Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Chwefror 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Heddiw rwyf yn cyhoeddi manylion y setliadau refeniw a chyfalaf terfynol ar gyfer 22 awdurdod unedol Cymru ar gyfer 2011-12.

Y Setliad Cyffredinol

Wrth baratoi'r setliad terfynol, rwyf wedi ystyried yn ofalus y sylwadau a ddaeth i law yn ystod yr ymgynghoriad am y setliad dros dro.

Y flwyddyn nesaf, cyn addasu ar gyfer trosglwyddiadau, bydd awdurdodau lleol yng Nghymru yn derbyn gostyngiad o 1.4% ar setliad refeniw y flwyddyn flaenorol. Mae hyn yn gyson, fwy neu lai, â'r cyhoeddiad a wnaed ar 23 Tachwedd 2010 ynglŷn â'r setliad dros dro.

Mae'r setliad terfynol yn cadarnhau y bydd mecanwaith gwaelodol yn cael ei gynnwys i sicrhau na fydd unrhyw awdurdod yn derbyn gostyngiad grant o fwy na 1.7 y cant.

Mae dau grant penodol arall wedi’u cynnwys yn y setliad terfynol yn unol â’n hymrwymiad i leihau faint o arian wedi’i neilltuo a ddarperir y tu allan i’r Grant Cynnal Refeniw. Y rhain yw'r Gronfa Datblygu Rheoli Perfformiad (£3 miliwn) a Gweithredu'r Strategaeth ar gyfer Pobl Hŷn (£1 filiwn).

Hefyd, mae'r Setliad yn cynnwys swm sydd wedi’i ddiwygio ychydig o £10,117 miliwn ar gyfer gweithredu’r Pecyn Gwella Camau Cyntaf ym maes gofal cymdeithasol.

Grantiau Refeniw Penodol

Rwyf hefyd yn rhoi manylion i awdurdodau lleol am gyfanswm y grantiau penodol i Gymru y gallant ddisgwyl eu derbyn yn 2011-12. Gyda’i gilydd, bydd y Grant Cynnal Refeniw a Grantiau Penodol yn rhoi darlun cynhwysfawr i'r awdurdodau o'r cyllid y bydd Llywodraeth y Cynulliad yn ei ddarparu yn 2011-12, er mwyn iddynt allu paratoi'u cyllidebau'n effeithiol. Bydd awdurdodau, yn ogystal â derbyn y £4 biliwn drwy'r setliad, hefyd yn derbyn dros £600 miliwn mewn grantiau penodol. Mae hyn yn cynnwys grantiau sylweddol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen a Chefnogi Pobl. 

Dosbarthu rhwng Awdurdodau 

Mae Tabl 1, sy'n amgaeedig, yn cynnwys manylion y cynnydd blynyddol cymharol yn y setliad refeniw ar gyfer y dau awdurdod ar hugain, ar ôl addasu ar gyfer trosglwyddiadau. Mae'r ffigurau hyn yr un fath i un lle degol â'r rheini a gyhoeddwyd yn y cyhoeddiad am y setliad dros dro.

Y Setliad Cyfalaf

Mewn perthynas â'r setliad cyfalaf, y dyraniad cyfalaf ar gyfer 2011-12, gan gynnwys grantiau cyfalaf penodol, fydd £456.

Mae'r Gronfa Gyfalaf Gyffredinol yn gyfanswm o tua £174 miliwn. Cyllid cyfalaf heb ei neilltuo yw hwn, a chaiff £54 miliwn ohono ei dalu fel grant cyfalaf. Darperir y gweddill, sef tua £120 miliwn, fel cymorth i fenthyca.

Bydd tablau manwl pellach ar gael ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Fel y mae Llywodraeth Leol wedi’i gydnabod adeg cyhoeddi’r setliad dros dro, mae’r pecyn cyffredinol gystal â'r disgwyl.. Mae’n hanfodol bod Llywodraeth y Cynulliad a Llywodraeth Leol yn cydweithio bellach i achub ar y cyfle i sefydlu ffyrdd gwell, mwy costeffeithiol ac arloesol o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel ar gyfer pobl Cymru yn y sefyllfa anoddach o lawer sydd o’n blaen o ran gwariant cyhoeddus.

Ar yr amod bod y Cynulliad yn cymeradwyo Cyllideb Derfynol Llywodraeth y Cynulliad, bydd trafodaeth yn cael ei chynnal ar 15 Chwefror am y cynnig sydd wedi’i gyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar adroddiad ariannol llywodraeth leol ar gyfer 2011-12.