef 4.5% yn ystod y cyfnod 2010-11 i 2013-14.

Dyraniadau dangosol 2015-16
Rwyf hefyd yn cyhoeddi’r ffigurau dangosol ar gyfer 2015-16 heddiw. Mae’r rhain yn dangos gostyngiad pellach o 1.55% ar gyllid 2014-15. Ffigurau dangosol yw’r rhain ac mae’n bosibl y byddant yn newid os caiff cyllideb y DU ei diwygio ymhellach.

Amddiffyn ysgolion  
Mae’r Setliad yn arwydd o ymrwymiad Llywodraeth Cymru i amddiffyn cyllid ysgolion er mwyn sicrhau bod plant Cymru yn cael y canlyniadau gorau. Felly mae’r Setliad refeniw yn cynnwys yr adnoddau sydd eu hangen i gyfrannu at amddiffyniad o 1% uwchlaw’r newid i Gyllideb Llywodraeth Cymru.  

Mae’r ymrwymiad hwn yn darparu cyfanswm o £16 miliwn yn ychwanegol ar gyfer 2014-15.  Mae’r codiad hwn yn ychwanegol at ddarparu dros £60 miliwn i amddiffyn addysg yn ystod y tair blynedd hyd at 2013-14.

Heb yr ymrwymiad hwn, byddai’r gostyngiad i’r Setliad a gyhoeddir heddiw ac yn ystod y tair blynedd diwethaf wedi bod yn uwch. Yn y dyddiau hynod heriol hyn, mae’r cyllid hwn wedi darparu adnoddau hanfodol ar gyfer gwasanaethau lleol, fel y bydd yn y dyfodol, gan sicrhau ein bod yn parhau i sicrhau’r canlyniadau gorau i’n plant.  

Gwasanaethau Gwella Ysgolion 
Rwy’n falch fod y Gweinidog Addysg a Sgiliau wedi dod i gytundeb â Llywodraeth Leol yn ddiweddar er mwyn darparu patrwm newydd o gydweithio rhanbarthol o ran gwasanaethau gwella ysgolion, gan barhau i ddarparu cyllid ar gyfer hyn drwy’r Grant Cynnal Refeniw.  Golyga hyn y gall yr awdurdodau gyflawni eu hymrwymiad i gefnogi gwasanaethau gwella rhanbarthol a chadw’r hyblygrwydd yn eu cyllideb gyffredinol ar yr un pryd.

Trosglwyddiadau 
Mae’r cyhoeddiad eleni yn gwireddu ein hymrwymiad i Lywodraeth Leol i leihau cyfran y cyllid cyffredinol a gaiff ei ddarparu ar ffurf grantiau penodol. Mae’r Grant Cynnal Refeniw ar gyfer 2014-15 yn cynnwys £39.3 miliwn o gyllid a arferai gael ei ddarparu ar ffurf grantiau penodol.  O’m portffolio fy hun, rwyf wedi penderfynu dadneilltuo dros £30 miliwn a neilltuwyd cyn hynny ar gyfer y Fenter Cyllid Preifat a’r Grant Cyfleusterau Cyhoeddus.
Mae hyn yn golygu bod £145miliwn wedi’i drosglwyddo i mewn i Setliad Refeniw yn ystod tymor y Cynulliad hwn.

Drwy ddarparu’r cyllid hwn drwy’r Grant Cynnal Refeniw rwy’n gobeithio rhoi mwy o hyblygrwydd i Awdurdodau Lleol reoli eu hadnoddau i’w helpu i benderfynu sut i flaenoriaethu adnoddau. Bydd trosglwyddo’r grantiau hyn i’r Grant Cynnal Refeniw hefyd yn sicrhau y gellir defnyddio’r cyllid i ddarparu gwasanaethau rheng flaen yn hytrach na’i wario ar waith gweinyddu diangen. Rwyf hefyd yn comisiynu adolygiad o’r grantiau penodol sy’n weddill, mewn partneriaeth â Llywodraeth Leol. Bydd yr adolygiad yn ystyried y ffordd orau o sicrhau bod cyllid yn cael ei ddefnyddio i’r diben y’i bwriadwyd, a sicrhau bod gwariant ar weinyddu a gorbenion mor isel â phosibl.

Mae £3.2 miliwn yn ychwanegol hefyd yn cael ei drosglwyddo i’r Setliad ar gyfer 2014-15 o ran y Pecyn Gwella Camau Cyntaf, a £5.2 miliwn ar gyfer gweinyddu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Arferai hwn gael ei dalu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau fel rhan o’r cymhorthdal grant cymhleth i weinyddu budd-dal y dreth gyngor a’r budd-dal tai.    

Y Dreth Gyngor
Rwy’n dosbarthu’r holl gyllid sydd ar gael drwy’r Setliad er budd pob Awdurdod Lleol a holl bobl Cymru. Wrth bennu lefelau’r dreth gyngor, rwy’n disgwyl i’r awdurdodau sicrhau eu bod yn gallu cynnal gwasanaethau lleol a pharchu’r amddiffyniad rydym yn ei gynnig i ysgolion. Fodd bynnag, rwyf hefyd yn disgwyl iddynt ystyried y pwysau ar gyllid aelwydydd sy’n cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mater i bob Awdurdod Lleol fydd cyfiawnhau ei benderfyniadau ynglŷn â’r dreth gyngor i’w ddinasyddion.  

