Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Lansiwyd Strategaeth yr Hawl i fod yn Ddiogel ym mis Mawrth 2010. Mae’n Strategaeth  integredig 6 blynedd i fynd i’r afael â phob math o drais yn erbyn menywod a thrais domestig, a ategir gan gynllun cyflawni tair blynedd. Nododd y Strategaeth bedwar prif faes blaenoriaeth:

  • Atal pob math o drais yn erbyn menywod a thrais domestig a chodi ymwybyddiaeth ohonynt;
  • Rhoi cymorth i ddioddefwyr a phlant;
  • Gwella ymateb asiantaethau cyfiawnder troseddol; a
  • Gwella ymateb y gwasanaethau iechyd ac asiantaethau eraill.

Dyma’r 3ydd Adroddiad Blynyddol sy’n rhoi’r diweddaraf am gyflawni yn erbyn y pedwar prif faes blaenoriaeth sydd yn y Strategaeth.  Ynddo mae adran fanwl sy’n nodi hynt ein gwaith yn erbyn pob cam yn y cynllun gweithredu.  

Mae’r Adroddiad yn amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol a chynigion polisi sy’n anelu at ddod â thrais yn erbyn menywod, trais domestig a thrais rhywiol i ben. Nod y cynigion hyn yw ategu’r gyfraith bresennol ac yn canolbwyntio ar faterion cymdeithasol o fewn yr elfennau o atal, amddiffyn a chefnogi.

I gloi, mae’r adroddiad yn cynnwys hynt y gwaith wneud ar y prosiect  10,000 o Fywydau Diogelach. Nod y prosiect hwn yw gwella’r ddarpariaeth o wasanaethau amlasiantaethol i ddioddefwyr cam-drin domestig yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar ddefnyddwyr y gwasanaethau sy’n cael eu gweld fel dioddefwyr risg canolig neu risg cyffredin.

O’r 89 o gamau yn y Cynllun Gweithredu, mae gwaith da yn cael ei wneud gyda dwy ran o dair o’r camau gweithredu wedi eu cwblhau, a 23 heb eu cwblhau.  Fel rhan o’r Adroddiad Blynyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi sut y mae’n bwriadu symud ymlaen â’r camau sydd heb eu cwblhau eto.  Bydd hyn:

  • yn rhan o’r cynigion newydd am ddeddfwriaeth
  • yn gynllun gweithredu ar ei ben ei hun i bara am flwyddyn neu,
  • yn rhan o weithredu’r prosiect 10,000 o Fywydau Diogelach.

Gellir gweld yr adroddiad hwn ar lein. 

Rhoddir y datganiad hwn yn ystod toriad er mwyn i Aelodau gael gwybod amdano. Os bydd yr Aelodau am i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fo’r Cynulliad yn dychwelyd , rwy’n hapus i wneud hynny.