Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Rhagfyr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n cyhoeddi cynigion ar gyfer elfen Llywodraeth Cymru o gyllid i Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2024-25. Mae’r rhain yn cynnwys dyraniadau dros dro y refeniw craidd i bob un o’r pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru.

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir y cyllid i bedwar Heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Ar gyfer 2024-2025, £459.8 miliwn fydd cyfanswm y cymorth craidd i heddluoedd yng Nghymru.

Defnyddir fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion, wedi ei redeg gan y Swyddfa Gartref, i ddosbarthu cyllid i heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth cyllid yr heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

O ganlyniad, rwy'n cynnig gosod cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2024-25 ar £113.47 miliwn. Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi gor-osod ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith atodol wedi'i ariannu gan y Swyddfa Gartref. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl derbyn cynnydd o 2.054% mewn cyllid craidd ar gyfer 2024-25. Rwy'n cydnabod, yn erbyn cefndir cyfraddau uchel diweddar o chwyddiant, y bydd hyn yn ei gwneud yn ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ar wasanaethau, effeithlonrwydd a praeseptau treth gyngor. Mae ein holl Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau lleol ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2024-2025 a gwn y byddant yn ymwybodol iawn o'r pwysau costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w hwynebu.

Mae Tablau 1 i 3 o'r Datganiad hwn yn cynnwys crynodeb o'r ffigurau. Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori a ddaw i ben ar 10 Ionawr 2024. Yn dilyn hyn, mae'n bosibl y caiff dyraniadau eu diwygio ar gyfer y Setliad Terfynol.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn:

Setliad Dros Dro yr Heddlu 2024-25