Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi Symud Cymru Ymlaen: Amcanion llesiant Llywodraeth Cymru (2016)  sy'n nodi sut y byddwn yn defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol i'n cynorthwyo i gyflawni ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen, ynghyd â datblygu ffordd o gyfrannu i’r eithaf at y saith nod llesiant cenedlaethol.


Bydd yr amcanion llesiant yn pontio Symud Cymru Ymlaen â'r gwaith o ddatblygu’r pedair strategaeth genedlaethol drawsbynciol; Ffyniannus a Diogel, Iach ac Egnïol, Uchelgais a Dysgu ac Unedig a Chysylltiedig. Bydd y strategaethau hyn yn ein helpu i ystyried sut y gallwn ddefnyddio'r dulliau sydd ar gael inni mor effeithiol â phosib, i sicrhau bod y gwasanaethau cyhoeddus yn cynnig y canlyniadau gorau posibl i bobl Cymru a bod ein heconomi'n parhau i dyfu, gan ddiogelu swyddi a rhoi cyfle i bawb ffynnu. Caiff yr amcanion llesiant eu cloriannu ymhellach wrth inni ddatblygu'r pedair strategaeth. Byddant hefyd yn sbardun i sgwrs â busnesau, cyrff cyhoeddus, unigolion a chymunedau ynghylch y ffordd yr ydym yn mynd i’r afael â’r gwaith o gyflawni.
Cyfeiriad gwe: 


Symud Cymru Ymlaen
http://gov.wales/about/programme-for-government/

 


Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015
http://gov.wales/topics/people-and-communities/people/future-generations-act