Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Gwasanaethau Cyhoeddus

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn dilyn fy nghyhoeddiad ynghylch Setliad Diwygiedig yr Heddlu ym mis Chwefror, rwy’n cyflwyno heddiw Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (rhif 2) 2016-17 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2016-17. Mae hyn yn dilyn cwblhau’r broses graffu ar y gyllideb a chyhoeddi’r Gyllideb Derfynol i Gymru. 

Mae heddluoedd yng Nghymru yn cael eu hariannu drwy drefniadau ar y cyd â’r Swyddfa Gartref, gan ddefnyddio fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion. Fel a gyhoeddwyd yn Setliad Diwygiedig yr Heddlu, mae’r Swyddfa Gartref wedi newid y fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion i un sy’n defnyddio cyllid gwaelodol. O dan y trefniadau hyn, bydd gostyngiad o 0.6% yng nghyllid grant cyffredinol pob heddlu yng Nghymru a Lloegr yn 2016-17 o’i gymharu â 2015-16.

Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd Cymru yn 2016-17 yw £355 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £136.8 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw Heb ei Neilltuo ac Ardrethi Annomestig. Yr un yw’r ffigurau hyn â’r rheini a ddarparwyd yn y Setliad Dros Dro. Disgwylir i’r adroddiad fod yn destun dadl yn y Cynulliad ar 9 Mawrth.

ae’r wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi hefyd ar wefan Llywodraeth Cymru.