Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi fy nghynigion ar gyfer elfen Llywodraeth Cymru o gyllid Comisiynwyr Heddlu a Throseddu Cymru (PCCs) ar gyfer plismona yng Nghymru yn 2013-14. Mae hyn yn cynnwys manylion dyraniadau dros dro y cyllid craidd heb ei neilltuo a ddarperir drwy gyfrwng y Grant Cynnal Refeniw y gall pob un o Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru ddisgwyl ei gael ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod (tabl 1, 2 a 3 ynghlwm).

Nid yw cyllid yr Heddlu wedi’i ddatganoli’n gyfan gwbl ac mae’r setliad cyffredinol ar gyfer yr Heddlu yn cael ei lywio gan benderfyniadau’r Swyddfa Gartref ar Grant yr Heddlu. Caiff cyllid ei ddosbarthu i holl Gomisiynwyr Heddlu a Throsedd Cymru a Lloegr yn unol â fformiwla ddosbarthu’r Swyddfa Gartref. Mae’r Swyddfa Gartref hefyd yn gyfrifol am ddarparu cyllid i sicrhau na fydd yn rhaid i un o ardaloedd yr heddlu wynebu gostyngiad o fwy na               -1.57% mewn adnoddau yn ystod 2013-14. Effaith gyffredinol y setliad a’r Swyddfa Gartref yn cyfyngu ar yr arian gwaelodol yw y bydd lefel y gostyngiad yn 2013-14 ar yr un lefel i’r holl heddluoedd yng Nghymru a Lloegr.

Mae hwn yn setliad heriol iawn i wasanaeth yr heddlu. Bydd gofyn gwneud dewisiadau anodd er mwyn amddiffyn plismona rheng flaen. Mae gan yr  Heddluoedd yng Nghymru hanes da iawn o gydweithio wrth ddatblygu a darparu gwasanaethau. Hefyd, mae’r Heddlu’n cymryd rhan mewn agenda ar y cyd ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru i hyrwyddo effeithlonrwydd ac arloesedd mewn gwasanaethau cyhoeddus.

Cynhaliwyd etholiadau’r Comisiynwyr Heddlu a Throsedd ar 15 Tachwedd 2012 ar gyfer pob un o ardaloedd yr heddlu yng Nghymru. Mae rôl y Comisiynwyr Heddlu a Throsedd yn cynnwys pennu’r praeseptau lleol blynyddol ar gyfer plismona a chyllideb flynyddol yr heddlu. Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sydd â chyfrifoldeb dros benodi’r Prif Gwnstabl a’i ddwyn i gyfrif am waith ei heddlu. Maent hefyd yn gyfrifol am nodi Cynllun pum mlynedd ar gyfer Heddlu a Throsedd sy’n rhoi ystyriaeth i flaenoriaethau lleol, a hynny wedi iddynt ymgynghori â’r Prif Gwnstabl a’r cyhoedd. Y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu sy’n gyfrifol am ddosbarthu’r grantiau sy’n cael eu rhoi gan y llywodraeth ganolog ar gyfer plismona. Gallant hefyd roi grantiau i sefydliadau eraill heblaw’r heddlu


Mae’r cyfnod ymgynghori o chwe wythnos yn dechrau heddiw a daw i ben ar 15 Ionawr 2013.


Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau.  Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.