Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dim ond wythnos sydd ers inni gyhoeddi ein Strategaeth Frechu COVID-19 ar gyfer Cymru ac rydym eisoes yn gweld cynnydd da.

Mae’r Aelodau’n ymwybodol o’r grwpiau blaenoriaeth. Cytunwyd ar y rhain drwy gymeradwyo cyngor Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) y DU, sy’n gorff annibynnol. Caiff yr un rhestr flaenoriaeth ei dilyn gan bedair gwlad y DU ac mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU yn cefnogi’r rhestr.

Ein blaenoriaeth gyntaf – carreg filltir 1 yn y Strategaeth – yw cynnig dos cyntaf o’r brechlyn i grwpiau blaenoriaeth 1 – 4. Bydd hyn yn cynnwys holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pobl 70 mlwydd oed a hŷn; a phobl eithriadol o agored i niwed yn glinigol. Yn amodol ar gyflenwad, rydym wedi nodi mai ein huchelgais yw gwneud hyn erbyn canol mis Chwefror.

Yn ein Strategaeth, nodwyd 3 marciwr y bwriadwn eu cyrraedd ar y daith tuag at garreg filltir 1. Mae’n dda gennyf ddweud ein bod wedi cyrraedd y marciwr cyntaf – mae holl aelodau o staff rheng flaen Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru wedi cael cynnig eu dos cyntaf. Golyga hyn ein bod ar y trywydd iawn i gyrraedd ein carreg filltir gyntaf.

Mae cynnydd da hefyd yn cael ei wneud tuag at gynnig y brechlyn i holl breswylwyr ac aelodau o staff cartrefi gofal erbyn diwedd y mis hwn. Ar hyn o bryd, rydym yn brechu bron i 1,000 o breswylwyr cartrefi gofal y dydd. Byddaf yn parhau i adrodd am y cynnydd hwn.

Mae’r gwaith sy’n mynd rhagddo i adeiladu ein seilwaith yn gwbl hanfodol i gyflawni ein Strategaeth. Mae ein Strategaeth yn egluro’r model cyfun sydd ar waith. Nod y model hwn yw darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau’r broses o gyflenwi brechiadau mor gyflym â phosibl, sicrhau diogelwch, diwallu anghenion nodweddion y brechlynnau, bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl ac, yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod cyfle cyfartal ledled y wlad a phob cymuned i gael brechiad.

Yn ystod yr wythnos diwethaf, mae ein seilwaith wedi’i ehangu ymhellach, gan gynnwys:

  • agor 4 canolfan brechu torfol arall, gan ddod â’r cyfanswm i 28, ac mae 17 o rai eraill ar y gweill;
  • cynyddu nifer y meddygfeydd sy’n cynnig y brechlyn i dros 100, a’r disgwyl nawr yw y byddwn yn rhagori ar y targed o 250 o feddygfeydd y gwnaethom ymrwymo iddo yn ein Strategaeth erbyn diwedd mis Ionawr;
  • dyblu nifer y dosau a ddosberthir i fyrddau iechyd, gan gynyddu o tua 50,000 yr wythnos diwethaf i dros 100,000 yr wythnos hon;
  • cyflwyno cynllun peilot fferyllfeydd cymunedol – fferyllfa yn y Gogledd yw’r gyntaf i ddechrau brechu ar y safle.

Wythnos diwethaf, datblygais ein model cyfun ymhellach, drwy ychwanegu Canolfannau Brechu Cymunedol at y lleoliadau brechu amrywiol. Bydd y Canolfannau hyn yn dod ag ystod o ymarferwyr gofal sylfaenol at ei gilydd, gan gynnwys deintyddion ac optometryddion, gan gynnig y brechlyn mewn cymunedau lleol.

Mae’r datblygiad hwn yn ategu’r ymdrechion sydd eisoes ar waith o fewn gwasanaethau meddygol cyffredinol ac sy’n destun cynllun peilot ym maes fferylliaeth gymunedol, ond sydd â’r gallu i frechu ar raddfa ehangach na thrwy feddygfeydd yn unig.

Hoffwn hefyd roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau ynglŷn â chynlluniau ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth. O ddydd Iau ymlaen, bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dechrau’r broses o gyhoeddi data gwyliadwriaeth mwy gronynnog ynglŷn â’r niferoedd sy’n cael eu brechu. Bydd hyn yn dechrau gyda dadansoddiad o’r rhai dros 80 mlwydd oed a’r rhai mewn cartrefi gofal. Bydd dadansoddiadau pellach yn cael eu hychwanegu wrth inni fynd drwy’r grwpiau blaenoriaeth.

Ar ben hyn, bydd ystadegwyr Llywodraeth Cymru yn dechrau cyhoeddi’n rheolaidd rai o’r ystadegau mwy gweithredol ynglŷn â’r rhaglen. Bydd y cyntaf o’r cyhoeddiadau hyn yn cael ei ryddhau ddydd Mawrth 26 Ionawr a bydd cyhoeddiad wythnosol wedi hynny. Bydd data ynghylch cyflenwad o’r brechlynnau a gwastraff yn cael eu cynnwys yn y cyhoeddiad hwn. Eto, bydd data pellach yn cael eu hychwanegu wrth i’r rhaglen fynd rhagddi.

O ddydd Mawrth nesaf ymlaen, byddwn hefyd yn dechrau cyhoeddi diweddariad wythnosol ar y cynnydd tuag at gyflawni ein Strategaeth Genedlaethol. Bydd y cyhoeddiad hwn yn nodi’r cynnydd ac yn edrych ar y cerrig milltir sydd ar ddod.

Rwy’n awyddus i’r Aelodau a’r cyhoedd allu cael yr wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu, a gobeithiaf y bydd y trefniadau hyn o gymorth yn hynny o beth.