Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyllid 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mawrth 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Yn ystod yr hydref y llynedd, cynhaliais gyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol yn ymwneud â’r Gyllideb ledled Cymru er mwyn cyfarfod â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i drafod sut effaith yr heriau ariannol sy’n wynebu Llywodraeth Cymru ar y gwasanaethau sy’n cael eu darparu gennym i bobl Cymru.

I mi, roedd y cyfarfodydd hyn yn ffordd ddefnyddiol o weld a chlywed barn y rheini sy’n defnyddio ac yn gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus. Hefyd, rwy’n credu ei bod yn bwysig i’r trafod hwn ddigwydd gydol y flwyddyn. O gadw hyn mewn cof, rwy’n mynd ar Daith y Gyllideb ledled Cymru rhwng mis Mawrth a mis Medi 2014.

Bydd Taith y Gyllideb yn cynnwys cyfres o ddigwyddiadau rhanbarthol i’w cynnal yn fisol, a bydd yn cynnig cyfle i gyfarfod a gwrando ar staff rheng flaen sy’n gweithio i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus - yn yr awdurdodau lleol, ym maes iechyd, tai a’r trydydd sector.  Hefyd byddaf yn ymweld â phrosiectau a sefydliadau er mwyn cyfarfod â’r rheini sy’n defnyddio’r gwasanaethau hyn – y prentisiaid a’r disgyblion, pobl sy’n byw mewn tai cymdeithasol a rhieni - er mwyn clywed eu barn am y gwasanaethau sy’n cael eu darparu iddynt a’r gwasanaethau sydd o bwys iddynt..

Byddaf yn cychwyn fy nhaith o amgylch y De-ddwyrain heddiw ac yn adrodd yn ôl i’r Aelodau yn yr hydref.