Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol
Mae’r diwydiant gemau yn sector blaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru yr ydym yn ei gefnogi drwy Gymru Greadigol. Ym mis Mawrth 2025, cefais y pleser o gael mynd i'r Gynhadledd Datblygu Gemau (GDC) yn San Francisco gyda 30 o gynrychiolwyr o'r diwydiant gemau yng Nghymru. Y GDC yw prif ddigwyddiad y byd ar gyfer datblygwyr gemau fideo ac ers dros 30 mlynedd mae wedi denu datblygwyr a phobl amlwg yn y maes i rwydweithio a helpu'r diwydiant i dyfu. Fel y prif ddigwyddiad rhyngwladol yn un o'n prif sectorau twf, mae'r GDC yn un o’r teithiau masnach y mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cefnogaeth lawn iddi fel rhan o'n rhaglen allforio ac rydyn ni wedi bod yn helpu cwmnïau gemau o Gymru i fynd iddi ers 2015.
Yn y GDC eleni cefais gwrdd â nifer o arweinwyr, entrepreneuriaid a chrewyr rhyngwladol yn y diwydiant gan gynnwys PlayStation, Qualcomm, Niantic, Gearbox a Stealth. Mae'r sgyrsiau hyn yn help amhrisiadwy i ddeall y tueddiadau sy'n dod i'r amlwg, offer a thechnolegau newydd, ac arferion gorau a allai roi hwb i'r diwydiant yng Nghymru. Yn bwysicach fyth, bu'n gyfle i ni gryfhau ein perthynas â phartneriaid byd-eang, gan fraenaru'r tir ar gyfer cydweithio, buddsoddi, a throsglwyddo gwybodaeth i wthio ein gemau yn eu blaenau.
Roedd yn bleser hefyd cael ymuno â Llysgennad Prydain yn yr Unol Daleithiau, yr Arglwydd Peter Mandelson mewn digwyddiad a drefnwyd gan yr Adran Busnes a Masnach i ddathlu twf diwydiant gemau y DU a Chymru. Cafodd Cymru ei chynrychioli hefyd mewn nifer o ddigwyddiadau gydol yr wythnos gan gynnwys brecwast buddsoddwyr a ddarparwyd ar y cyd ag UKIE. Does dim dwywaith yn fy meddwl ynghylch gwerth y digwyddiadau hyn o ran cysylltu cwmnïau o Gymru â ffynonellau cyllido posibl ar gyfer buddsoddi masnachol.
Cefais gyfle hefyd yn y GDC i drafod â Lynwen Brennan, yn enedigol o Sir Benfro, a John Hampion o Lucasfilm, i drafod potensial prosiectau cydweithredol teledu a ffilm yng Nghymru yn y dyfodol. Mae'r diwydiant sgrin hefyd yn dal i fod yn flaenoriaeth allweddol i Cymru Greadigol oherwydd ei gyfraniad at dwf yr economi.
Mae potensial y sector gemau'n fy nghyffroi oherwydd y manteision economaidd a ddaw o dwf y sector, ei ragolygon i bobl gael hyfforddiant a gwaith technegol a chreadigol medrus a'i gyfleoedd i gyflwyno diwylliant ac iaith Cymru i gynulleidfa fyd-eang drwy gemau fideo a wnaed yn ein gwlad ni.
Mae edrych allan tua'r byd hanfodol ar gyfer datblygu'r economi, ac mae'r gweithgareddau yn y GDC yn ategu'r gwaith y mae Cymru Greadigol yn ei wneud bob dydd i gefnogi'r diwydiant hwn. Er enghraifft, rwy'n siŵr eich bod yn falch o weld penodi arweinwyr o'r maes gemau sydd â phrofiad sylweddol o'r sector ar Fwrdd Anweithredol Cymru Greadigol. Mae'r cynrychiolwyr hyn eisoes yn ein helpu i ddirnad y sector yn well, gan gynnwys sut i ddelio â mwy o awtomeiddio, ac ymdopi â newidiadau i ddeinameg cyflogaeth yn sgil digwyddiadau rhyngwladol diweddar. Maent yn gyswllt pwysig hefyd ag arweinwyr diwydiannau eraill.
Nid oes unrhyw amheuaeth y bydd tyfu a chynnal diwydiant gemau iach yn dod â heriau yn ei sgil. Dyna pam ein bod yn cefnogi gweithgarwch allforio rhyngwladol â chyllid a chymorth ar gyfer datblygu busnes yn y sector, hynny drwy Cymru Greadigol. Mae'r cyllid hwn wedi'i anelu i sicrhau twf cynaliadwy yn y tymor canolig i hir. Yn benodol, mae ein cyllid datblygu yn helpu busnesau yn eu cyfnod cynnar ac mae ein cyllid twf diweddar yn helpu busnesau i dyfu. Bydd y rownd nesaf o gyllid datblygu yn dechrau yn ddiweddarach y mis hwn, ac rwy'n annog y rheini sydd am fod yn rhan o'r diwydiant hwn i wneud cais.
Wrth i ni barhau i ddatblygu ac ehangu ein diwydiant gemau yng Nghymru, mae hyrwyddo ein diwydiant i'r byd yn allweddol. Mae'r GDC felly yn gyfle enfawr nid yn unig i'n datblygwyr ond hefyd i roi lle amlwg i'n gwlad fel canolfan greadigol yn y DU. Fel Gweinidog, fy nod yw sicrhau bod ein gwlad yn parhau i fod yn geffyl blaen o ran arloesi technegol a busnes, gan ddefnyddio potensial enfawr y diwydiant creadigol hwn a diwydiannau creadigol eraill. Y diwydiant datblygu gemau yw un o'r rhai sy'n tyfu gyflymaf yn y byd. Mae'n rhan unigryw o'r diwydiannau creadigol. Yn ogystal â sbarduno twf yr economi, mae hefyd yn meithrin creadigrwydd, cydweithredu a deialog fyd-eang.
Hoffwn ddiolch i'r cwmnïau a ddaeth gyda fi i'r GDC eleni am gymryd rhan mor amlwg ac i'n partneriaid am eu hymrwymiad i'n helpu i dyfu'r diwydiant gemau yng Nghymru. Edrychwn ymlaen at fwy o gyfleoedd i gydweithredu a fydd yn ein helpu i wireddu potensial y sector gemau yng Nghymru.