Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mai 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae fferyllfeydd cymunedol yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol mewn cymunedau lleol ledled Cymru a chânt eu gwerthfawrogi'n fawr gan y cyhoedd.

Wedi trafodaethau â Fferylliaeth Gymunedol Cymru, rwy'n sicrhau bod cyllid ychwanegol gwerth £6 miliwn ar gael i'r sector fel taliad sefydlogrwydd untro ar ddiwedd blwyddyn ariannol 2024-25. Bydd y buddsoddiad sylweddol hwn yn helpu fferylliaeth gymunedol i gynnal a chyflymu cynnydd o ran ein huchelgais hirdymor ar gyfer diwygio, fel yr amlinellir yn Presgripsiwn Newydd. 

Yn bwysig, bydd yn sicrhau y bydd y gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf yng Nghymru, gwasanaeth sydd wedi ennill sawl gwobr, a'r gwasanaeth Haint y Llwybr Wrinol newydd a roddwyd ar waith yn ystod yr haf y llynedd, ar gael yn wasanaethau a gomisiynir yn genedlaethol o 4 Mehefin a 1 Hydref ymlaen yn y drefn honno. 

Golyga hyn y bydd pobl yn gallu ceisio cyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ar gyfer y cyflyrau hyn mewn 99% o fferyllfeydd ledled Cymru, yn barod felly at gyfnod prysur y gaeaf, gan gyfrannu at ein huchelgais ehangach o sicrhau mynediad mwy hwylus at wasanaethau gofal sylfaenol a helpu i liniaru'r pwysau ar feddygfeydd teulu. 

Mae cyflwyno'r ddau wasanaeth hyn ar draws rhwydwaith o fferyllfeydd cymunedol Cymru yn ychwanegol at y Cynllun Gwasanaethau Anhwylderau Cyffredin presennol, sydd bellach yn darparu cyngor a thriniaeth yn rhad ac am ddim ar gyfer 28 o anhwylderau cyffredin. 

Bydd y buddsoddiad ychwanegol gwerth £6 miliwn mewn fferylliaeth gymunedol yn sail i'n gwaith uchelgeisiol o ddiwygio gofal sylfaenol a chynnal cynaliadwyedd hirdymor fferyllfeydd. Bydd hefyd yn sicrhau bod y GIG yn gwneud y defnydd gorau o sgiliau ac arbenigedd fferyllwyr, technegwyr fferyllol a'r tîm fferyllol ehangach ym mhob cymuned yng Nghymru.