Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog Cymru a Huw Lewis AC, Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, caiff adroddiad terfynol y gwerthusiad o’r Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg ei gyhoeddi. Nod y gwerthusiad oedd mesur effeithiolrwydd a dylanwad y Strategaeth, ac asesu’r graddau y mae wedi cyflawni ei nodau, amcanion a chanlyniadau disgwyliedig. Mae’r adroddiad yn cynnwys 21 o argymhellion i Lywodraeth Cymru a’i rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r adroddiad a byddwn yn rhoi ystyriaeth lawn i’r argymhellion wrth i ni barhau i ddatblygu ein polisïau. Mae’r adroddiad llawn i’w weld yma: http://gov.wales/statistics-and-research/welsh-medium-education-strategy/?skip=1&lang=cy

Rydym yn falch i nodi bod yr adroddiad, ar sail y dystiolaeth a gasglwyd, yn casglu bod cefnogaeth i weledigaeth a nodau’r Strategaeth ymhlith rhanddeiliaid ac ymarferwyr ar lefel genedlaethol a lleol. Mae’r adroddiad hefyd yn casglu bod y Strategaeth wedi arwain at rai canlyniadau cadarnhaol ac wedi darparu fframwaith ar gyfer agwedd fwy strategol, â ffocws, at gynllunio darpariaeth cyfrwng Cymraeg. Mae hefyd, drwy rai o’r rhaglenni sydd wedi’u rhoi ar waith yn ei henw, wedi sicrhau buddiannau i grwpiau a dargedwyd.

Fodd bynnag, ceir heriau y mae angen i ni ymdrin â nhw. Er bod camau wedi’u cymryd i gryfhau prosesau cynllunio, mae angen sicrhau bod y prosesau hyn yn cael eu gwreiddio; hefyd mae angen gwella’r modd rydym ni’n cynllunio’r gweithlu i sicrhau bod gennym ni nifer digonol o ymarferwyr sydd â sgiliau lefel uchel yn y Gymraeg; ac mae angen i ni sicrhau bod ein dysgwyr yn deall bod y Gymraeg yn estyn y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth i’r gymuned a’r gweithle a’u bod yn cael cefnogaeth i ddefnyddio’r iaith ym mhob cyd-destun. Rydym felly yn falch o gyhoeddi y bydd y Siarter Iaith Gymraeg, a ddatblygwyd gan Gyngor Gwynedd, yn cael ei ehangu i’r holl ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg er mwyn darparu fframwaith clir i hyrwyddo a chynyddu defnydd plant a phobl ifanc o’r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi cydnabod ei bod yn siomedig nad ydym wedi cyrraedd holl dargedau 2015 yn y Strategaeth. Rydym yn falch i nodi bod cynnydd wedi’i wneud, a bod y nifer uchaf o blant saith oed bellach yn derbyn Addysg Cyfrwng Cymraeg. Serch hynny, mae’n bwysig cofio bod modelau gwahanol o ddarpariaeth yn bodoli yng Nghymru, a bod cyrraedd targedau “cenedlaethol” yn dibynnu ar berfformiad awdurdodau lleol a darparwyr.

Mae hefyd yn bwysig cofio bod y Strategaeth yn eistedd ochr yn ochr â Strategaeth Iaith Gymraeg Llywodraeth Cymru (Iaith fyw; iaith byw, 2012). Mae rhyngddibyniaeth clir rhwng y ddau gan fod cyfraniad pwysig gan y sector addysg a sgiliau i’w wneud i gefnogi’r nod ehangach o weld yr iaith yn ffynnu ac i  gynyddu caffaeliad a defnydd o’r Gymraeg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo’n llawn i ddatblygiad parhaus addysg cyfrwng Cymraeg. Felly, i gyd-fynd â chyhoeddi’r adroddiad gwerthuso, heddiw rydym yn amlinellu’r blaenoriaethau ar gyfer datblygu addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg dros y 12 mis nesaf. Yn ystod y cyfnod hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda’i rhanddeiliaid, gan roi ystyriaeth i argymhellion y gwerthusiad a nifer o adroddiadau eraill, i bennu’r cyfeiriad tymor hir ar gyfer addysg cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg fel rhan o’r gwaith o ddatblygu’r strategaeth iaith Gymraeg.