Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Tai ac Adfywio

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rwy'n falch o roi gwybod ichi ein bod yn datblygu ymgyrch i gefnogi’r stryd fawr leol yng Nghymru, fel yr amlinellwyd yn ein Fframwaith Adfywio Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.

Mae ein hymgyrch, sy’n cael ei harwain yn genedlaethol a’i chyflwyno'n lleol, yn seiliedig ar y neges bwysig "Support Your High Street, Cefnogwch eich Stryd Fawr", a bydd yn rhedeg drwy gydol wythnos olaf mis Medi.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ffocws cenedlaethol drwy roi hunaniaeth i'r ymgyrch, ynghyd â gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus cenedlaethol a rhanbarthol i annog pobl i gefnogi eu stryd fawr leol. Bydd hynny'n galluogi'r stryd fawr leol i gymryd rhan, a datblygu a hyrwyddo eu gweithgareddau eu hunain gan ddefnyddio'r brand a'r hunaniaeth genedlaethol y byddwn ni’n yn eu darparu.

Estynnom wahoddiad i awdurdodau lleol gynnig trefi a digwyddiadau ar gyfer yr wythnos hon, ac rwy’n hynod falch o'r ymateb a ddaeth i law. Mae fy swyddogion wrthi ar hyn o bryd yn trefnu manylion terfynol y digwyddiadau hyn gyda'r Awdurdodau Lleol. Dyma flas ar y mentrau a'r digwyddiadau arfaethedig:

  • Defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol lleol i ddenu sylw at yr ymgyrch
  • Cynigion arbennig oddi wrth fasnachwyr lleol drwy gydol yr ymgyrch
  • Marchnadoedd â thema
  • Digwyddiadau i ddathlu bwyd a diod lleol
  • Siopau gwib
  • Cystadleuaeth addurno ffenestr siop

Rwy'n gwneud y datganiad hwn i sicrhau eich bod i gyd yn ymwybodol o'r ymgyrch hon a'ch gwahodd i sicrhau bod eich cymunedau yn rhan ohoni. Cynhelir digwyddiadau ar draws Cymru, felly bydd cyfle i bawb fanteisio arnynt.