Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Hydref 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Rheoliadau[1] Diogelwch Hedfan Llywodraeth y DU yn nodi, erbyn mis Mehefin 2024, y bydd yn ofynnol i bob maes awyr yn y DU a oedd yn ymdrin â mwy na miliwn o deithwyr bob blwyddyn yn 2019 fod wedi disodli peiriannau sgrinio bagiau caban 2-D â Sganwyr Diogelwch 3-D  y Genhedlaeth Nesaf. Yn seiliedig ar ei niferoedd teithwyr cyn y pandemig, mae rhaid i Faes Awyr Caerdydd gydymffurfio â'r Cyfarwyddyd hwn.

Yn ogystal â lliniaru risgiau diogelwch, bydd y sganwyr hyn yn galluogi teithwyr i adael gliniaduron a hylifau yn y bagiau y maent yn eu cario gyda nhw, felly byddant yn lleihau'r oedi a'r anghyfleustra sy'n gysylltiedig â mynd drwy'r broses sgrinio diogelwch. Heb y sganwyr hyn, byddai'n rhaid i Faes Awyr Caerdydd ddod â gweithrediadau masnachol i deithwyr i ben erbyn y dyddiad cau rheoliadol ym mis Mehefin 2024.

Mae gosod y sganwyr hyn yn rhan o raglen buddsoddi cyfalaf arfaethedig y maes awyr, y cytunwyd arni gyda Llywodraeth Cymru fel rhan o'i gynllun achub ac ailstrwythuro'n dilyn y pandemig. Fel y bydd ymwelwyr diweddar i'r maes awyr efallai wedi sylwi, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i osod y sganwyr erbyn y dyddiad cau.

Fodd bynnag, fel y gwelwyd gan lawer o feysydd awyr eraill ledled y DU, mae cost gosod y sganwyr ym Maes Awyr Caerdydd wedi cynyddu'n sylweddol o'i chymharu â'r amcangyfrifon cychwynnol. Mae hyn yn rhannol oherwydd chwyddiant ond hefyd oherwydd cymhlethdod gosod yr offer mewn adeilad a godwyd yn y 1970au; proses sydd wedi gofyn am symud asbestos yn ddiogel mewn amgylchedd gweithredol byw.

Mae Maes Awyr Caerdydd yn dal i adfer o effaith ddinistriol y pandemig ar ei fusnes. Mae'r maes awyr wedi adfer 58% hyd yn hyn, gyda 28 o'r 52 llwybr di-stop a oedd yn cael eu rhedeg yn flaenorol yn gweithredu unwaith eto, ac yn cludo 910,000 o deithwyr y llynedd. Mae chwyddiant a materion eraill yn parhau i roi pwysau ar gostau’r maes awyr.

Er bod diogelwch hedfan yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, mae wedi gwrthod yn gyson ddarparu unrhyw gymorth ariannol i helpu gwahanol feysydd awyr y DU i drosglwyddo i sganwyr y genhedlaeth nesaf er mwyn bodloni'r dyddiadau cau rheoliadol, er y pwysau mae chwyddiant yn ei roi ar y diwydiant.

O ganlyniad, mae Llywodraeth Cymru, fel yr unig fuddsoddwr yn y maes awyr, wedi penderfynu y dylai ddarparu buddsoddiad ecwiti o £6.6 miliwn i'r maes awyr ar sail fasnachol, fel mesur untro i fynd i'r afael â'r costau heriol a bodloni'r gofyniad rheoliadol gorfodol hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod diogelwch teithwyr yng Nghaerdydd yn cyfateb i'r hyn a geir mewn meysydd awyr rheoleiddiedig eraill ledled y DU, a bydd yn diogelu buddsoddiad Llywodraeth Cymru yn y maes awyr yn y tymor hwy

 

[1] Single Consolidated Direction (Aviation)(Next Generation Security Checkpoint)(Variation) 2020