Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan AS, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Mehefin 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr Aelodau’n gwybod am y mesurau sydd wedi bod ar waith i ddiogelu pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal rhag y perygl o gael eu heintio gan COVID -19. Roedd y mesurau hyn yn cynnwys cyfyngu ar ymweliadau gan deulu a ffrindiau, heblaw o dan amgylchiadau eithriadol.

Rydym yn cydnabod yr effaith y mae cyfyngiadau o’r fath yn ei chael ar lesiant y bobl sy’n byw mewn cartrefi gofal, ac mae wedi bod yn hynod anodd i bawb sydd wedi ymwneud â hyn. Fodd bynnag, mae llacio’r cyfyngiadau ar 1 Mehefin wedi rhoi’r cyfle i bawb gwrdd â phobl eraill yn yr awyr agored, cyn belled â bod y bobl hynny’n dod o’r un aelwyd, a bod yr aelwyd honno o fewn pellter teithio o 5 milltir. Ysgrifennodd Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol y Grŵp Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn Llywodraeth Cymru at bob darparwr cartref gofal ar 5 Mehefin i roi cymorth gyda’r gwaith o drefnu ymweliadau awyr agored sy’n ddiogel ac yn unol â gofynion y cyfyngiadau cyfredol: https://llyw.cymru/ymweliadau-i-gartrefi-gofal-ar-coronafeirws-canllawiau-i-ddarparwyr-gwasanaeth

Yn unol â Chyngor y Prif Swyddog Meddygol, nid oes gofyn i ymwelwyr wisgo masgiau meddygol, os yw’r ymweliadau’n digwydd yn yr awyr agored a bod pellter cymdeithasol yn cael ei gynnal. Mae llythyr pellach wedi'i anfon i egluro hyn i'r sector.

Mae swyddogion yn gweithio gydag Arolygiaeth Gofal Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a rhanddeiliaid gan gynnwys y Comisiynydd Pobl Hŷn a Fforwm Gofal Cymru i ddatblygu canllawiau manylach. Fe gyhoeddir y canllawiau hynny yn ystod yr wythnosau nesaf, a byddant yn cael eu hadolygu’n rheolaidd wrth i’r cyfyngiadau newid.