Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r achos dros fuddsoddi mewn tai cymdeithasol mor gryf ag y bu erioed. Dyna pam mae tai cymdeithasol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon a dyna pam yr ydym wedi nodi'r ymrwymiad heriol i ddarparu 20,000 o gartrefi carbon isel newydd i'w rhentu yn y sector cymdeithasol yn ystod tymor y llywodraeth hon.

Mae ein targed o 20,000 yn canolbwyntio ar gynyddu cartrefi yn y sector cymdeithasol. Gadewch i mi fod yn gwbl glir, nid yw'r targed hwn yn ymwneud â thai marchnad. Serch hynny, credaf mewn cymunedau gwirioneddol gynaliadwy ac er mwyn cyflawni hyn rhaid i ni sicrhau cymunedau deiliadaeth gymysg.

Er bod angen parhaus yng Nghymru am dai marchnad, bydd ein targed o 20,000 yn canolbwyntio'n benodol ar gartrefi sy'n cael eu rhentu allan gan landlordiaid cymdeithasol. Byddwn yn diffinio ein targed o fewn y diffiniad cydnabyddedig o dai fforddiadwy yn TAN2[1]. Bydd ond yn cynnwys cartrefi cymdeithasol i'w rhentu, cartrefi canolradd i'w rhentu a chynlluniau rhanberchnogaeth.

Mae adeiladu cartrefi yn cymryd amser ac mae angen tai ledled Cymru erbyn hyn. Mae'n hanfodol bod landlordiaid cymdeithasol yn gallu diwallu'r angen uniongyrchol hwn am dai a bod yr opsiwn o wneud hynny drwy gaffaeliadau, lle bo'n briodol, yn parhau. Mae caffael yn bwysig o ran helpu i ddiwallu anghenion ein grwpiau mwyaf agored i niwed, yn enwedig i sicrhau y gallwn symud y rhai sydd mewn llety dros dro ar hyn o bryd i gartrefi parhaol yn gyflym. Er ein bod yn canolbwyntio ar adeiladu cartrefi newydd a bod y mwyafrif helaeth o'n hymrwymiad yn cael ei gyflawni drwy adeiladu cartrefi newydd, rydym yn cydnabod y rôl y gall caffael ei chwarae ac felly bydd caffaeliadau’n cyfrannu at y targed tai.

Hoffwn ei gwneud yn glir y dylai hyn fod yn flaenoriaeth yr ydym ni, fel Aelodau'r Senedd, i gyd yn ei chefnogi ac y dylai pob un ohonom fod yn gweithio tuag ati; gan ein bod nawr, yn fwy nag erioed, yn gallu gwerthfawrogi'r hyn y mae'n ei olygu i gael to diogel dros ein penn

[1] https://llyw.cymru/sites/default/files/publications/2018-09/tan2-cynllunio-tai-fforddiadwy.pdf