Neidio i'r prif gynnwy

Jane Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn cyhoeddi Cyllideb Derfynol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27, rwy’n cyhoeddi manylion y dyraniadau cyllid craidd i’r awdurdodau lleol drwy setliadau refeniw a chyfalaf terfynol llywodraeth leol ar gyfer 2026-27.

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr ymatebion a gefais i'r ymgynghoriad ar y setliad dros dro, a ddaeth i ben ar 7 Ionawr. Rwy'n cydnabod y pwysau ariannol sylweddol sy'n wynebu awdurdodau lleol, yn enwedig o ran Addysg a Gofal Cymdeithasol. 

Mae cytundeb y gyllideb rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn cynnwys £112.8m ychwanegol i gefnogi llywodraeth leol. Mae'r cytundeb hwn yn dangos cryfder y Senedd wrth i'r pleidiau gydweithio ar flaenoriaethau cyffredin i gyflawni dros Gymru. Gan addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd y cyllid refeniw craidd ar gyfer llywodraeth leol yn 2026-27 yn cynyddu 4.5%, ar sail tebyg at ei debyg o'i gymharu â 2025-26, ac ni fydd unrhyw awdurdod yn cael cynnydd o lai na 4.0%.  Yn 2026-27, bydd yr awdurdodau lleol yn cael £6.6bn drwy Grant Cynnal Refeniw Lywodraeth Cymru ac ardrethi annomestig i ddarparu gwasanaethau allweddol. 

Mae tabl cryno sy'n nodi dyraniadau'r setliad (Cyllid Allanol Cyfun (AEF)) yn ôl awdurdod ynghlwm wrth y datganiad ysgrifenedig hwn. Pennwyd y dyraniadau gan ddefnyddio'r fformiwla y cytunwyd arni gyda llywodraeth leol. 

Yn ogystal â'r setliad craidd, rwy'n cyhoeddi gwybodaeth am grantiau refeniw a chyfalaf penodol sydd wedi'u cynllunio ar gyfer 2026-27, sy'n dod i fwy na 1.3bn ar gyfer refeniw a mwy na £1.0bn ar gyfer cyfalaf. 

Bydd rhagor o fanylion yn cael eu hanfon i bob awdurdod lleol a’u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru 

Fe wnaeth y Gyllideb Ddrafft gynyddu’r cyllid cyfalaf cyffredinol i awdurdodau lleol i £204m i gydnabod effaith chwyddiant. Bydd y cyllid ar gyfer y Grant Gwres Carbon Isel ar gyfer 2026-2027 bron yn £31m, gan barhau â’n gwaith gyda llywodraeth leol i ymateb i’n blaenoriaeth ar y cyd o wella'r ystad llywodraeth leol, drwy ddarparu gwres carbon isel sy’n cyfrannu at gynllun Sero Net Cymru. Mae'r Gyllideb Derfynol hefyd yn cynnwys £8m ychwanegol ar gyfer Trawsnewid Trefi a £2m arall ar gyfer Cartrefi Gwyrdd Cymru.

Cyfrifoldeb pob awdurdod lleol yw pennu cyllidebau, ac yn ei dro'r dreth gyngor. Bydd angen iddynt ystyried yr ystod lawn o ffynonellau cyllid sydd ar gael iddynt, yn ogystal â'r pwysau sy'n eu hwynebu, wrth bennu eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged unwaith eto i’r gwaith caled a’r gwydnwch a ddangoswyd ar draws y sector gan swyddogion ac aelodau etholedig dros sawl blwyddyn wrth iddynt ymateb i’r heriau parhaus y mae Cynghorau wedi bod yn eu hwynebu.  Rydym yn parhau i flaenoriaethu ein cymorth ar gyfer llywodraeth leol, fel yr ydym wedi’i wneud drwy gydol cyfnod ein Llywodraeth, a hynny drwy’r setliad blynyddol a grantiau penodol i ymateb i flaenoriaethau cenedlaethol a lleol.  Rwyf yn falch o'r berthynas weithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yng Nghymru a byddwn yn parhau i ymgysylltu'n agos drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. 

Bwriedir cynnal dadl ar y cynnig i’r Senedd gymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) ar gyfer 2026-27 ar 27 Ionawr 2026.