Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Medi 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mewn Datganiad Ysgrifenedig ar 7 Mai 2014, cyhoeddais fod model yn cael ei ddatblygu ar gyfer graddio ysgolion cynradd a bod y mesurau perfformiad sy'n rhan o'r system bresennol ar gyfer Bandio ysgolion uwchradd yn cael eu hadolygu.

Rydym yn gwybod bod defnyddio data ar berfformiad i yrru gwelliannau mewn ysgolion wedi arwain at gamau cadarnhaol i lawer o ysgolion a dysgwyr. Rydym wedi gweld gwir gynnydd flwyddyn ar ôl blwyddyn ym mherfformiad ysgolion Band 4 a Band 5 ers cyflwyno'r system Bandio. Bu cynnydd yng nghanran gyffredinol y disgyblion mewn ysgolion Band 5 a gyflawnodd trothwy Lefel 2 gan gynnwys Cymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg a Mathemateg, o 35.0 y cant yn 2012 i 45.0 y cant yn 2013. Yn yr un modd, bu cynnydd ym mherfformiad ysgolion Band 4 o 45.8 y cant yn 2012 i 49.5 y cant yn 2013.

Roedd adroddiad Robert Hill, yr ‘Adolygiad ar Ddarparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol', yn dweud y dylai'r consortia rhanbarthol ddod i ddealltwriaeth rhyngddynt sut i ddefnyddio pedair lefel o gategorïau i fesur perfformiad ysgolion. Fel rhan o'r Model Cenedlaethol ar gyfer Gweithio'n Rhanbarthol, cafodd gwaith ei wneud i sicrhau bod dull cenedlaethol yn cael ei fabwysiadu wrth gategoreiddio ysgolion. Mae swyddogion o lywodraeth leol, y consortia a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi gweithio gyda'i gilydd i ddod â'r elfennau hyn i gyd ynghyd.

Rydym wedi gwrando ar yr adborth a gafwyd ers cyflwyno Bandio ac rydym wedi datblygu ar hyn wrth lunio model ar gyfer ysgolion cynradd a diwygio'r mesurau ar gyfer ysgolion uwchradd. Mae fy adran i hefyd wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, consortia ac ysgolion i sicrhau ein bod yn datblygu dull ar draws y system gyfan i gefnogi a herio ysgolion. Wrth wneud hyn, ystyrir egwyddorion Bandio ar y cyd ag argymhellion adroddiad Hill. Nid system sy'n llwyr seiliedig ar ddata yw'r system newydd hon. Mae'r arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu yn ein hysgolion hefyd yn cael eu hystyried. Mae egwyddorion Bandio yn rhan annatod o'r system.

I ddatblygu ar y gwelliannau a gyflawnwyd dan y system Bandio, ac er mwyn cynnwys ysgolion cynradd, rwy'n cyhoeddi heddiw fod System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cael ei sefydlu a fydd yn berthnasol i ysgolion cynradd yn ogystal ag ysgolion uwchradd. Bydd tri cham i'r system newydd a bydd yn asesu ysgolion ar sail yr wybodaeth ganlynol:

  • ystod o fesurau perfformiad a ddarperir gan Lywodraeth Cymru 
  • hunanwerthuso cadarn gan yr ysgolion ar eu gallu i wella o ran arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu 
  • cadarnhad gan Gynghorwyr Herio'r consortia addysg o’r hunanwerthuso a gynhaliwyd gan yr ysgolion.

Bydd pob ysgol yn cael ei gosod mewn categori yn seiliedig ar y data ar berfformiad a'r hunanwerthuso gan yr ysgol. Y consortia fydd yn penderfynu ym mha gategori y caiff pob ysgol ei gosod. Bydd y categorïau hefyd yn cael eu trafod â'r ysgolion a’u cymedroli gan grŵp sicrhau ansawdd a safoni er mwyn sicrhau cysondeb ym mhob consortiwm ac ar draws yr holl gonsortia. Bydd fy swyddogion i’n mynd i bob un o'r cyfarfodydd hyn.