Wrth alluogi’r Awdurdodau Lleol i benderfynu lefel y dreth gyngor yn lleol, rwy’n cynnig hyblygrwydd iddynt reoli eu cyllidebau. Nid yw’r awdurdodau cyfatebol yn Lloegr sy’n destun cyfyngiadau yn sgil rhewi’r dreth gyngor yn mwynhau’r un hyblygrwydd. Fodd bynnag, rwyf wedi datgan yn hollol glir fy mod yn fodlon defnyddio’r pwerau capio sydd ar gael imi os ceir cynnydd gormodol.

Cymorth i’r Dreth Gyngor
Gan fod Llywodraeth Glymblaid y DU wedi diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cynnal yr hawliau o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Ym mis Tachwedd, felly, byddaf yn cyflwyno Rheoliadau sy’n gosod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i gyflwyno Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ar gyfer 2014-15 sy’n diogelu holl hawliau’r rhai cymwys ac sy’n cynnal y cynllun fframwaith cenedlaethol a gyflwynwyd gennym y llynedd. I gefnogi’r bwriad hwn rwy’n cynorthwyo Llywodraeth Leol i ddarparu’r cynllun drwy ddosbarthu £244 miliwn o fewn y Setliad. Mae hyn yn cynrychioli cost y cynllun pan gafodd ei sefydlu gyntaf, ond mae’n golygu bod rhaid i Awdurdodau Lleol ystyried unrhyw gostau ychwanegol wrth benderfynu ar lefelau’r dreth gyngor ar gyfer 2014-15. Mae £5.2 miliwn pellach yn cael ei gynnwys yn y Setliad i weinyddu Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. O ystyried y diffyg arian parhaus a’r pwysau cyson ar ein cyllidebau, rwyf hefyd wedi comisiynu adolygiad i edrych ar atebion posibl ar gyfer y tymor hir, a fydd yn darparu cynllun teg a chynaliadwy gan ddefnyddio’r cyllid sydd ar gael. Bwriedir cyflwyno’r cynllun yn 2015-16.

Lleddfu
Rwy’n bwriadu defnyddio mecanwaith o fewn y Setliad i leddfu’r effaith o un flwyddyn i’r llall ar unrhyw Awdurdod unigol. Nid yw’r cyllid ar gyfer y Fenter Benthyca Llywodraeth Leol a’r Fenter Cyllid Preifat wedi’i gynnwys yn y broses gyfrifo ar gyfer lleddfu, fel y cytunwyd yn ystod y broses ymgynghori ar gyfer datblygu fformiwla’r Setliad. Defnyddir yr elfennau hyn i ariannu ymrwymiadau y cytunwyd arnynt eisoes â’r Awdurdodau Lleol.

Mae’r trothwy lleddfu a bennwyd yn golygu na fydd unrhyw awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 4.75% ar ddyraniadau 2013-14, pan addasedig ar gyfer trosglwyddiadau. Darperir cyllid ar gyfer y ddwy elfen a ddisgrifir uchod i’r awdurdodau yn ychwanegol at y trothwy hwn. Mae hyn oll yn golygu na fydd yr un awdurdod yn cael gostyngiad o fwy na 4.6% pan addasedig ar gyfer trosglwyddiadau.

Dyraniadau’r awdurdodau unigol 
Mae Tabl 1 yn dangos sut y mae’r Cyllid Allanol Cyfun (sy’n cynnwys Grant Cynnal Refeniw a Threthi Annomestig wedi’u hailddosbarthu) yn cael ei ddosbarthu i’r 22 awdurdod yn 2014-15.

Cyllid cyfalaf 
O ganlyniad i’r gostyngiadau i’r gyllideb gyfalaf a ddirprwywyd inni gan Lywodraeth y DU, mae’r dyraniadau cyfalaf ar gyfer Llywodraeth Leol yn parhau i fod yn heriol. Mae’r cyllid cyfalaf ar gyfer 2014-15 yn cynrychioli Setliad gwell ar gyfer Awdurdodau Lleol na ddynodwyd llynedd.

Ymgynghori 
Wrth gyhoeddi manylion y Setliad heddiw, rwy’n cychwyn cyfnod ymgynghori o 5 wythnos, a ddaw i ben ar 20 Tachwedd 2013.  Yn ystod y cyfnod ymgynghori byddaf yn ystyried a allaf gynnig hyblygrwydd pellach i Awdurdodau Lleol fel rhan o’r Setliad terfynol, i’w helpu i reoli eu cyllidebau yn 2014-15.

Casgliad 
Rwy’n cyflwyno’r Setliad dros dro hwn ar gyfer ymgynghori. Rwy’n cydnabod, wrth wneud hynny, fod hwn yn Setliad heriol.  Fodd bynnag, rwyf wedi gweithio’n galed i sicrhau’r canlyniad gorau posibl i Lywodraeth Leol o fewn y cyfyngiadau ariannol sy’n ein hwynebu. Mae angen canolbwyntio’n awr ar gynnal gwasanaethau o safon sy’n darparu canlyniadau cryf i bobl Cymru, drwy weithio mewn ffyrdd mwy effeithlon, mwy arloesol a mwy cydweithredol. Mae’r Setliad hwn heddiw yn pwysleisio ymrwymiad Llywodraeth Cymru i weithio law yn llaw â Llywodraeth Leol i reoli’r heriau sydd o’n blaenau a pharhau i gyflawni ar gyfer pobl Cymru.  

Nodiadau:
1 “Scenarios for the Welsh Government Budget to 2025-26, Adroddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyllid R83, ar gael yn: http://www.ifs.org.uk/publications/6867