Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Heddiw, am 10:00 o’r gloch, byddaf yn cyhoeddi fy mhenderfyniad ynglŷn â dyrannu cronfeydd Grant Trafnidiaeth i awdurdodau lleol yn 2012-13.

Eleni, mae’n bleser gennyf gyhoeddi bod cyfanswm y cyllid Grant Trafnidiaeth yn £11.465 miliwn, ac mae hynny’n unol â’r cyllidebau y mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno arnynt. Y Grant Trafnidiaeth (GT) yw mecanwaith ar gyfer buddsoddi arian cyfalaf gydag Awdurdodau Lleol i wella’r seilwaith trafnidiaeth, ac ar yr un pryd, fod o gymorth i gefnogi’r economi leol. Bydd yr Aelodau’n ymwybodol ein bod wrthi’n rheoli proses o drosglwyddo o’r mecanwaith ariannu GT i’r trefniant Grant Consortia Trafnidiaeth. Mae’r cyhoeddiad hwn yn ychwanegol at y £25 miliwn yr wyf wedi ei gymeradwyo i awdurdodau lleol sy’n gweithio gyda’i gilydd fel Consortia Trafnidiaeth RhanbarthoI er mwyn sicrhau eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol a’u prosiectau Diogelwch ar y Ffyrdd. Cyn bo hir, byddaf yn cyhoeddi cylch arall o arian cyllid i awdurdodau lleol er mwyn cefnogi gwelliannau i ddulliau trafnidiaeth cynaliadwy ledled Cymru.

Heddiw, rwy’n cyhoeddi arian at gynlluniau Ffyrdd GT sydd yn y rhaglen gyfredol ac sy’n dirwyn i ben. Mae’r rhan fwyaf o’r cynlluniau ar agor i draffig ac wedi eu cwblhau, a’r costau sy’n gysylltiedig â’r rhain yw rhai’n ymdrin â gweddill y materion tir a chytundebau.

Yn ystod 2011/12, dechreuodd y gwaith adeiladu ar ran olaf Ffordd Mynediad Ystad Ddiwydiannol Wrecsam, a pharhaodd y gwaith ar Welliant i Briffordd Ysbyty Ystrad Fawr yn Ystrad Mynach i gefnogi’r gwaith o ddatblygu ysbyty newydd. Cwblheir y

cynlluniau hyn yn 2012/13. Mae Ffordd Ddosbarthu Cyrion Port Talbot, a elwir yn lleol yn “Harbour Way”, i fod i gael ei chwblhau yn 2013/14.

Mae’n bwysig bod y cynlluniau hyn yn symud yn eu blaenau ac yn cael eu cwblhau er mwyn cynorthwyo gyda’n hamcanion strategol eangach, sef adfywio economaidd trwy sbarduno’r economi leol. Fodd bynnag, rhaid i’r ymrwymiad i ariannu elfennau o’r cynlluniau hyn sydd heb gychwyn cael eu hadeiladu eto, gael ei wneud o fewn cyd-destun fforddiadwyedd, ac nad oes gormod o effaith ar gyllidebau yn y dyfodol. Rydym yn gweithio gyda’r awdurdodau dan sylw i wneud y mwyaf o bosibiliadau ariannu eraill er mwyn cynyddu’r buddsoddiad sylweddol yr ydym yn ei wneud eisoes i’r cynlluniau dan sylw, ac i sicrhau ein bod yn cael yr atebion sy’n rhoi’r gwerth gorau am arian.  Rydym wedi llwyddo i gael swm sylweddol o Arian Cydgyfeirio Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop fel cymorth i dalu am gostau cynllun Harbour Way sy’n werth £111 miliwn.

Rwy’n sicrhau bod £11.465 miliwn ar gael i awdurdodau lleol fwrw ymlaen â gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd lleol yn 2012/13.  

Mae copi o’r symiau sy’n mynd i awdurdodau unigol yn amgaeedig er gwybodaeth.