Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Plant a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mehefin 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers i mi annerch y Siambr fore heddiw ynghylch Southern Cross, rhoddwyd gwybod i mi bod y cwmni wedi cyhoeddi amser cinio eu bod wedi dechrau’r broses o gysoni telerau ac amodau cyflogaeth staff ar draws eu cartrefi gofal yn y Deyrnas Unedig, ac y gallai hynny arwain at ddiswyddo hyd at 3,000 o’r gweithlu o 42,000.

 

Southern Cross sy’n gyfrifol am faterion staffio, er mwyn cynnig gofal priodol i’r preswylwyr. Mae’n rhaid i’r broses o ailstrwythuro ariannol o fewn y cwmni ddigwydd ar sail fasnachol, ac maent wedi llunio cynllun i sefydlogi eu busnes. Rwy’n cael ar ddeall bod y datblygiad diweddaraf hwn yn rhan o’r broses honno, a bod trafodaethau â staff a’r Undebau yn rhan o hynny. Nid yw’n briodol i Lywodraeth Cymru ymyrryd yn y trafodaethau masnachol hyn. Yn ein holl drafodaethau gyda’r cwmni rydym wedi dweud yn glir mai’n prif ystyriaeth ni yw buddiannau’r preswylwyr a bod camau clir yn cael eu cymryd i’w hamddiffyn.