Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gen i gyhoeddi heddiw lansiad cyhoeddus ehangach y Siarter Rhianta Corfforaethol – "Addewid Cymru". 

Mae ein Rhaglen Lywodraethu, a atgyfnerthwyd gan y Cynllun Plant a Phobl Ifanc, yn nodi ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid gwasanaethau plant yng Nghymru.

Rydym am sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phob plentyn neu berson ifanc arall yng Nghymru. Rhaid parchu eu hawliau yn yr un modd gan sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed a’n bod yn gwrando ac yn gweithredu arnynt. Roedd hon yn neges allweddol a ddaeth i'r amlwg o'r Uwchgynhadledd Pobl sy'n Gadael Gofal, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr y llynedd. 

Mewn cydweithrediad â'r Llysgenhadon Ifanc a fynychodd yr Uwchgynhadledd, gan gynrychioli plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal, rydym wedi datblygu gweledigaeth radical ac uchelgeisiol a rennir ar gyfer y dyfodol. Mae'r weledigaeth yn cael ei chyfleu mewn Datganiad ar y cyd y gwnaeth y Prif Weinidog ei lofnodi, ar ran Llywodraeth Cymru, ar 10 Mai. Er mwyn cefnogi ein huchelgeisiau cyffredin, nododd ein Rhaglen Lywodraethu’n glir fod rhaid i ni gryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel 'rhiant corfforaethol'.

Gellir diffinio'r term "rhianta corfforaethol" fel hyrwyddo cyfrifoldeb cyfunol y sector cyhoeddus cyfan i ddiogelu a hyrwyddo hawliau a chyfleoedd bywyd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal. Mae pawb sy'n gweithio yn y sector cyhoeddus yn gyfrifol am hyn. 

Sefydlwyd Grŵp Gweithredu Rhianta Corfforaethol, sy'n cynnwys awdurdodau lleol, yn ogystal â Voices from Care Cymru, swyddfa'r Comisiynydd Plant, y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol, Plant yng Nghymru, y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2019. Hoffwn ddiolch i aelodau'r Grŵp am eu gwaith caled yn datblygu'r Siarter hon.

Mae'r Siarter yn nodi 11 egwyddor yn ymwneud â chydraddoldeb, dileu stigma, gweithio gyda'n gilydd, cefnogaeth gynhwysol, uchelgeisiau boddhaus, meithrin, iechyd da, cartref sefydlog, addysg, ffynnu yn y dyfodol, cymorth ar ôl gofal. Mae'n annog pob corff sector cyhoeddus i ymrwymo i'r egwyddorion hyn yn ogystal â 9 addewid sy'n nodi sut y bydd plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael eu trin, yn cael eu clywed ac yn cael eu cynnwys mewn penderfyniadau sy'n effeithio arnynt.

Mae'r egwyddorion a'r addewidion hyn yn cyd-fynd â themâu allweddol ein Cynllun Plant a Phobl Ifanc, Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Maent hefyd yn adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, Cod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy'n Derbyn Gofal a Phlant sy'n Cael eu Lletya).   

Cyhoeddwyd y Siarter yn wirfoddol i ddechrau. Byddwn yn monitro ymgysylltiad ac yn ystyried datblygu canllawiau i gefnogi gweithredu'r Siarter yn ogystal â chynnwys pennod benodol ar Rianta Corfforaethol yng Nghod Ymarfer Rhan 6 (Plant sy'n derbyn gofal a phlant sy'n cael eu lletya) o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Bydd y bennod ddrafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus yn y gaeaf.

Hoffwn orffen drwy ddweud nad yw'r Siarter hon yn gyfyngedig i gyrff y sector cyhoeddus, a byddwn yn annog unrhyw aelodau o'r trydydd sector a'r sector preifat i ymuno â ni, cofrestru a dod yn "Rhiant Corfforaethol". Mae Gweinidogion Cymru a Llywodraeth Cymru wedi llofnodi’r siarter drwy’r Prif Weinidog a’r Ysgrifennydd Parhaol heddiw a byddwn yn gofyn i eraill ymuno a gweithio gyda ni i sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o ofal yn cael yr un cyfleoedd a chyfleoedd bywyd y mae pob person ifanc yn ei haeddu.