Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, Y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Chwefror 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwyf heddiw yn gosod gerbron y Senedd Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-22 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2021-22. Mae’r cyhoeddiad heddiw a wnaed gan y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi  Dyraniadau Grant Terfynol yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod eu praeseptau erbyn 1 Mawrth.

Mae fformiwla sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr. Mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith arian gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cynnydd yn y cyllid a dderbyniant o 6.3% ar gyfer 2021-22 o’i gymharu ar sail gyfatebol â 2020-21.

Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 yn y Ddatganiad hwn. Cyfanswm y cymorth refeniw ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2021-22 yw £408 miliwn. O’r cyllid hwn, mae Llywodraeth Cymru yn darparu £143.4 miliwn fel Grant Cymorth Refeniw heb ei neilltuo ac Ardrethi Annomestig. Mae’r arian gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2021-22 fod yn destun trafodaeth yn y Senedd ar 9 Mawrth.