Dyma dri cham y system:

Cam Un: yn cynnwys data ar safonau a pherfformiad. Ystyried pa mor dda y mae ysgol yn perfformio fydd y cam cyntaf yn y broses. Bydd set o fesurau data y cytunwyd arni yn cael ei llunio gan Lywodraeth Cymru i bob consortiwm ei defnyddio fel rhan o'r broses o gategoreiddio ysgolion. Bydd y set o fesurau yn cael ei defnyddio gan bob consortiwm o fis Medi ymlaen ac yn cael ei gwirio gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr/Ionawr bob blwyddyn. Bydd y safonau yn cael eu dyfarnu o 1-4.

Cam Dau: ar ôl bodloni'r amcan cyntaf, dyfernir categori ysgol ar sail data – yn seiliedig ar berfformiad y disgyblion; bydd yr ail benderfyniad yn seiliedig ar allu'r ysgol i wella ei hunan. Bydd y broses o ddod i ddyfarniad ar ei gallu i wneud gwelliannau ei hunan yn dechrau gyda chanlyniadau’r hunanwerthuso gan yr ysgol, a ddylai fod yn digwydd yn flynyddol eisoes. Bydd y dyfarniad ar allu pob ysgol i wella yn seiliedig ar allu'r ysgol i yrru ei gwelliannau ei hunan ar gyfer y dyfodol, a bydd pwyslais ar yr arweinyddiaeth, yr addysgu a'r dysgu.

Yn dilyn yr hunanwerthuso gan yr ysgol, bydd rhaid sicrhau Cynghorwyr Herio y consortia, a gweld tystiolaeth, fod pob arweinydd ysgol yn defnyddio data ar berfformiad mewn modd cadarn fel rhan o'r broses o reoli a gwella ysgolion yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys llywodraethwyr, penaethiaid, athrawon, arweinwyr canol ac arweinwyr pwnc. Rhaid bod yna dystiolaeth o ddefnydd effeithiol o ddata cywir ar lefel disgybl, dosbarth, grŵp, cohort, pwnc ac ysgol. Bydd Cynghorwyr Herio yn ystyried perfformiad pob dysgwr a grŵp o ddysgwyr yn ogystal ag ansawdd yr addysgu a'r dysgu yn yr ysgol. Bydd perfformiad dysgwyr sy'n derbyn prydau ysgol am ddim yn arbennig yn cael ei adolygu a'i ddadansoddi. Ni fydd cyd-destun unrhyw ysgol yn esgusodi perfformiad gwael. Bydd hyn yn arwain at ddyfarniad o A-D.

Cam Tri: bydd y ddau ddyfarniad yn cael eu hystyried ar y cyd i rannu'r ysgolion yn gategorïau lliw. Bydd hyn yn arwain at raglen o gefnogaeth, her ac ymyrraeth wedi'i deilwra'n benodol ar gyfer pob ysgol. Bydd angen i'r awdurdod lleol a'r gwasanaeth gwella ysgolion rhanbarthol gytuno ar hyn. Bydd y categorïau yn cael eu defnyddio i gynllunio'r modd y caiff adnoddau'r consortia a Llywodraeth Cymru eu targedu a'u defnyddio yng nghyd-destun rhaglenni meithrin gallu cenedlaethol.

Ceir diffiniad o bob categori ar ddiwedd y Datganiad Ysgrifenedig hwn.

Ysgolion Cynradd

Yn achos ysgolion cynradd, bydd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cael ei threialu am y flwyddyn gyntaf, ac yn cael ei hadolygu yn ôl yr angen. Bydd y data ar berfformiad ar gyfer Cam Un yn cynnwys:

Cyflawniad cyffredinol

  • Cyfran y disgyblion sy'n cyflawni Dangosydd y Cyfnod Sylfaen ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a'r Dangosydd Pynciau Craidd ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.

