Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen Llywodraeth Cymru o gyllid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Mae’r rhain yn cynnwys dyraniadau dros do y refeniw craidd i bob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir y cyllid i bedwar Heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Ar gyfer 2023-2024, £433.9 miliwn fydd cyfanswm y cymorth craidd i heddluoedd yng Nghymru.

Defnyddir fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion, wedi ei redeg gan y Swyddfa Gartref, i ddosbarthu cyllid i heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth cyllid yr heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 0.3% mewn cyllid craidd ar gyfer 2023-24.

O ganlyniad, rwy’n cynnig pennu swm o £113.47 miliwn ar gyfer cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2023-24. Y Swyddfa Gartref sy'n darparu'r cyllid gwaelodol. Mae Tablau 1 i 3 o'r Datganiad hwn yn cynnwys crynodeb o'r ffigurau. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 13 Ionawr 2023. Yn dilyn hyn, mae'n bosibl y caiff dyraniadau eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.