Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mehefin 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddodd Llywodraeth y DU y Strategaeth Ddiwydiannol Fodern, cynllun 10 mlynedd, ar 23 Mehefin. Mae'r strategaeth hon yn egluro'r uchelgais ac yn darparu llwybr i gynyddu buddsoddiad busnes a thyfu diwydiannau'r dyfodol. Mae'n rhoi hyder i fuddsoddwyr ac yn helpu i lunio gweledigaeth ar gyfer y dyfodol sy'n adeiladu ar gryfderau Cymru. Mae'r strategaeth yn ategu ein Cenhadaeth Economaidd a'n cryfderau rhanbarthol a lleol. 

Bu'n braf gweithio'n agored ac yn dryloyw gyda Llywodraeth y DU sydd wedi gwrando ac ymgysylltu â'r ystod o dystiolaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i chyflwyno. Mae'r cynllun yn nodi wyth sector sy'n ysgogi twf: Gweithgynhyrchu Uwch; Diwydiannau Creadigol; Diwydiannau Ynni Glân; Digidol a Thechnolegau; Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes; Gwyddorau Bywyd a Gwasanaethau Ariannol. Mae Cymru mewn sefyllfa unigryw, gyda chryfderau sylweddol ar draws llawer o'r sectorau hyn. Ein clystyrau sydd eisoes yn ffynnu yw'r sylfeini y gallwn barhau i adeiladu arnynt i ysgogi arloesedd, cyflymu cyflawni a helpu i gyflawni blaenoriaeth y Prif Weinidog o fwy o swyddi. 

Bydd ein huwchgynhadledd fawr ar fuddsoddi rhyngwladol yn cael ei chynnal ar 1 Rhagfyr. Bydd yn cefnogi ffocws ar ein cryfderau sectoraidd a hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i fuddsoddwyr tramor. Bydd y Strategaeth Ddiwydiannol yn cefnogi'r uwchgynhadledd honno, drwy ddarparu'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar gyfer penderfyniadau buddsoddi hirdymor yn y DU.

Mae'r ymrwymiad i leihau costau ynni yn hanfodol bwysig. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU wrth i'r gwaith fynd rhagddo ar gynllun newydd Cystadleurwydd Diwydiannol Prydain a'r cynnydd i gynllun Sbarduno Diwydiant Prydain. Rydym hefyd wedi ymrwymo i barhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar bwysigrwydd buddsoddiad ehangach, fel dulliau cludo CO2 heblaw am biblinellau. 

Mae cyhoeddiadau eraill i'w croesawu, gan gynnwys Cyflymydd Safleoedd Strategol newydd, clwstwr Bargen Twf Amddiffyn, datblygu Parthau Twf Deallusrwydd Artiffisial (AI) a chymorth parhaus ein Bargeinion Dinesig a Thwf, a fydd yn helpu i ddenu buddsoddiad. 

Yn bwysig, mae'r Strategaeth Ddiwydiannol yn mynd ati i dargedu meysydd cryfder, megis awyrofod yng Ngogledd Cymru a'r clwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf yn y byd yn Ne Cymru. Mae ein diwydiannau gweithgynhyrchu uwch ac ynni glân eisoes yn asedau cenedlaethol, a gallwn barhau i adeiladu a thyfu o sefyllfa o gryfder. Er enghraifft, bydd sefydlu canolfan ar gyfer hyfforddiant doethurol ym maes lled-ddargludyddion, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, yn tyfu ein henw da yn rhyngwladol. Gall buddsoddi mewn gwynt ar y môr ym Mhort Talbot a buddsoddi yn ein seilwaith ein helpu i wireddu cyfleoedd economaidd enfawr er budd ein cymunedau lleol. 

Mae hefyd yn hanfodol gwireddu'r cryfderau sylweddol sydd gennym mewn meysydd fel gwyddorau bywyd, digidol a thechnolegau, gwasanaethau ariannol, gan gynnwys technoleg ariannol, a chreadigol, lle rydym wedi cyflwyno gweledigaeth gref i Gymru. Eir i'r afael yn ofalus â chynlluniau a chyllid y sectorau gyda Llywodraeth y DU a byddwn yn ystyried sut y gallwn addasu ein rhaglenni, megis ar draws ein cronfa sgiliau hyblyg, i helpu i gefnogi a thyfu cyfleoedd.

Mae Llywodraeth y DU hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu Parthau'r Strategaeth Ddiwydiannol ar y cyd â Llywodraeth Cymru a llywodraethau datganoledig eraill. Mae Parthau'r Strategaeth Ddiwydiannol yn cwmpasu'r Porthladdoedd Rhydd a'r Parthau Buddsoddi yng Nghymru, sy'n rhaglenni ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth y DU i gyflawni'r cynllun hwn.

Bydd y cymorth rhanbarthol uwch gan y Swyddfa Fuddsoddi, y Gronfa Gyfoeth Wladol, a Banc Busnes Prydain yn gweithio gyda Banc Datblygu Cymru i ystyried lle mae cyfleoedd ar gyfer buddsoddi cydgysylltiedig ac ystyried lle mae methiant yn y farchnad, a lle y gallwn helpu i sbarduno twf. 

Dros yr wythnosau nesaf byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i ystyried manylion penodol y strategaeth ac i ddeall y camau nesaf mewn perthynas â chyflawni a chydweithredu parhaus. Rwy'n glir y bydd cyflawni yn cael ei angori yn ein partneriaethau rhanbarthol, a byddwn yn gweithio ochr yn ochr ag Awdurdodau Lleol a phartneriaid eraill i barhau i ysgogi twf economaidd trwy Gyd-bwyllgorau Corfforedig. 

Ychydig fisoedd yn ôl, comisiynais bedwar Adolygiad Tymor Byr, sy'n edrych ar Wynt    Arnofiol ar y Môr, Sgiliau Gwyrdd, Deallusrwydd Artiffisial a Chynhyrchiant BBaChau, a bydd pob un ohonynt yn adrodd yn ôl erbyn mis Medi. Mae'r adolygiadau hyn, a gynhaliwyd gydag arbenigwyr yn y sectorau yn adeiladu ar feysydd cyflawni ar draws y Genhadaeth  Economaidd, a byddant yn cefnogi ein dull o weithio gyda Llywodraeth y DU i weithredu'r Strategaeth Ddiwydiannol. 

Cyflawni yw arwyddair y llywodraeth hon. Dyma lywodraeth sydd o ddifrif am ddyfodol Cymru — sy'n canolbwyntio ar gyflawni, yn seiliedig ar degwch, ac yn uchelgeisiol am yr hyn y gall ein cenedl ei gyflawni.