Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, yn yr wythnos pan allwn nodi bod mwy na 2 filiwn o bigiadau atgyfnerthu COVID-19 wedi cael eu rhoi hyd yma, rwy’n cyhoeddi ein Strategaeth Frechu Genedlaethol y Gaeaf yn erbyn Feirysau Anadlol 2022-2023.

Mae’r strategaeth hon yn canolbwyntio ar sut y byddwn yn cynnig pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y ffliw a COVID-19 yn yr hydref i bawb sy’n gymwys, er mwyn sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y ddau frechlyn.

Mae brechu yn hanfodol i amddiffyn ni ein hunain ac eraill rhag y clefydau anadlol difrifol hyn. Er mwyn helpu i wneud hyn, bydd rhai pobl, fel y rheini sydd â chlefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint, sy’n arbennig o agored i niwed os ydynt yn dal y ffliw neu’r coronafeirws, yn cael cynnig y ddau frechlyn yn yr un apwyntiad.

Mae ein rhaglen frechu’r gaeaf yn erbyn feirysau anadlol yn seiliedig ar y dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf, a chyngor gan y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI), sy’n ein cynghori ar frechu, gan gynnwys pa grwpiau o bobl ddylai gael gwahanol frechlynnau. Mae’r strategaeth newydd yn egluro sut y mae’r dystiolaeth a’r cyngor hwn wedi llywio ein dull gweithredu, a sut y caiff ei defnyddio i ddiogelu unigolion, cymunedau a’n gwasanaethau iechyd a gofal yn ystod gaeaf a allai fod yn heriol o bosibl wrth i wasanaethau wynebu pwysau mawr.

Mae’r strategaeth newydd yn cynnwys yr amcanion canlynol:

  • Cynnig y brechlyn COVID i bob unigolyn cymwys erbyn diwedd mis Tachwedd, a chynnig y brechlyn ffliw erbyn diwedd mis Rhagfyr
  • Sicrhau bod 75% o bobl yn cael y ddau frechlyn
  • Byddwn yn parhau i weithio i sicrhau bod neb yn cael ei adael ar ôl, a bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y brechlyn yng Nghymru er mwyn amddiffyn unigolion, eu teuluoedd a’r cymunedau lle maen nhw’n byw.

Rydw i am sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael y brechlyn ffliw a’r brechlyn COVID-19 os ydynt yn gymwys.

Rwy’n annog pawb sy’n cael gwahoddiad i gael pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y ffliw a COVID-19 yr hydref hwn i fynd i’w hapwyntiadau i gael eu brechlynnau os ydynt yn gymwys yr hydref hwn. Dyma’r ffordd orau i amddiffyn chi eich hunain a’ch teuluoedd, a diogelu Cymru dros y gaeaf.