Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AS, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a'r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

O dan Reoliadau Deddf Cydraddoldeb 2010 (Dyletswyddau Statudol) (Cymru) 2011, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru adolygu ei Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol bob pedair blynedd (o 1 Ebrill 2012). 

Cyhoeddir ein Hamcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol newydd ar gyfer 2024-28 heddiw. Dilynir hyn gan ein Cynllun Cydraddoldeb Strategol, a fydd yn nodi sut y byddwn yn gweithredu'r amcanion. 

Ers mis Gorffennaf 2023, mae Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid cydraddoldeb a'r cyhoedd drwy ymgynghoriad 12 wythnos a dau ddigwyddiad gweithdy. Roedd yr ymgysylltu hwn yn gyfle i wrando ar brofiadau bywyd ac adborth pobl ac i ddysgu ohonynt. Rydym wedi ystyried hyn i gyd wrth ddatblygu'r amcanion cydraddoldeb cenedlaethol.

Dyma'r Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol:

  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 1: Byddwn yn creu Cymru lle mae pawb yn cael cyfleoedd i ffynnu yn unol â'n nod sefydliadol i leihau tlodi.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 2: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o'u hawliau dynol, lle cânt eu diogelu, eu hyrwyddo a lle maent yn sail i bob polisi cyhoeddus.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 3: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb fod yn ymwybodol o wasanaethau cyhoeddus o safon uchel a chael mynediad cyfartal atynt.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 4: Byddwn yn creu Cymru sy'n atal gwahaniaethu, erledigaeth, aflonyddu, cam-drin, troseddau casineb a/neu fwlio yn erbyn pawb.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 5: Byddwn yn creu Cymru lle gall pawb o'r amrywiaeth lawn o gefndiroedd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus, cael eu lleisiau wedi'u clywed, a gweld eu hunain yn cael eu hadlewyrchu mewn swyddi arwain.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 6: Byddwn yn creu Cymru â chyfleoedd teg a chyfartal i gael swydd ac sy'n sicrhau triniaeth deg a chyfartal yn y gweithle, gan gynnwys cyflog ac amodau teg.
  • Amcan Cydraddoldeb Cenedlaethol 7: Byddwn yn creu Cymru sy'n amgylcheddol gynaliadwy gyda'r gallu i sicrhau bod ein taith i sero net yn deg a'n bod yn ymateb i effeithiau annheg newid yn yr hinsawdd.

Mae Amcanion Cydraddoldeb Cenedlaethol 2024-28 yn eang ac yn drawslywodraethol, ac yn darparu'r sylfaen ar gyfer ein gwaith i ddileu anghydraddoldeb, hyrwyddo cydraddoldeb, a meithrin perthynas dda rhwng pobl. Maent yn adlewyrchu ein ffocws ar greu Cymru a fydd yn darparu mynediad teg i wasanaethau i bawb, ac yn sicrhau canlyniadau tecach i'n pobl a'n cymunedau amrywiol ledled Cymru. Mae'r amcanion yn gysylltiedig â'r camau gweithredu a nodir mewn cynlluniau cydraddoldeb unigol, megis Cynllun Gweithredu Cymru Gwrth-hiliol a'r Cynllun Gweithredu LHDTC+, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â rhanddeiliaid sydd hefyd yn gweithio gyda ni i gyflawni'r camau gweithredu sydd ynddynt. Maent yn darparu fframwaith cryf ar gyfer y cynlluniau gweithredu cydraddoldeb, gan helpu i leihau cymhlethdod ac ymgorffori cydraddoldeb ymhellach yn ein gwaith llunio polisi.

Mae lleisiau gweithredol y rhai sydd â phrofiad bywyd o wynebu gwahaniaethu ac anghydraddoldebau wedi bod yn ganolog i ddatblygiad y gwaith hwn. Rydym yn edrych ymlaen at barhau i weithio'n agos â sefydliadau partner a chyda chymunedau a phobl ledled Cymru tuag at gyflawni ein hamcanion cydraddoldeb cenedlaethol.