Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ddoe ynghylch cyllideb refeniw un flwyddyn ar gyfer 2017-18 a chyllideb cyfalaf ddangosol bedair blynedd, rwy’n cyhoeddi heddiw fy nghynigion ar gyfer cyllid llywodraeth leol yn 2017-18. Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd dros dro ar gyfer pob un o’r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.

Gall y dyraniadau hyn gael eu hadolygu ar gyfer y setliad terfynol. Fodd bynnag, rwy’n hyderus eu bod yn cynnig sail gadarn i awdurdodau lleol gynllunio eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Rwy’n cynnig pennu cyllid refeniw o £4.107 biliwn ar gyfer llywodraeth leol yn 2017-18, sy’n gynnydd o £3.8 miliwn o’i gymharu â 2016-17. Mae’r ffigur hwn hefyd yn ystyried ein cytundeb â Phlaid Cymru i ddarparu £25 miliwn ychwanegol i lywodraeth leol, drwy’r setliad, i gefnogi’r gwaith o gyflenwi gwasanaethau hanfodol. Rydym hefyd yn darparu £1 miliwn ar gyfer cludiant ysgolion a £3 miliwn ar gyfer trefniadau parcio yng nghanol trefi.

Mae hwn yn setliad da ar gyfer llywodraeth leol, yn enwedig o ystyried y pwysau sy’n dod o wahanol gyfeiriadau ar Gyllideb Cymru. Dyma’r cynnydd cyntaf yn y setliad llywodraeth leol ers 2013-14 ac mae dipyn yn well na’r hyn yr oedd y rhan fwyaf mewn llywodraeth leol wedi bod yn ei ddisgwyl.

Rwyf hefyd yn darparu £25 miliwn arall drwy’r setliad hwn i gydnabod pwysigrwydd gwasanaethau cymdeithasol lleol cadarn i lwyddiant hirdymor y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ac i gydnabod y pwysau cynyddol y mae gwasanaethau cymdeithasol yn eu hwynebu.

Mae’r setliad yn darparu’r cyllid angenrheidiol i fodloni ein hymrwymiadau yn Symud Cymru Ymlaen. Yn gyntaf, mae’n cynnwys £4.5 miliwn i gynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £30,000; dyma’r cam cyntaf tuag at gyflawni ein hymrwymiad i gael terfyn o £50,000. Yn ail, mae’r setliad yn darparu £0.3 miliwn i gyllido’r ymrwymiad i ddiystyru'n llwyr y Pensiwn Anabledd Rhyfel wrth gynnal asesiadau ariannol ar gyfer codi tâl am ofal cymdeithasol. Yn drydydd, rwy’n darparu £2.3 miliwn o gyllid ychwanegol y tu allan i’r setliad i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5% o’i gymharu â’i ddyraniad o dan setliad 2016-17, a’i ychwanegiad cyllid lle bo hynny’n berthnasol.  

£442 miliwn yw cyfanswm y cyllid cyfalaf ar gyfer 2017-18. Fel rhan o hyn, mae’r Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2017-18 wedi parhau ar yr un lefel, sef £143 miliwn.

Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy’n disgwyl i bob awdurdod roi ystyriaeth i’r holl ffrydiau cyllido sydd ar gael iddynt ac i ystyried yn ofalus sut i sicrhau’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ac effeithlon. Rydym yn cynnig tipyn o hyblygrwydd i awdurdodau yng Nghymru, nad yw’n cael ei gynnig i awdurdodau cyfatebol yn Lloegr, i arfer ymreolaeth ac i gymryd cyfrifoldeb dros reoli eu harian.

Rwy’n falch o’n hymrwymiad, unwaith eto, i gadw hawliau llawn i ymgeiswyr cymwys o dan Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. I helpu llywodraeth leol i gyflwyno’r cynllun hwn yn  2017-18, rwy’n dosbarthu £244 miliwn fel rhan o’u setliad. Rhaid i awdurdodau lleol gadw’r cynllun hwn mewn cof wrth wneud penderfyniadau am lefelau’r dreth gyngor.

Trosglwyddiadau a grantiau refeniw

Mae £3.1 miliwn o gyllid a roddwyd cyn hyn drwy grantiau penodol wedi’i gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw dros dro ar gyfer 2017-18. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys £2.85 miliwn a roddwyd cyn hyn drwy grant cyflawni trawsnewid y gwasanaethau cymdeithasol; £184 mil i gefnogi trefniadau diogelu rhag colli rhyddid; £57 mil i gyflwyno’r cynllun sgorio hylendid bwyd; a £21 mil o gyllid ychwanegol ar gyfer cynllun y bathodyn glas.

Mae hyn yn golygu bod mwy na £194 miliwn o gyllid blynyddol wedi cael ei drosglwyddo i’r Setliad ers 2011-12.

Yn sgil newid y trefniadau ar gyfer cofrestru’r gweithlu addysg, trosglwyddwyd £1 miliwn allan o’r setliad a oedd yn cael ei ddarparu cyn hyn ar gyfer cymorthdaliadau ffioedd cofrestru athrawon.  

Ynghyd â’r setliad, rwy’n cyhoeddi cymaint o wybodaeth â phosibl am gynlluniau grantiau eraill y mae Llywodraeth Cymru wedi’u cynllunio ar gyfer 2017 18. Bydd hyn o gymorth i awdurdodau lleol baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Bydd diweddariad pellach yn cael ei gynnwys gyda’r setliad terfynol ym mis Rhagfyr.

Mae fy nghyd-Weinidogion a minnau yn ystyried a fyddai modd cynnig mwy o hyblygrwydd mewn perthynas â chyllid grant penodol ar gyfer 2017-18 a thu hwnt. Bydd ein casgliadau yn cael eu cyhoeddi yn yr wybodaeth a fydd yn cyd-fynd â’r setliad terfynol.  

Dyraniadau awdurdodau unigol

Mae Tabl 1 yn dangos dosbarthiad arfaethedig y Cyllid Allanol Cyfun (AEF) (yn cynnwys Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig wedi’u hailddosbarthu) rhwng y 22 o awdurdodau ar gyfer 2017-18.

Wrth gynnig y dyraniadau ar gyfer awdurdodau unigol, rwyf wedi gwrando ar gyngor yr Is-grŵp Dosbarthu a’r Is-grŵp Cyllid. Rwy’n gweithredu’r argymhellion a geir yn adroddiad blynyddol yr Is-grŵp Dosbarthu, gan gyflwyno’r newidiadau y cytunwyd arnynt i fformiwlâu y gwasanaethau cymdeithasol dros ddwy flynedd, i helpu i leddfu’r effaith y bydd y newidiadau hyn yn ei chael o ran ailddosbarthu.  

Mae dosbarthu fel hyn yn adlewyrchu ein hasesiad diweddaraf o angen cymharol, yn seiliedig ar gyfoeth o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol pob awdurdod yng Nghymru.

Yn unol â Chyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru, ni allaf gynnig ffigurau amcanol y tu hwnt i 2017-18.

Casgliadau

Mae’r cyhoeddiad hwn heddiw yn nodi dechrau cyfnod ymgynghori chwe wythnos o hyd, yn dod i ben ar 30 Tachwedd 2016. Wedi hynny, byddaf yn ystyried a oes angen diwygio pellach cyn gwneud fy mhenderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr.