Neidio i'r prif gynnwy
Cyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer Mwy o Gartrefi

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Rhagfyr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod Canllaw Gweithredu Tai Gwledig Cymru yn cael ei gyhoeddi heddiw.

Mae'r canllaw yn adnodd i awdurdodau lleol, landlordiaid cymdeithasol, gweithwyr tai proffesiynol, cymunedau a phartneriaid eraill sy'n ymwneud â datblygu tai. 

Yn fwy penodol, mae'n cynnig mewnwelediadau, strategaethau, astudiaethau achos ac adnoddau ymarferol i wella'r cyflenwad o dai fforddiadwy a chynaliadwy yng nghefn gwlad Cymru.

Mae'n darparu fframwaith cynhwysfawr i ddeall a mynd i'r afael â heriau unigryw a chymhleth tai gwledig.

At hynny, rwy'n falch hefyd o gadarnhau bod cylch ceisiadau rhaglen Swyddogion Galluogi Tai Gwledig (RHE) 2026-27 ar waith, gyda chyfanswm o £183,600 o gyllid wedi'i neilltuo i'w ddefnyddio. 

Mae gan Swyddogion Galluogi Tai Gwledig rôl bwysig wrth weithio gyda phartneriaid, gan gynnwys cynllunwyr, cynghorau cymuned a thref yn ogystal â chymdeithasau tai i gynorthwyo gyda'r gwaith o ddarparu tai fforddiadwy i gymunedau lleol. Mae llawer o'r cartrefi a ddarperir gan bartneriaid Swyddogion Galluogi Tai Gwledig hyd yma hefyd wedi cyfrannu at ein targed o 20,000 o gartrefi carbon isel ychwanegol i'w rhentu yn y sector cymdeithasol.