Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf heddiw yn gosod gerbron y Senedd Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2023-24. Mae’r cyhoeddiad heddiw a wnaed gan y Swyddfa Gartref yn cyhoeddi  Dyraniadau Grant Terfynol yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod eu praeseptau erbyn 1 Mawrth.

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli a darperir y cyllid ar gyfer pedwar Heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd, sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r Dreth Gyngor. Ar gyfer 2022-2023, bydd cyfanswm y cymorth craidd ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn £433.9 miliwn.

Mae fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion yn cael ei gweithredu gan y Swyddfa Gartref i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, ac mae’r dull o bennu a dosbarthu elfen Llywodraeth Cymru o’r ddarpariaeth cyllido heddlu wedi ei seilio ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel 2022-23, mae'r Swyddfa Gartref wedi trosglwyddo’r cyllid ar gyfer y Gangen Arbennig allan o Brif Grant yr Heddlu i'r Grant Plismona Gwrthderfysgaeth ar gyfer 2023-24. Gan nad yw’r cyfanswm sy'n cael ei drosglwyddo yn newid, ni fydd y trosglwyddiad yn cael unrhyw effaith net ar yr heddluoedd.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 0.3% mewn cyllid craidd ar gyfer 2023-24, cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, o'i gymharu â 2022-23.

Yn dilyn ymgynghoriad, mae’r ffigurau ar gyfer setliad terfynol yr heddlu yn parhau fel y nodais yn fy natganiad ar 14 Rhagfyr ar setliad dros dro'r heddlu. Rwy’n awgrymu y dylid pennu cyfraniad Llywodraeth Cymru i gyllid yr heddlu ar gyfer 2023-24 yn £113.47 miliwn. Mae’r cyllid gwaelodol yn cael ei darparu gan y Swyddfa Gartref. Mae’r ffigurau wedi’u crynhoi yn Nhablau 1 i 3 y Datganiad hwn.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2023-24 fod yn destun trafodaeth yn y Senedd ar 14 Chwefror.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yma:

Setliad Terfynol yr Heddlu 2023-24

Cyllid Refeniw yr Heddlu

Tabl 1: Cyllid Allanol Cyfun (Grant Cynnal Refeniw ac Ardrethi Annomestig Cenedlaethol) (£ miliwn)1

Heddlu
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
2023-24
Dyfed-Powys

13.355

13.150

13.030

8.667

8.492

Gwent

31.701

31.790

31.857

25.939

26.069

Gogledd Cymru

22.496

22.614

22.523

16.513

16.334

De Cymru

75.848

75.845

75.989

62.352

62.575

Cyfanswm

143.400

143.400

143.400

113.470

113.470

Tabl 2: Grant yr Heddlu a Chyllid Gwaelodol (£ miliwn)1, 2, 3

Heddlu
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
2023-24
Dyfed-Powys

36.993

40.967

44.497

52.272

52.659

Gwent

41.287

46.660

51.539

62.401

62.579

Gogledd Cymru

50.738

56.101

61.153

72.125

72.612

De Cymru

84.864

96.895

107.639

132.165

132.617

Cyfanswm

213.882

240.622

264.828

318.964

320.465

Tabl 3: Cyfanswm Cymorth Canolog (£ miliwn)3

Heddlu
2019-20
2020-21
2021-22
2022-23
2023-24
Dyfed-Powys

50.348

54.116

57.528

60.939

61.150

Gwent

72.988

78.451

83.396

88.341

88.647

Gogledd Cymru

73.234

78.715

83.677

88.638

88.946

De Cymru

160.712

172.740

183.629

194.517

195.192

Cyfanswm

357.282

384.022

408.228

432.434

433.935

Nodiadau:

1. Yn dilyn Adolygiad Cynhwysfawr o Wariant 2015, bu'r Swyddfa Gartref yn trosglwyddo cyllid yn flynyddol i Lywodraeth Cymru er mwyn i Lywodraeth Cymru ddarparu'r cyfraniad y cytunwyd arno ar ei chyfer at gyllid yr heddlu yng Nghymru. O 2022-23 ymlaen, ni chaiff y cyllid ychwanegol hwn ei drosglwyddo mwyach. Yn hytrach, y Swyddfa Gartref sy'n ei ddarparu drwy Grant yr Heddlu a'r Grant Atodol. O ganlyniad i hyn, bu cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona £29.93m yn llai y llynedd, ac mae hyn wedi ei bennu ar gyfer 2023-24 a blynyddoedd i ddod. Newid gweinyddol yn unig yw hwn, ac nid yw'n golygu unrhyw newid yn y cyllid cyffredinol i unrhyw Heddlu.

2. Dyma swm grant yr heddlu a nodir yn adran 3 o Adroddiad Grant yr Heddlu sy’n cynnwys y dyraniad o dan ‘Prif Fformiwla’ ac ‘Ychwanegu Rheol 1’ (colofnau a a b) ynghyd â swm y ’cyllid gwaelodol’ a sicrhawyd gan y Swyddfa Gartref.

3. Dangosir y ffigurau ar gyfer 2023-24 cyn yr addasiad a wneir ar gyfer trosglwyddo cyllid y Gangen Arbennig, fel y'i nodir ym mharagraff 4.8 o Adroddiad Grant yr Heddlu.