Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Yn dilyn cyhoeddi ail gam Cyllideb Dros Dro Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, heddiw, rwy’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd dros dro i’r awdurdodau lleol drwy setliadau refeniw a chyfalaf dros dro llywodraeth leol ar gyfer 2026-27.
Ar 3 Tachwedd, cyhoeddwyd ail gam ein cyllideb ddrafft blwyddyn o hyd, a oedd yn ailddatgan cyllidebau adrannol presennol, wedi’u cynyddu yn unol â rhagolygon ar gyfer chwyddiant.
Er bod y dull hwn yn caniatáu i’n partneriaid, gan gynnwys llywodraeth leol, gynllunio gyda rhywfaint o sicrwydd, dim ond dechrau proses y gyllideb ydyw. Ein huchelgais yn bendant yw sicrhau Cyllideb Derfynol sy’n defnyddio’r holl adnoddau sydd ar gael ar gyfer 2026-27 ac yn diogelu swyddi a gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen. Mae’r Prif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg wedi bod yn glir mai ein cyfrifoldeb ar y cyd yw pasio Cyllideb Cymru. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda phob plaid i wneud hynny.
Mae’r setliad dros dro yn darparu £6.4bn gan Lywodraeth Cymru o’r Grant Cynnal Refeniw (“RSG”) ac ardrethi annomestig (“NDR”) i’w wario ar ddarparu gwasanaethau allweddol. Mae hwn yn gynnydd cyfartalog o 2.7%, ar sail tebyg at ei debyg, ac mae’n cynnwys cyllid ychwanegol gwerth £5.5m (ar ben y £8.6m a ddyrannwyd yn y gyllideb ddrafft) i sicrhau nad oes unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2.3%. Rydym i gyd yn ymwybodol o’r pwysau sy’n wynebu aelwydydd. Yn ystod 2013-14, gwnaethom benderfyniad fel gwlad i ddiogelu’r aelwydydd hynny sy’n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel ledled Cymru drwy gynnal hawliadau llawn i gymorth â'u biliau’r dreth gyngor, a hynny o dan ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor. Dyma ddewis rydym wedi ei wneud bob blwyddyn ers dros ddegawd. Mae ein cynllun cenedlaethol yn un sydd wedi’i deilwra ac yn golygu bod y cymorth hwn yn cael ei dargedu at y rhai y mae arnynt ei angen fwyaf.
Yn ystod 2024-25, arweiniodd hyn at sicrhau bod bron i 256,500 o aelwydydd incwm isel ac aelwydydd sy’n agored i niwed, sef un o bob pum aelwyd, wedi elwa ar ostyngiad yn eu treth gyngor.
Yn unol â’n pwyslais ar y cyd â llywodraeth leol ar helpu aelwydydd, byddwn yn parhau i gynnal y cyllid sylfaenol gwerth £244m ar gyfer Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn y Setliad.
Yn ogystal â’r setliad craidd, rwy’n cyhoeddi gwybodaeth ddangosol ar grantiau refeniw a chyfalaf penodol a gynlluniwyd ar gyfer 2026-27. Yn ystod y cyfnod dros dro hwn, mae’r grantiau hyn yn cyfateb i dros £1.3bn ar gyfer refeniw a thros £1.08bn ar gyfer cyfalaf.
Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda llywodraeth leol drwy gydol y flwyddyn, gan adlewyrchu’r Cytundeb Partneriaeth Strategol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Leol yng Nghymru a lofnodwyd yn gynharach eleni.
Nid yw’n briodol i Lywodraeth Cymru fynd ati i osod lefel fympwyol o gynnydd yn y dreth gyngor. Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol unigol yw gosod cyllidebau, a’r dreth gyngor yn ei thro. Bydd angen i awdurdodau ystyried pob ffynhonnell o gyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â’r pwysau sy’n eu hwynebu. Rwy’n annog cynghorau i barhau i bwyso a mesur yn ofalus effaith y cynnydd ar gyllid aelwydydd yn sgil colli cymorth a gwasanaethau. Rwy’n gwybod y bydd arweinwyr, aelodau etholedig a swyddogion, fel ei gilydd, ym mhob ardal o Gymru yn ymdrechu i ddod o hyd i ddulliau ar gyfer defnyddio adnoddau yn y ffordd orau bosibl i wneud y gwahaniaeth mwyaf i’w cymunedau.
Bydd ein trefniadau ardrethi annomestig ar gyfer 2026-27 yn cael eu pennu yn rhan o’r paratoadau ar gyfer y Gyllideb Derfynol. Bydd hyn yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol yn dilyn Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU a chanlyniad yr ailbrisio ardrethi annomestig nesaf, a fydd hefyd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae’r Gyllideb Ddrafft yn adlewyrchu’r disgwyliad diofyn arferol y bydd refeniw ardrethi annomestig yn cael ei gynnal yn unol â chwyddiant CPI.
Roedd y Gyllideb ddrafft yn nodi’r sefyllfa ar gyllid cyfalaf. Yn rhan o’n dull gweithredu ar gyfer cynyddu cyllidebau yn unol â chwyddiant, mae’r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer awdurdodau lleol wedi cynyddu o £200m i £204m. Bydd y cyllid ar gyfer y Grant Gwres Carbon Isel ar gyfer 2026-2027 bron yn £31m, gan barhau â’n gwaith gyda llywodraeth leol i ymateb i’n blaenoriaeth ar y cyd o wella’r ystad llywodraeth leol, drwy ddarparu gwres carbon isel sy’n cyfrannu at gynllun Sero Net Cymru.
Mae tabl cryno ynghlwm wrth y datganiad hwn sy’n dangos dyraniadau’r setliad (Cyllid Allanol Cyfun ("AEF")) yn ôl awdurdod. Mae’r dyraniadau yn deillio o gyfrifiadau gan ddefnyddio’r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol.
Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged i’r gwaith caled a’r gwydnwch a ddangoswyd ar draws y sector gan swyddogion ac aelodau etholedig dros sawl blwyddyn wrth iddynt ymateb i’r heriau parhaus y mae Cynghorau wedi bod yn eu hwynebu. ,. Rydym yn parhau i flaenoriaethu ein cymorth ar gyfer llywodraeth leol, fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol cyfnod ein Llywodraeth, a hynny drwy’r setliad blynyddol a grantiau penodol i ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol.
Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.
