Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Mawrth 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyhoeddais yn ddiweddar fy mwriad i sefydlu system electronig ar gyfer cofnodi symudiadau defaid er cryfhau’n rheolaeth ar y mater pwysig hwn.  Rwyf wedi penderfynu heddiw bod Llywodraeth Cymru’n mynd i fuddsoddi mewn system gofnodi electronig Gymreig ar ran diwydiant ffermio Cymru, a fydd yn defnyddio cronfa ddata unigol.  
Rwyf wedi penderfynu mai’r peth gorau er lles buddiannau Cymru fydd buddsoddi yn ein cronfa ddata ein hunain a fydd, trwy gydweithio mewn partneriaeth go iawn â’r diwydiant, yn darparu system effeithiol ar gyfer olrhain defaid a chreu cyfleoedd i fod yn fwy proffidiol. 
Yn dilyn y penderfyniad strategol hwn, byddwn yn dechrau casglu a phennu gofynion y system newydd. Mae gweithio trwy bartneriaeth, fel  yr esboniais yn fy ymateb i adroddiad Gareth Williams, ‘Hwyluso’r Drefn’, yn fy marn i mor bwysig a hanfodol ac rwy’n annog y diwydiant i edrych ar y system newydd a mynnu’r gorau ohoni, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio er lles y diwydiant a lles Cymru. 
Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion edrych yn ofalus ar yr holl fuddiannau y gallai system Gymreig esgor arnyn nhw, gan gynnwys ailasesu a fyddai’r rhanddirymiad presennol gyda’r EID yn dal i fod yn briodol gyda chronfa ddata defaid ganolog. Byddaf yn gwneud cyhoeddiadau manylach eto yn 2012.