Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru 2024-25, rwyf yn cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i'r awdurdodau lleol ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf drwy setliadau refeniw a chyfalaf terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2024-25.

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 31 Ionawr. Ni nododd yr ymatebion unrhyw faterion penodol a oedd yn gofyn am newid dull gweithredu wrth ddosbarthu'r setliad terfynol. Rwyf yn cydnabod y pwysau ariannol sylweddol a wynebir gan yr awdurdodau lleol. 

Wrth inni ddatblygu Cyllideb derfynol 2024-25, rydym wedi blaenoriaethu diogelu gwasanaethau cyhoeddus craidd rheng flaen cyn belled â phosibl; cefnogi'r aelwydydd hynny sydd wedi cael eu taro fwyaf a blaenoriaethu swyddi, lle bo modd. Rwyf wedi defnyddio dyraniadau cyllid ychwanegol i Gymru, a ddaeth i law o ganlyniad i benderfyniadau gwario Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig yn Lloegr, i gynyddu £14.4m ar setliad llywodraeth leol. Rwyf hefyd yn gwrthdroi gostyngiad o £10m i grant y gweithlu cymdeithasol ar gyfer 2024-25. Mae hyn yn adlewyrchu pwysigrwydd y gwasanaethau cyhoeddus craidd hyn ac yn ymateb i alwadau gan Arweinwyr yr awdurdodau lleol ac Aelodau'r Senedd i flaenoriaethu llywodraeth leol os bydd adnoddau pellach ar gael.

Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2024-25 yn cynyddu 3.3%, ar sail tebyg at ei debyg, o'i gymharu â 2023-24. Ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 2.3%. Yn 2024-25, bydd yr awdurdodau lleol yn cael £5.7bn gan Grant Cynnal Refeniw (RSG) Lywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig (NDR) i ddarparu gwasanaethau allweddol. 

Mae tabl cryno sy'n nodi'r dyraniadau setliad (Cyllid Allanol Cyfun (AEF)) yn ôl awdurdod ynghlwm wrth y datganiad ysgrifenedig hwn. Pennwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla a gytunwyd gyda llywodraeth leol. 

Yn ogystal â'r setliad craidd, rwyf yn cyhoeddi gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf penodol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2024-25, sy'n dod i dros 1.3 biliwn ar gyfer refeniw a thros £956 miliwn ar gyfer cyfalaf. 

Fel rhan o'n Rhaglen Lywodraethu rydym wedi ymrwymo i leihau'r baich biwrocrataidd ar lywodraeth leol. Mae'r awdurdodau lleol wedi tynnu sylw at reoli a gweinyddu grantiau fel y maes lle ceir y cyfle mwyaf ar gyfer newid. Mae gwaith ar y gweill i leihau nifer y grantiau unigol a delir i'r awdurdodau lleol  ac i ystyried symud grantiau i'r setliad sydd wedi'i ddadneilltuo os bydd y cyd-destun ehangach yn golygu bod hynny yn briodol.  Byddwn yn parhau â'r gwaith hwn, ond yn 2024-25 mae £6.6m o grantiau refeniw wedi eu trosglwyddo i'r RSG.

Bydd rhagor o fanylion y setliad yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol ac yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.

Rwyf yn darparu pecyn o gymorth ardrethi annomestig a fydd o fudd i bob talwr ardrethi yng Nghymru. Cadarnheais y pecyn hwn fel rhan o'r Gyllideb Ddrafft. Byddwn yn rhoi cap o 5% ar y cynnydd yn y lluosydd ardrethi annomestig ar gyfer 2024-25, ar gost flynyddol gylchol o £18m. Mae hyn yn is na'r cynnydd o 6.7% a fyddai'n gymwys fel arall. Byddwn hefyd yn buddsoddi £78m yn ychwanegol i ddarparu pumed flwyddyn yn olynol o gefnogaeth i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch gyda'u biliau ardrethi annomestig. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi talwyr ardrethi y mae eu hatebolrwydd wedi cynyddu yn dilyn yr ymarfer i ailbrisio ardrethi annomestig yn 2023. Mae ein cynllun rhyddhad trosiannol yn parhau i gyflwyno newidiadau yn raddol ar gyfer talwyr ardrethi cymwys ar gost o £38m yn 2024‑25. Mae hyn yn ychwanegol at ein cynlluniau rhyddhad ardrethi parhaol.

Rwyf wedi cadw'r cyllid cyfalaf cyffredinol ar gyfer yr awdurdodau lleol yn £180m – sef y lefel ddangosol a bennwyd y llynedd. Gyda chostau chwyddiant cynyddol yn y sector adeiladu, gwn y bydd hyn yn golygu y bydd rhaid i'r awdurdodau lleol flaenoriaethu eu rhaglenni cyfalaf yn ofalus.  Rwyf hefyd wedi parhau i ddarparu £20m ym mhob blwyddyn i alluogi'r awdurdodau i ymateb i'n blaenoriaeth ar y cyd o ddatgarboneiddio, er mwyn parhau â'r pwyslais ar gyfrannu at gynllun Cymru Sero Net. 

Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac yn ei dro'r dreth gyngor. Bydd angen iddynt ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Rydym wedi gweithio'n agos gyda llywodraeth leol drwy gydol y flwyddyn, ac rydym yn deall y pwysau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu. Rwyf yn falch o'r berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 

Bwriedir trafod y cynnig i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) ar gyfer 2024-25 ar 05 Mawrth 2024.

Tabl Cryno

AEF terfynol 2024-25 o'i gymharu ag AEF terfynol wedi'i addasu 2023-24

Awdurdod UnedolCyllid Allanol Cyfun Terfynol 2023-241Cyllid Allanol Cyfun Terfynol 2024-25Newid (£000)% y newidSafle
Ynys Môn 124,147  127,586  3,439  2.8%17  
Gwynedd228,180233,317  5,136  2.3%22  
Conwy199,025  203,526  4,501  2.3%21  
Sir Ddinbych193,351  200,795  7,443  3.8%4  
Sir y Fflint252,255  258,527  6,273  2.5%20  
Wrecsam 225,021  232,865  7,843  3.5%8  
Powys228,852  235,865  7,013  3.1%11  
Ceredigion131,569  135,286  3,717  2.8%14  
Sir Benfro212,918  218,870  5,952  2.8%16  
Sir Gaerfyrddin338,755  350,646  11,892  3.5%7  
Abertawe 417,919  435,021  17,102  4.1%3  
Castell-nedd Port Talbot 277,211  285,594  8,383  3.0%12  
Pen-y-bont ar Ogwr 250,853  258,925  8,071  3.2%10  
Bro Morgannwg202,925  209,781  6,856  3.4%9  
Rhondda Cynon Taf471,369  485,567  14,198  3.0%13  
Merthyr Tudful119,170  123,492  4,322  3.6%5  
Caerffili340,339  348,864  8,524  2.5%19  
Blaenau Gwent140,094  144,044  3,949  2.8%15  
Torfaen172,572  178,733  6,160  3.6%6  
Sir Fynwy122,844  126,019  3,175  2.6%18  
Casnewydd289,622  304,045  14,423  5.0%1  
Caerdydd597,291  623,158  25,866  4.3%2  
Cyfanswm yr awdurdodau unedol 5,536,285 5,720,524 184,239 3.3% 

Noder: Efallai na fydd y rhifau'n cyfansymio'n gywir o ganlyniad i dalgrynnu

1. AEF 2023-24 wedi’i addasu ar gyfer sylfaen drethu ddiweddaraf 2024-25 a throsglwyddiadau.