Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters, Y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Un o’r prif ffactorau sydd yn atal pobl rhag cerdded a beicio yn peidio â theimlo’n ddiogel. Bydd gwella diogelwch ar y ffyrdd newydd  nid yn unig yn gostwng y nifer o bobl sydd yn cael eu hanafu ddifrifol a’u lladd ar ein ffyrdd bob blwyddyn, ond bydd hefyd yn helpu i annog mwy o bobl i feicio neu gerdded, yn hytrach na defnyddio’r car ar gyfer teithiau byrrach.

Byddwn yn datblygu strategaeth diogelwch ffyrdd newydd, a fydd yn ategu Llwybr Newydd: Strategaeth Drafnidiaeth Cymru 2021 a’r Cynllun Cyflawni Cenedlaethol ar gyfer Trafnidiaeth. Credwn y dylai diogelwch ar y ffyrdd ddod yn rhan o gylch gwaith y Cydbwyllgorau Corfforaethol newydd fel rhan o'u cynlluniau trafnidiaeth rhanbarthol.

Bydd y strategaeth newydd yn cynnwys ffyrdd newydd o feddwl a deall diogelwch ar y ffyrdd, gan ymgorffori'r syniadau rhyngwladol diweddaraf, gan gynnwys Gweledigaeth Sero a'r System Ddiogel.

Mae gan Gweledigaeth Sero y nod hirdymor ar gyfer system traffig ffyrdd, sydd yn y pen draw yn rhydd rhag marwolaethau ac anafiadau difrifol, yn seiliedig ar egwyddor ‘foesol’ arweiniol i drin marwolaethau ar y ffyrdd fel rhai annerbyniol ac y gellir eu hosgoi, yn hytrach na damweiniau y dylem eu goddef.

Mae'n golygu newid pwysig o geisio atal pob gwrthdrawiad i atal marwolaeth a lliniaru anafiadau difrifol mewn gwrthdrawiadau traffig ffyrdd, problem y gellir ei hatal i raddau helaeth ar sail gwybodaeth gyfredol.

Mae’r System Ddiogel yn seiliedig ar gyfres o egwyddorion sylfaenol pwysig sy’n cynnwys bod pobl yn gwneud camgymeriadau aml sy’n arwain at wrthdrawiadau ar y ffyrdd a bod diogelwch ar y ffyrdd yn gyfrifoldeb a rennir rhwng yr holl randdeiliaid, sy’n cynnwys defnyddwyr ffyrdd, rheolwyr ffyrdd a chynhyrchwyr cerbydau. Mae'n cael ei fabwysiadu fwyfwy ledled Ewrop, Awstralasia a Gogledd America.

Mae gan y System Ddiogel bum piler gweithredu::

  • Defnydd diogel o'r ffyrdd
  • Cerbydau diogel
  • Cyflymder diogel
  • Ffyrdd ac ymylau ffyrdd diogel
  • Ymateb ar ôl damweiniau

Cynhaliwyd adolygiad canol tymor o Fframwaith Diogelwch Ffyrdd ar gyfer Cymru 2013 yn 2018, gan nodi nifer o newidiadau yn ymwneud â llywodraethu, newid ymddygiad, grwpiau targed, data, tystiolaeth, ymchwilio i wrthdrawiadau a thechnoleg.

Heddiw rydym wedi cyhoeddi adolygiad terfynol o'r Fframwaith Diogelwch ar y Ffyrdd presennol a byddwn nawr yn dechrau ar y gwaith o ddrafftio strategaeth a chynllun cyflawni newydd.