Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Ddrafft amlinellol 2019-20 yr wythnos ddiwethaf gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, heddiw rydym yn cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i awdurdodau lleol ar gyfer 2019-20. Mae datganiad cyllideb Llywodraeth Cymru yn gosod cyd-destun y setliad llywodraeth leol eleni - yr ansicrwydd ynghylch y trefniadau ar gyfer ymadael â'r UE, Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU sydd ar ddod, a chynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer Adolygiad o Wariant yn 2019, ynghyd â'r cyfyngiadau sy'n parhau ar wariant cyhoeddus. Mae'r awdurdodau lleol yn wynebu'r un ffactorau wrth osod eu cyllidebau eu hunain ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2019-20 yn gostwng 0.3%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â'r flwyddyn gyfredol.

Ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb Derfynol llynedd, er gwaetha'r £40 miliwn ychwanegol i gynorthwyo gyda'r pwysau parhaus ar lywodraeth leol, roedd awdurdodau'n wynebu'r posibilrwydd o 1.0% o ostyngiad mewn cyllid craidd ar gyfer 2019-20, sy'n cyfateb i £43 miliwn o ostyngiad o ran arian.  Rydym wedi bod yn gweithio'n galed, ar draws y Llywodraeth, i gynnig y setliad gorau posib i lywodraeth leol yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni, gan wneud dyraniadau pellach i'r setliad llywodraeth leol er mwyn lliniaru'r rhan fwyaf o'r gostyngiad yr oedd llywodraeth leol yn ei ddisgwyl.

Yn 2019-20, bydd awdurdodau lleol yn derbyn £4.2 biliwn gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig i'w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hynny'n cynnwys £2.5 miliwn o gyllid gwaelodol, wedi'i ariannu'n llwyr gan Lywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau nad oes rhaid i unrhyw awdurdod ddygymod â dros 1.0% o ostyngiad yn ei Gyllid Allanol Cyfun y flwyddyn nesaf.

O fewn y setliad hwn, rydym wedi darparu cyllid ar gyfer costau ychwanegol yn deillio o newidiadau gan Lywodraeth y DU drwy ddyfarniad cyflog yr athrawon, ac i adlewyrchu pwysigrwydd rôl llywodraeth leol yn y system iechyd a gofal cymdeithasol. Rydym hefyd yn darparu cyllid ar gyfer ein cynigion am feini prawf cymhwysedd newydd i gael prydau ysgol am ddim, gan fod Llywodraeth y DU yn parhau i gyflwyno Credyd Cynhwysol.

Yn benodol, yn unol â'r cynigion yn ein hymgynghoriad diweddar, rydym yn sicrhau bod £7 miliwn ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol drwy'r setliad ar gyfer prydau ysgol am ddim yn 2019-20, yn seiliedig ar y rhagolygon diweddaraf. Byddwn hefyd yn darparu £4 miliwn o gyllid ychwanegol i awdurdodau lleol yn 2018-19 ar gyfer prydau ysgol am ddim drwy gynllun grant.  Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i dalu’r costau sy'n gysylltiedig â'n trothwy arfaethedig a mesurau diogelu yn ystod y cyfnod pontio.

Rydym yn cyfeirio pob ceiniog o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 13 Medi i ariannu dyfarniad cyflog yr athrawon ysgol. Yn 2018-19, bydd £8.7 miliwn ar gael drwy grantiau penodol. Mae £13.7 miliwn wedi'i gynnwys yn y setliad ar gyfer 2019-20 er mwyn ariannu'r cynnydd i gyflog athrawon mewn ysgolion a gynhelir o'r dosbarth meithrin i flwyddyn 11, ac fe fydd yr £1.1 miliwn sy'n weddill yn parhau i gael ei gynnig y tu allan i'r setliad, fel grant penodol, ar gyfer athrawon chweched dosbarth ysgolion.

Gan gydnabod rôl bwysig awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau cymdeithasol craidd a'r pwyslais ar atal problemau, mae'r setliad hwn yn cynnwys £20 miliwn arall i helpu i leddfu pwysau.

Fel y dywedwyd yng nghyhoeddiad y Gyllideb, rydym wedi medru adfer cyllid i nifer o grantiau i awdurdodau lleol, ac wedi gwneud penderfyniadau ariannu eraill a fydd o fantais uniongyrchol iddynt. Bydd £30 miliwn ychwanegol o gyllid penodol ar gyfer gofal cymdeithasol ar gael y tu allan i'r setliad, gan ddod â chyfanswm y buddsoddiad ychwanegol mewn gofal cymdeithasol yn 2019-20 i £50 miliwn o gymharu â chynlluniau a gyhoeddwyd ar gyfer y flwyddyn yn flaenorol.  

Adlewyrchir pwysigrwydd addysg yn y £15 miliwn ychwanegol sy'n cael ei ddyrannu i ysgolion drwy'r Prif Grŵp Gwariant Addysg. Rydym wedi ymrwymo i godi safonau ysgolion a dileu rhwystrau rhag dysgu er mwyn helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial.