Iaith

  • Cyfran y disgyblion sy'n cyflawni'r deilliant disgwyliedig neu uwch mewn Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg neu Saesneg) ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a'r lefel ddisgwyliedig neu uwch mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (pan fo disgybl wedi cael ei asesu mewn Cymraeg Iaith Gyntaf a Saesneg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, yr un uchaf fydd yn cyfrif)
  • Cyfran y disgyblion sy'n cyflawni'r deilliant disgwyliedig ac un yn uwch, neu sy'n cyflawni'n uwch na hynny, mewn Sgiliau Iaith, Llythrennedd a Chyfathrebu (Cymraeg neu Saesneg) ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a'r lefel ddisgwyliedig ac un yn uwch, neu sy'n cyflawni'n uwch na hynny, mewn Cymraeg Iaith Gyntaf neu Saesneg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2 (pan fo disgybl wedi cael ei asesu mewn Cymraeg Iaith Gyntaf a Saesneg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2, yr un uchaf fydd yn cyfrif)

Mathemateg

  • Cyfran y disgyblion sy'n cyflawni'r deilliant disgwyliedig neu uwch mewn Datblygiad Mathemategol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a'r lefel ddisgwyliedig neu uwch mewn Mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2
  • Cyfran y disgyblion sy'n cyflawni'r deilliant disgwyliedig ac un yn uwch, neu sy'n cyflawni'n uwch na hynny, mewn Datblygiad Mathemategol ar ddiwedd y Cyfnod Sylfaen a'r lefel ddisgwyliedig ac un yn uwch, neu sy’n cyflawni’n uwch na hynny, mewn Mathemateg ar ddiwedd Cyfnod Allweddol 2.

Presenoldeb

  • Cyfran presenoldeb disgyblion mewn sesiynau hanner diwrnod.

Bydd yr holl fesurau yn cael eu rhannu yn chwarteri meincnodi yn seiliedig ar y grwpiau Prydau Ysgol am Ddim (FSM). Yr un grwpiau â'r rheini yn Setiau Data Craidd Cymru Gyfan fydd y grwpiau FSM.

Bydd terfynau'r meincnodau a gaiff eu cyfrifo yn y flwyddyn sylfaen, i osod ysgolion yn eu chwarteri, yn parhau yn sefydlog am gyfnod o dair blynedd. Bydd hyn yn sicrhau bod ysgolion yn gallu dangos cynnydd drwy'r system, gyda'r gwelliannau yn cael eu hadlewyrchu yng nghyfanswm eu sgôr. Mae hyn yn golygu na fydd raid i ysgol symud i lawr yn y system os bydd ysgol arall yn symud i fyny yn y system.

Fodd bynnag, ni fydd pob ysgol yn cael ei chynnwys yn y model. Dim ond ysgolion sydd â thair blynedd o ddata ar berfformiad a fydd yn cael eu cynnwys.

Ysgolion Uwchradd

Bydd y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion hefyd yn cynnwys ysgolion uwchradd a bydd yn datblygu ar lwyddiant Bandio i gynnig dull mwy cyfannol o wella ysgolion.

Fel yn achos Bandio, ni fyddwn yn rhoi'r gorau i ddefnyddio data ar berfformiad ysgolion wrth ddod i ddyfarniad ynghylch ysgol drwy ein system newydd. Mae egwyddorion Bandio yn dal yn rhan annatod o'r System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion. Bydd y system newydd yn defnyddio'r data hwn ar berfformiad i ddod i ddyfarniad ynghylch ysgol a bydd hefyd yn cynnwys dyfarniad ynghylch hunanwerthuso gan yr ysgol o ran arweinyddiaeth, dysgu ac addysgu. Bydd y ddau ddyfarniad yn arwain at rannu'r ysgolion i un o bedwar categori lliw, a bydd hyn yn cael ei wneud gan ddilyn yr un drefn a ddisgrifiais uchod ar gyfer ysgolion cynradd.  

Fel yn achos ysgolion cynradd, bydd hwn yn fodel absoliwt. Bydd hyn yn golygu y gall ysgolion ddangos eu gwelliant yn erbyn eu llinellau sylfaen eu hunain. Bydd hefyd yn golygu y gall ysgolion symud i fyny yn y system ac ni fydd hynny'n golygu bod rhaid i ysgol arall symud i lawr yn y system. Mae'r gwaith ar Gamau Dau a Thri wedi'i gwblhau, ond mae fy swyddogion yn dal i adolygu'r ystod o fesurau data uwchradd ac rwy'n bwriadu gwneud cyhoeddiad arall ynglŷn â hyn ym mis Hydref.

