Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gallaf gadarnhau bod Strategaeth y DU ar gyfer Rheoli mpox (Saesneg yn Unig) wedi’i chyhoeddi. Mpox yw'r term newydd sy'n cael ei ffafrio gan Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer yr hyn a arferai gael ei adnabod fel brech y mwncïod. Mae'r term newydd hwn yn ymgais i ymbellhau oddi wrth yr hiliaeth a'r stigma a welwyd pan ymledodd achosion o’r haint yn gynharach eleni. 

O ganlyniad i effeithiolrwydd ymateb y DU, mae nifer yr achosion wedi bod yn gostwng ar draws pedair gwlad y DU ers mis Gorffennaf. Ers 8 Tachwedd does dim achosion ychwanegol o mpox wedi eu nodi yng Nghymru.

Mae'r strategaeth yn arwydd o symud i ail gyfnod yr ymateb. Yn yr ail gyfnod hwn, er bod niferoedd yr achosion newydd yn isel, o ystyried statws y brigiad o achosion byd-eang, mae’n debygol y byddwn yn parhau i weld lefelau isel a fydd yn cael eu hysgogi gan achosion wedi’u mewnforio yn ogystal â chadwyni byr o drosglwyddiadau domestig. Cytunwyd ar y strategaeth rhwng pedair asiantaeth iechyd cyhoeddus y DU ac mae wedi cael sêl bendith Llywodraeth Cymru.

Yn y tymor byr, mae’r prif nodau strategol fel a ganlyn:

  • Lleihau niwed a achosir gan mpox (derbyniadau i’r ysbyty, cymhlethdodau, salwch difrifol a stigma)
  • Ffrwyno trosglwyddiadau presennol yn y DU
  • Lleihau trosglwyddiadau mpox o fewn y DU o achosion wedi'u mewnforio
  • Chwarae ein rhan i leihau’r baich byd-eang (drwy rannu gwybodaeth a data).

Cael gwared ar mpox yn y DU yw’r nod strategol yn y tymor hir. Fodd bynnag, cydnabyddir bod hwn yn frigiad byd-eang a bydd ein hymdrechion ninnau i sicrhau bod y feirws yn diflannu yn gysylltiedig â’r ymdrech i gael rheolaeth ar y brigiad mewn gwledydd eraill dros y byd hefyd.

Rydym wedi gweld gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion newydd sy'n cael eu nodi, ond byddem yn annog unigolion sydd mewn mwyaf o berygl i barhau i fod yn wyliadwrus ac i fynd i gael eu brechu pan fydd eu bwrdd iechyd yn cysylltu â nhw. 

Mae symptomau mpox yn dechrau 5-21 diwrnod ar ôl y cysylltiad cyntaf, a’r arwyddion clinigol cychwynnol yw twymyn, oerfel, pen tost, blinder, poenau yn y cyhyrau, poenau yn y cymalau, cefn tost a nodau lymff wedi chwyddo.  O fewn 1 i 5 diwrnod ar ôl i dwymyn ddechrau, mae brech yn datblygu, gam ddechrau’n aml ar yr wyneb neu'r organau cenhedlu ac yna'n lledaenu i rannau eraill o'r corff: Mae'r frech yn newid ac yn mynd trwy wahanol gamau cyn troi’n grachen sy’n syrthio i ffwrdd yn ddiweddarach. 

Dylai pawb fod yn ymwybodol o symptomau mpox, waeth beth yw eu cyfeiriadedd rhywiol neu eu rhywedd. Fodd bynnag, mae rhai grwpiau mewn mwy o berygl: dynion hoyw, deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion sy’n cael eu heffeithio’n bennaf gan y brigiad o achosion presennol. Os ydych yn meddwl bod gennych symptomau mpox dylech gysylltu â GIG 111 neu ffonio clinig iechyd rhywiol ar unwaith, ac osgoi cyswllt personol neu rywiol agos ag eraill nes eich bod wedi trafod â gweithiwr meddygol proffesiynol.

Mae cael y brechlyn wir yn diogelu unigolion. Ers fy natganiad ysgrifenedig diwethaf ar 23 Awst, mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi cyhoeddi astudiaeth (Saesneg yn Unig) sy'n nodi bod un dos o’r brechlyn MVA-BN yn darparu tua 78% o effeithiolrwydd yn erbyn y feirws 14 diwrnod ar ôl i unigolyn gael ei frechu. Os ydych yn meddwl eich bod yn gymwys i gael eich brechu ond nid oes unrhyw un wedi cysylltu â chi eto, cysylltwch â'ch gwasanaeth iechyd rhywiol lleol.

Mae GIG Cymru yn adolygu cynllun peilot Cymru gyfan ar gyfer rhoi dosau ffracsiynol drwy'r dechneg ‘fewngroenol’ ac, wrth symud ymlaen, bydd y llwybr brechu yn cael ei lywio gan y gwaith hwn. Byddwn yn cadarnhau'r dull brechu wedi'i ddiweddaru, yn seiliedig ar yr adolygiad hwn yn fuan, er mwyn sicrhau bod cynifer â phosibl o’r boblogaeth sy’n gymwys yn cael y brechlyn.

Datganiad Iechyd Cyhoeddus Cymru ar achosion o mpox.