Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae sicrhau rhagor o swyddi'n parhau i fod yn flaenoriaeth ganolog i Lywodraeth bresennol Cymru.
Yn ystod tymor y Senedd hwn, mae ein gweithgareddau a'n buddsoddiadau wedi creu neu ddiogelu bron i 46,000 o swyddi. Mae'r rhain yn swyddi go iawn mewn mannau go iawn – gweithgynhyrchwyr yn ychwanegu shifftiau newydd, cwmnïau technoleg yn ehangu, cwmnïau creadigol yn llogi talent leol a phrentisiaid newydd ym mhob rhan o Gymru.
Rydyn ni'n parhau i fuddsoddi yn y sectorau sy'n gyrru ein heconomi.
Drwy Fusnes Cymru, Banc Datblygu Cymru, Cymru Greadigol, Cyswllt Ffermio, Croeso Cymru, a chymorth ehangach gan gynnwys ein rhaglen allforio helaeth, mae ein gwaith arloesi wedi helpu i sicrhau swyddi, cefnogi economïau gwledig ac adeiladu gweithlu sy'n barod i wynebu'r dyfodol.
Er mwyn dangos ehangder ac effaith ein cymorth i fusnesau ledled Cymru, mae'n bleser gen i dynnu sylw at nifer o enghreifftiau sy'n dangos amrywiaeth a chyrhaeddiad gwaith:
- Siemens Healthineers, Llanberis – Mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn sail i Ganolfan Ragoriaeth newydd ar gyfer gweithgynhyrchu ac ymchwil uwch, gan ddiogelu 400 o rolau a chreu bron i 100 o swyddi newydd, medrus iawn.
- Jayplas, Gorseinon – Mae grant gwerth £12 miliwn gan Lywodraeth Cymru, ochr yn ochr â buddsoddi preifat, wedi dyblu capasiti ailbrosesu plastig Cymru ac wedi creu dros 100 o swyddi medrus, gan gefnogi'r economi leol a'n huchelgeisiau sero net.
- Grŵp Raven Delta – Gyda chymorth gan y Rhaglen Cyflymu Twf, mae'r cwmni wedi cyfuno ei weithrediadau, gan atgyfnerthu ei arweinyddiaeth a chreu 20 o swyddi o safon ym maes peirianneg, technoleg ddigidol a chydymffurfiaeth.
Mae angen gweithlu medrus ar economi gref. Rydyn ni ar ein ffordd i ddarparu 100,000 o gyfleoedd prentisiaeth ar gyfer pobl o bob oedran yn ystod tymor y Senedd hwn – gan agor llwybrau newydd i waith o ansawdd uchel. Drwy'r Warant i Bobl Ifanc, mae mwy na 60,000 o bobl ifanc eisoes wedi cael mynediad at addysg, hyfforddiant, cyflogaeth neu gymorth personol i ddechrau busnes.
Rydyn ni hefyd yn buddsoddi yn y diwydiannau a fydd yn sicrhau ffyniant Cymru yn y dyfodol – gan gynnwys cynhyrchu hydrogen, dal carbon, gweithgynhyrchu uwch a thechnolegau gwyrdd.
Mae cadarnhau mai Wylfa fydd safle Adweithydd Modiwlaidd Bach cyntaf y DU yn garreg filltir arwyddocaol. Gyda chymorth buddsoddiad gwerth £2.5 biliwn, bydd y prosiect yn creu miloedd o swyddi medrus, yn datblygu cadwyn gyflenwi o'r radd flaenaf yng Ngogledd Cymru ac yn helpu i sicrhau ynni glân a dibynadwy am ddegawdau i ddod.
Yr wythnos nesaf, bydd Uwchgynhadledd Buddsoddi Rhyngwladol y Prif Weinidog yn dod â buddsoddwyr byd-eang a busnesau Cymru at ei gilydd i feithrin partneriaethau newydd a denu rhagor o fuddsoddi yng Nghymru.
Mae ymrwymiad y Llywodraeth hon yn glir: byddwn yn parhau i weithio gyda chyflogwyr, undebau llafur, llywodraethau lleol a chymunedau i ddarparu rhagor o gyfleoedd swyddi, swyddi mwy medrus ac economi decach a mwy gwydn yng Nghymru.