Bydd ffocws diwyro gan y System Genedlaethol newydd ar gyfer Categoreiddio Ysgolion ar ysgolion lle ceir grwpiau o ddysgwyr sy'n tangyflawni neu le nad yw athrawon yn gallu sicrhau bob amser fod pob disgybl yn cyflawni ei botensial. Ni fydd modd rhoi'r ysgolion hynny yn y categori 'Gwyrdd'. Mae hwn yn newid mawr na fydd yn caniatáu i gyd-destun gael ei ddefnyddio fel esgus ac ni fydd ysgolion sy'n gorffwys ar eu rhwyfau yn cael eu hesgusodi ychwaith.

Yn olaf, bydd y consortia yn chwarae rôl hanfodol. Bydd broceru cefnogaeth i ysgolion yn un o swyddogaethau allweddol y consortia rhanbarthol. Mae'n destun cryn galondid imi fod penaethiaid ein hysgolion gorau ym mhob cwr o Gymru eisoes yn ymateb i'r cais i'w hysgolion gefnogi ysgolion sydd wedi nodi meysydd i'w datblygu. Rwy'n falch hefyd fod hyfforddiant cenedlaethol a rhanbarthol wedi'i gynnal i'w cefnogi. Fel rhan o'i arolygiad o'r consortia rhanbarthol, bydd gan Estyn rôl allweddol i'w chwarae i sicrhau bod y System Genedlaethol ar gyfer Categoreiddio Ysgolion yn cynnig adlewyrchiad teg o sefyllfa bob ysgol a'i chyfeiriad at y dyfodol.

Diffiniad o'r categorïau:

Y Categori Gwyrdd - ein hysgolion gorau yw'r rhain:

  • maent yn adnabod eu hunain yn dda ac yn penderfynu ar eu blaenoriaethau eu hunain ar gyfer gwella ac yn eu gweithredu
  • maent yn wydn o ran eu tîm o staff
  • maent yn cael eu gwobrwyo gyda mwy o ymreolaeth
  • byddant yn cael eu herio i symud ymlaen neu i gynnal rhagoriaeth
  • mae ganddynt y gallu i arwain eraill yn effeithiol (cefnogaeth ysgol i ysgol).

Y Categori Melyn – ein hysgolion da yw'r rhain:

  • maent yn gwybod am y rhan fwyaf o feysydd y mae angen eu gwella ac yn eu deall
  • maent yn gwella llawer o agweddau ar berfformiad yr ysgol eu hunain
  • byddant yn cael her a chefnogaeth wedi'u teilwra'n benodol ar eu cyfer a fydd yn cael eu rhoi yn ôl yr angen

Y Categori Oren – ein hysgolion sydd angen gwella yw'r rhain:

  • nid ydynt yn gwybod am yr holl feysydd y mae angen eu gwella nac yn eu deall
  • mae llawer o agweddau ar berfformiad yr ysgolion nad ydynt yn gwella'n ddigon cyflym
  • byddant yn derbyn her ac ymyrraeth wedi'u teilwra'n benodol ar eu cyfer a fydd yn cael eu rhoi yn ôl yr angen
  • byddant yn derbyn llythyr yn awtomatig oddi wrth y consortiwm
  • bydd hunanwerthuso gan yr ysgol a chynllun gwella yr ysgol yn cael eu cymeradwyo gan y consortiwm
  • bydd disgwyl mai am y tymor byr yn unig y bydd ysgolion yn aros yn y categori oren
  • byddant yn cael her ac ymyrraeth a fydd yn para am gyfnod penodedig, ag iddynt ffocws pendant,  i'w helpu i wella neu/a byddant mewn perygl o syrthio i'r categori coch.  

Y Categori Coch  – ein hysgolion sydd angen gwella fwyaf yw'r rhain:

  • byddant yn derbyn ymyrraeth feirniadol
  • byddant yn derbyn llythyr rhybuddio awtomatig oddi wrth yr ALl a gwybodaeth am y pwerau statudol a gaiff eu harfer lle bo angen
  • byddant yn sbarduno camau cydweithio dwys ac effeithiol rhwng yr ALl a'r consortiwm
  • byddant yn sbarduno cychwyn y trefniadau ar gyfer ysgolion sy'n peri gofid sy'n berthnasol i Gymru Gyfan 
  • byddant yn colli ymreolaeth ac yn destun mwy o gyfarwyddyd.

Yn dilyn dilysu’r data yn ystod Cam Un y model, bydd categorïau pob ysgol yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr bob blwyddyn.