Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n gosod gerbron y Senedd Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2024-25 (Y Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Mae hwn yn amlinellu elfen Llywodraeth Cymru o Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn 2024-25. Mae'r cyhoeddiad a wnaed gan y Swyddfa Gartref heddiw yn cynnwys dyraniadau terfynol Grant yr Heddlu ar gyfer cyrff plismona yng Nghymru a Lloegr, er mwyn sicrhau bod y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu yn gallu gosod praeseptau erbyn 1 Mawrth. 

Nid yw polisi plismona wedi’i ddatganoli ac mae cyllid yn cael ei ddarparu i bedwar heddlu Cymru drwy drefniant tair ffordd sy’n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a’r dreth gyngor. Ar gyfer 2024-25, bydd cyfanswm y cymorth craidd ar gyfer heddluoedd yng Nghymru yn £459.8 miliwn. 

Mae cyllid yn cael ei ddosbarthu i heddluoedd Cymru a Lloegr drwy fformiwla gyffredin sy’n seiliedig ar anghenion, a'r Swyddfa Gartref sy'n gyfrifol am weithredu'r fformiwla honno. Mae elfen Llywodraeth Cymru o ddarpariaeth cyllid yr heddlu yn cael ei phennu a'i dosbarthu ar sail yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ar draws Cymru a Lloegr.

Fel mewn blynyddoedd blaenorol, mae’r Swyddfa Gartref wedi defnyddio mecanwaith cyllid gwaelodol ar gyfer ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion. Mae hyn yn sicrhau y gall pob heddlu yng Nghymru a Lloegr ddisgwyl cael cynnydd o 2.054% yn ei gyllid craidd ar gyfer 2024-25. Rwy'n cydnabod, yn erbyn yr hanes diweddar o gyfraddau chwyddiant uchel, y bydd yn ofynnol i'r pedwar heddlu yng Nghymru wneud penderfyniadau anodd ynghylch gwasanaethau, arbedion effeithlonrwydd a phraeseptau'r dreth gyngor. Mae ein holl Gomisiynwyr Heddlu a Throseddu wedi bod yn ymgynghori â'u cymunedau lleol ar lefel y cyllid lleol ar gyfer 2024-2025, ac rwy'n gwybod y byddant yn dra ymwybodol o'r pwysau yn sgil costau byw y mae llawer o aelwydydd yn parhau i'w hwynebu.  

Yn dilyn cyfnod o ymgynghori, mae'r ffigurau ar gyfer Setliad Terfynol yr Heddlu yn parhau fel y nodais yn fy natganiad ar 14 Rhagfyr ar Setliad Dros Dro yr Heddlu. O ganlyniad, rwy’n cynnig pennu swm cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid yr heddlu ar gyfer 2024-25 yn £113.47 miliwn. Y Swyddfa Gartref sy'n darparu'r cyllid gwaelodol. Mae Tablau 1 i 3 o'r Datganiad hwn yn cynnwys crynodeb o'r ffigurau.

Disgwylir i Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2024-25 fod yn destun dadl yn y Senedd ar 20 Chwefror.

Mae’r wybodaeth hon hefyd wedi'i chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru yn: 

Setliad Terfynol yr Heddlu ar gyfer 2024-25