Ar ben y setliad rydym, unwaith eto, yn darparu £600,000 er mwyn helpu llywodraeth leol i ddileu taliadau am gladdu plant. Mae hyn yn cydnabod ac yn adeiladu ar y camau cadarnhaol y mae pob cyngor yng Nghymru eisoes yn eu cymryd i sicrhau dull gweithredu teg a chyson ar draws Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod wedi ymrwymo i amddiffyn aelwydydd incwm isel ac agored i niwed rhag unrhyw ostyngiad mewn cymorth dan Gynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor, er gwaetha'r diffyg mewn cyllid oddi wrth Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar ôl diddymu Budd-dal y Dreth Gyngor.

Byddwn yn parhau i gynnal hawliau llawn dan ein Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor ein hunain ar gyfer 2019-20, ac rydym unwaith eto yn darparu £244 miliwn ar gyfer y cynllun yn y setliad llywodraeth leol mewn cydnabyddiaeth o hyn. Bydd y trefniadau ar gyfer 2020-21 ymlaen yn cael eu pennu fel rhan o'r ystyriaethau ehangach i sicrhau bod y dreth gyngor yn fwy teg.

Cyn y setliad terfynol, byddwn yn ystyried tystiolaeth bellach sy'n dod i law am effaith ariannol cynyddu'r terfyn cyfalaf a ddefnyddir wrth godi tâl am ofal preswyl. Bydd hyn yn caniatáu i ni wneud penderfyniad ar y cam nesaf o godi'r terfyn hwn er mwyn cyflawni ein hymrwymiad i'w godi i £50,000 yn ystod oes y llywodraeth hon, ac adlewyrchu unrhyw oblygiadau ariannol y penderfyniad hwnnw ar gyfer 2019-20 yn y setliad terfynol.

Er ein bod wedi gweithio'n galed i gynnig y setliad llywodraeth leol gorau posib, rwy'n cydnabod bod y setliad hwn yn doriad mewn termau real i'r cyllid craidd, pan fo awdurdodau'n wynebu pwysau gwirioneddol yn sgil poblogaeth sy'n heneiddio, dyfarniadau cyflog a phwysau chwyddiant o fath arall, ymysg pethau eraill. Felly mae'n hanfodol i ni barhau i gydweithio er mwyn sicrhau arbedion a datblygu ffyrdd mwy effeithiol o ddarparu gwasanaethau.

Rydw i wedi bod yn gwrando'n ofalus ar sylwadau cynghorau Cymru mai un ffordd o arbed arian yw lleihau costau gweinyddol sy'n gysylltiedig â grantiau penodol a rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau ddefnyddio'r adnoddau hyn i gefnogi pobl agored i niwed. Ar 3 Hydref, ar y cyd â'r Gweinidog Tai ac Adfywio, fe gyhoeddais y byddwn yn cyfuno nifer o grantiau ac yn sefydlu Grant Plant a Chymunedau (gan uno saith o raglenni presennol) ac un Grant Cymorth Tai (gan uno tair rhaglen arall) o 1 Ebrill 2019 ymlaen. Bydd hyn yn sicrhau mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol ac yn helpu i ostwng y baich sy'n gysylltiedig â chyllid grant.

Bydd rhagor o fanylion am grantiau llywodraeth leol yn cael eu cyhoeddi wrth ochr y Gyllideb Ddrafft fanwl ar 23 Hydref.

Mae tabl cryno wedi'i atodi i'r datganiad hwn, sy'n dangos dyraniadau'r setliad fesul awdurdod.  Pennwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla a gytunwyd gyda llywodraeth leol. O ganlyniad i'r fformiwla a'r data cysylltiedig, mae'r tabl yn dangos amrediad y dyraniadau cyllid.  Mae cynnwys adnoddau ychwanegol i sicrhau trefniant terfyn isaf yn fanteisiol i bum awdurdod.  Mae chwe awdurdod yn derbyn cynnydd cyffredinol yn eu setliad ar sail tebyg at ei debyg.

Bydd rhagor o fanylion am y setliad yn cael eu hanfon at bob awdurdod lleol a'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru:

https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/settlement/lg-settlement-2019-20/?lang=cy  

Rwy'n gwybod y bydd yn rhaid i awdurdodau wneud penderfyniadau anodd wrth osod eu cyllidebau. Bydd angen iddynt gynnal trafodaethau ystyrlon gyda'u cymunedau lleol wrth ystyried blaenoriaethau eu cyllidebau. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a'r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth osod eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod.

O ran cyllid cyfalaf, mae'r setliad hwn yn cynnal y cyllid cyfalaf cyffredinol ar £143 miliwn am y ddau blynedd nesaf. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i awdurdodau ynghylch y cyllid a fydd ar gael iddynt ar gyfer eu blaenoriaethau gwariant cyfalaf yn y dyfodol.

Ar ben hynny, rydym yn darparu £60 miliwn dros dair blynedd ar gyfer cynllun adnewyddu ffyrdd awdurdodau lleol er mwyn helpu i atgyweirio'r difrod a achoswyd gan gyfres o aeafau caled a'r tywydd poeth dros yr haf eleni.

Daw'r cyhoeddiad hwn ar ddechrau chwe wythnos o ymgynghoriad ffurfiol ar y setliad dros dro i lywodraeth leol.  Bydd yn dod i ben ar 20 Tachwedd 2018.