Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ddoe, cyhoeddwyd cynigion Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, a heddiw rwy'n cyhoeddi manylion y Setliad Llywodraeth Leol Terfynol ar gyfer 2018-19. Mae'r Setliad hwn yn nodi'r dyraniadau cyllid refeniw craidd ar gyfer pob un o'r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ynghylch ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 21 Tachwedd. Mae'r cyhoeddiad hwn yn darparu sylfaen gadarn i gynghorau fynd ati i lunio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

O'i gymharu â'r setliad dros dro, bydd £20 miliwn yn fwy o gyllid yn setliad terfynol y flwyddyn nesaf ar gyfer 2018-19, a hynny o ganlyniad i ddyraniadau cyllideb terfynol Llywodraeth Cymru. Mae'r setliad terfynol hefyd yn cynnwys £7 miliwn arall i'w ddefnyddio i helpu i gynyddu'r terfyn cyfalaf cyn dechrau codi tâl am ofal preswyl i £40,000, a fydd yn cael ei roi ar waith o fis Ebrill 2018. Mae’r newidiadau yn cynrychioli cynnydd bach mewn arian parod yn y setliad terfynol yn gyffredinol sydd gyfystyr â chynnydd o 0.2% ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau.

Mae'r setliad hefyd yn rhoi £1.3m yn ychwanegol i awdurdodau lleol, er mwyn iddynt ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i ddarparu rhyddhad wedi'i dargedu i gefnogi busnesau lleol a fyddai'n elwa fwyaf ar gymorth ychwanegol.

Mae'r cyllid ychwanegol yn golygu y gallaf i’n awr hefyd adolygu’r trefniadau ar gyfer yr isafswm cyllid a amlinellwyd yn y cyhoeddiad dros dro. Felly, ni fydd unrhyw awdurdod yn awr yn wynebu gostyngiad o fwy na 0.5% o'i gymharu â'r flwyddyn bresennol ar sail tebyg at ei debyg.

Roedd cyhoeddiad y Gyllideb Derfynol ddoe hefyd yn cynnwys £20 miliwn pellach ar gyfer Llywodraeth Leol yn 2019-20.

Mae hwn yn setliad realistig sy'n parhau i ddiogelu llywodraeth leol rhag toriadau sylweddol ar adeg pan fo'r cyllidebau a ddarperir gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn lleihau.

Y Setliad heb ei neilltuo yw'r ffynhonnell cyllid fwyaf sydd ar gael i awdurdodau, ond nid dyma'r unig ffynhonnell. Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy’n disgwyl i bob awdurdod ystyried yr holl ffrydiau cyllido sydd ar gael iddynt ac ystyried yn ofalus hefyd sut i sicrhau’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau’n effeithiol ac yn effeithlon. Rydym yn cynnig tipyn o hyblygrwydd i awdurdodau arfer ymreolaeth ac i gymryd cyfrifoldeb dros reoli eu harian.

Grantiau refeniw

Ynghyd â'r Setliad ei hun, rwy'n cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2018-19. Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dyraniadau fesul awdurdod

Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad terfynol Cyllid Allanol Cyfun (gan gynnwys grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig a ail-ddosberthir) rhwng y 22 cyngor ar gyfer 2018-19.

Setliad cyfalaf

£485 miliwn yw cyfanswm y cyllid cyfalaf ar gyfer 2018-19. Fel rhan o hyn, bydd y Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2018-19 a'r cyfnod canlynol o ddwy flynedd yn parhau ar yr un lefel, sef £143 miliwn. Mae hyn yn rhoi eglurder a sicrwydd i awdurdodau ynghylch y cyllid a fydd ar gael iddynt ar gyfer eu blaenoriaethau gwariant cyfalaf yn y dyfodol.

Bwriedir trafod y cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo'r Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2018-19 ar 16 Ionawr 2018.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.