Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2016-17.

Gan nad yw plismona wedi’i ddatganoli, bydd trefniant tair ffordd i’r cyllid ar gyfer heddluoedd Cymru, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a thalwyr y dreth gyngor.  

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Fel sydd wedi digwydd yn y blynyddoedd diwethaf, mae’r Swyddfa Gartref unwaith eto wedi penderfynu defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael yr un gostyngiad canran o 0.6%  ar gyfer 2016-17 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2015-16.

Bydd y cyfanswm cymorth i heddluoedd yng Nghymru yn £354.9 miliwn.  O fewn y swm hwn, rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2016-17 yn £136.8 miliwn. Mae heddiw’n nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 20 Ionawr 2016. Yn dilyn hyn, gall dyraniadau gael eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Pennwyd amseriad y datganiad hwn gan gyhoeddiad y Swyddfa Gartref o Grant yr Heddlu i’r heddluoedd yng Nghymru a Lloegr. Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os hoffai’r Aelodau imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ar y datganiad hwn, byddaf yn hapus i wneud hynny pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd.