Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ddoe ynghylch cynigion cyllideb derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy'n cyhoeddi heddiw fanylion Setliad Terfynol Llywodraeth Leol 2017-18.  Mae’r rhain yn cynnwys y dyraniadau cyllid refeniw craidd ar gyfer pob un o’r 22 o gynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol.

Wrth baratoi'r Setliad Terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ynghylch y Setliad Dros Dro.  Rwy'n hyderus bod y setliad yn darparu sylfaen gadarn i gynghorau fynd ati i lunio eu cynlluniau ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod.

Ar gyfer 2017-18 rwy'n pennu cyllid refeniw llywodraeth leol ar £4.114 biliwn.  Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o £10 miliwn o’i gymharu â 2016-17, ar ôl gwneud addasiadau ar gyfer trosglwyddiadau, ac yn gynnydd o £6 miliwn o gymharu â'r cyllid a gyhoeddais ym mis Hydref.

Mae hwn yn setliad da ar gyfer llywodraeth leol, yn enwedig o ystyried y pwysau sy’n dod o wahanol gyfeiriadau ar Gyllideb Cymru.

Yn ogystal â'r cyllid a bennwyd yn y setliad dros dro a gyhoeddais ar 19 Hydref, rwyf wedi cynnwys £6 miliwn ychwanegol yn y setliad terfynol ar gyfer gwaith i atal digartrefedd.  Rwyf hefyd wedi cynnwys ychwanegiad cyllid i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn gweld gostyngiad o fwy na 0.5% yn ei ddyraniad cyllid cyffredinol.

Ar ben hynny, mae'r gyllideb derfynol yn cynnwys £10 miliwn ychwanegol i gydnabod yr heriau ariannol penodol sy'n codi yn sgil darpariaeth gofal cartref, gan gynnwys pwysau ar y gweithlu.

Rwyf hefyd yn darparu £10 miliwn ychwanegol ar gyfer rhyddhad ardrethi annomestig yn 2017-18.  Bydd hyn yn cael ei sianelu drwy awdurdodau lleol ac yn cael ei dargedu at fusnesau ar y stryd fawr.  

Er mai'r Setliad heb ei neilltuo yw'r ffynhonnell cyllid unigol fwyaf sydd ar gael i awdurdodau, nid dyma'r unig un.  Wrth bennu eu cyllidebau a lefelau’r dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn nesaf, rwy’n disgwyl i bob awdurdod roi ystyriaeth i’r holl ffrydiau cyllido sydd ar gael iddynt ac ystyried yn ofalus sut i sicrhau’r gwerth gorau am arian i drethdalwyr yng Nghymru drwy ddarparu gwasanaethau yn effeithiol ac effeithlon.  Rydym yn cynnig tipyn o hyblygrwydd i awdurdodau yng Nghymru, nad yw’n cael ei gynnig i awdurdodau cyfatebol yn Lloegr, i arfer ymreolaeth ac i gymryd cyfrifoldeb dros reoli eu harian.

Grantiau refeniw

Ochr yn ochr â'r Setliad, rwy’n cyhoeddi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau grant Llywodraeth Cymru sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2017-18.   Bydd hyn yn helpu awdurdodau lleol i baratoi eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Dyraniadau i awdurdodau unigol

Mae Tabl 1 yn nodi dosbarthiad terfynol Cyllid Allanol Cyfun (gan gynnwys grant cynnal refeniw ac ardrethi annomestig a ailddosberthir) rhwng y 22 cyngor ar gyfer 2017-18.  

Setliad cyfalaf

£433 miliwn yw cyfanswm y cyllid cyfalaf ar gyfer 2017-18. Fel rhan o hyn, mae’r Cyllid Cyfalaf Cyffredinol ar gyfer 2017-18 wedi parhau ar yr un lefel, sef £143 miliwn.

Mae'r cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer 2016-17 wedi'i gynllunio i'w drafod ar 17 Ionawr 2017.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.