Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rhoddodd Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010 ddyletswydd ar Weinidogion Cymru i ddatblygu Strategaeth Tlodi Plant ar gyfer Cymru. Cyflawnodd Gweinidogion Cymru y ddyletswydd hon pan gyhoeddon nhw Strategaeth Tlodi Plant 2011, a oedd yn ymdrin â’r cyfnod rhwng 2011 a 2014.  Heddiw, rwy’n cyhoeddi Strategaeth Tlodi Plant newydd ar gyfer Cymru.

Mae Strategaeth Tlodi Plant 2015 yn ailddatgan ein huchelgais i ddileu tlodi plant erbyn 2020 a’n hymrwymiad i gyflawni tri amcan strategol Strategaeth Tlodi Plant 2011.  Mae’r rhain yn canolbwyntio ar leihau nifer y plant sy’n byw mewn aelwydydd heb waith, cynyddu sgiliau rhieni a phobl ifanc er mwyn iddyn nhw allu sicrhau swyddi sy’n talu’n dda a lleihau’r anghydraddoldebau o ran canlyniadau iechyd, addysgol ac economaidd plant a theuluoedd sy’n byw mewn tlodi.  Yn ogystal, rydym wedi ychwanegu dau amcan strategol newydd.

Yr amcanion hyn yw

  • defnyddio’r holl ysgogiadau sydd ar gael i greu economi a marchnad lafur gref sy’n cefnogi’r agenda trechu tlodi ac yn lleihau tlodi mewn gwaith yng Nghymru
  • helpu teuluoedd sy’n byw mewn tlodi i gynyddu incwm eu haelwydydd trwy gyngor ynghylch dyledion a chyngor ariannol, camau gweithredu i fynd i’r afael â’r “premiwm tlodi” (lle mae aelwydydd yn talu mwy am nwyddau a gwasanaethau) a chamau gweithredu i liniaru effeithiau’r diwygiadau lles.  

Rydym yn gwybod bod heriau sylweddol yn ein hwynebu os ydym am wireddu’n huchelgais i ddileu tlodi plant, yn enwedig wrth i Lywodraeth y DU barhau â’i rhaglen o ddiwygiadau lles.  Mae ein hastudiaethau ni’n dangos eu bod yn cael effaith anghymesur ar deuluoedd â phlant a rhaid inni barhau i wneud popeth yn ein gallu i liniaru’r effeithiau hyn lle medrwn.  I fynd i’r afael â’r heriau hyn, mae’r Strategaeth yn pennu gweledigaeth tymor byr, canolig a hir o ran yr hyn sydd angen ei wneud i gyflawni pob un o’n hamcanion strategol.  

Mae’n bwysig sylweddoli na ddylem ystyried y Strategaeth Tlodi Plant ar ei phen ei hun.  Gan adlewyrchu natur drawsffiniol yr agenda trechu tlodi, mae cysylltiad uniongyrchol rhyngddi â Chynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar Drechu Tlodi a strategaethau a deddfau eraill sy’n ceisio gwella’r canlyniadau i bobl sy’n byw mewn aelwydydd isel eu hincwm.  Ein Cynllun Gweithredu ar Drechu Tlodi yw ein prif fecanwaith o hyd ar gyfer cyrraedd nodau ein Strategaeth Tlodi Plant.  Bydd ein Hadroddiad Blynyddol 2015 ar y Cynllun Gweithredu yn cynnwys camau gweithredu ac ymrwymiadau newydd a fydd yn ein galluogi i gyflawni’r blaenoriaethau yr ydym wedi’u hadnabod fel y rhai pwysicaf ar gyfer trechu tlodi plant.

Mae trechu tlodi’n parhau’n flaenoriaeth fawr i mi ac i’r Llywodraeth hon.  Mae holl Weinidogion Cymru’n cydnabod bod ganddynt ran i’w chwarae wrth drechu tlodi trwy ddull traws-lywodraethol.  Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu ac rydym yn gweithio i nodi’n gliriach y gyfran y gall pob rhan o Lywodraeth Cymru ei gwneud at drechu tlodi, gan gyflawni amcanion y strategaeth hon a’n Cynllun Gweithredu ar Drechu Tlodi.  O fewn Strategaeth 2015, rydym yn ymrwymo i gynnal astudiaethau pellach, i’n helpu i ddatblygu canlyniadau a cherrig milltir interim a fydd yn sbarduno cynnydd pellach at drechu tlodi yng Nghymru.  

Gan gydnabod na allwn drechu tlodi ar ein pen ein hunain, mae cydweithio a chanolbwyntio ar gyflawni amcanion cyffredin yn parhau’n flaenoriaeth fawr i Lywodraeth Cymru.  Bydd cydweithio gyda phartneriaid o’r Sector Cyhoeddus, y Sector Preifat a’r Trydydd Sector yn parhau i danategu ein dull o weithio.

Mae Strategaeth Tlodi Plant 2015 Cymru ar gael ar dudalennau Trechu Tlodi gwefan Llywodraeth Cymru.