Neidio i'r prif gynnwy

Edwina Hart, Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Tachwedd 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod y toriad byr, cefais gyfle i ymweld â Japan i hyrwyddo cysylltiadau busnes newydd ynghyd â rhai sydd eisoes yn bodoli rhwng ein gwledydd.

Roeddwn yn arbennig o falch tra roeddwn yn Tokyo o gyhoeddi buddsoddiad newydd sbon yng Nghymru - Calbee, cwmni mawr sy’n cynhyrchu byrbrydau a grawnfwydydd, a fydd yn creu tua chant o swyddi yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.  Cefais gyfarfod Calbee am y tro cyntaf i dynnu eu sylw at Gymru yn ystod fy ymweliad â Tokyo yn 2013 ac mae’r ffaith bod y cwmni wedi dewis Cymru fel eu canolfan Ewropeaidd yn wyneb cystadleuaeth o bob cwr o Ewrop a’r DU yn deyrnged amlwg i’r hyn sydd gan Gymru i’w gynnig.  Rwy’n hyderus mai dyma ddechrau perthynas hirdymor rhwng Calbee a Chymru.    

Hefyd bûm yn ymweld â chwmnïau sydd eisoes yn buddsoddi yng Nghymru - Sony, Panasonic, Sharp a Toyota - ac yn cyfarfod cwmnïau eraill o ddiddordeb posibl.  Cefais drafodaethau helaeth gydag uwch reolwyr Hitachi am eu buddsoddiad ym mhrosiect niwclear newydd Ynys Môn.  Manteisiais ar y cyfle hefyd i gyfarfod amrywiol weithredwyr twristiaeth i drafod sut gall Cymru ddiwallu anghenion y farchnad dwristiaeth o Japan.     
Cynhaliais dderbyniad, ar y cyd â’r Llysgennad Prydeinig, ar gyfer cysylltiadau busnes a chyfeillion Cymru yn Japan.  Roedd hyn yn cynnwys aelodau “Clwb Hiraeth”, cymdeithas ar gyfer pobl fusnes o Japan a fu gynt yn gweithio yng Nghymru ac sydd, ar ôl dychwelyd adref, yn dymuno cadw mewn cysylltiad.  

Mae’n 40 mlynedd ers i’r cwmni cyntaf o Japan fuddsoddi yng Nghymru. Mae nifer o rai eraill wedi dilyn ac, fel y mae Calbee yn dangos, mae cwmnïau’n parhau i ddewis Cymru heddiw. Nid oes amheuaeth bod y farchnad buddsoddiadau rhyngwladol wedi dod yn fwy cystadleuol dros y degawdau, ac mae’n hanfodol i ni weithio’n galed er mwyn anfon y neges fod Cymru ar agor ar gyfer busnes.  Mae’r weinyddiaeth hon wedi rhoi blaenoriaeth i berthynas Cymru â Japan ac rwy’n edrych ymlaen at flynyddoedd eto o fusnes sydd er lles i’r ddwy wlad.