Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n cyhoeddi canllawiau diwygiedig sy'n egluro’r polisi a’r broses a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau ynghylch ariannu lleoliadau i bobl ifanc ag anawsterau dysgu mewn sefydliad addysg bellach arbenigol. Diben hyn yw sicrhau mwy o dryloywder a dealltwriaeth am broses Llywodraeth Cymru o wneud penderfyniadau. Mae'r canllawiau diwygiedig bellach yn cynnwys amserlenni mwy pendant y byddwn ni a phobl eraill sydd â diddordeb, yn ceisio gweithredu o’u mewn. Mae hefyd yn amlinellu system sy'n galluogi pobl ifanc a/neu eu rhieni/gofalwyr i herio'r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i gael system addysg gynhwysol. Rydym yn credu y dylid rhoi mynediad cyfartal i bob person ifanc ag anhawster dysgu at addysg bellach mewn sefydliad addysg bellach prif ffrwd, drwy ddarparu’r opsiynau cynhwysol sydd ar gael yn lleol i ddiwallu eu hanghenion. Fel arfer, mae sefydliadau addysg bellach yn diwallu anghenion addysg a hyfforddiant y rhan fwyaf o bobl ifanc sydd ag anhawster dysgu. Mewn achosion pan nad yw anghenion y person ifanc yn gallu cael eu diwallu mewn sefydliad addysg bellach, bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod darpariaeth arbenigol ar gael i ddiwallu eu hanghenion.

Mae Llywodraeth Cymru yn deall bod lefel difrifoldeb a chymhlethdod anawsterau dysgu yn amrywio o unigolyn i unigolyn. Felly, mae pob cais am gyllid yn cael ei ystyried fesul achos unigol. Caiff penderfyniadau am y math o ddarpariaeth sydd ei hangen i ddiwallu anghenion person ifanc, gan gynnwys hyd a math y rhaglen astudio, eu gwneud ar sail asesiad o anghenion addysg a hyfforddiant y person ifanc.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb oedd ynghlwm yn y gwaith o adolygu ac atgyfnerthu'r canllawiau hyn.