Neidio i'r prif gynnwy

Julie Morgan AS, Y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu gwireddu ein hymrwymiad allweddol i gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol i staff gofal cymdeithasol – gan gynyddu cyflogau degau o filoedd o bobl wrth inni wynebu un o’r argyfyngau costau byw gwaethaf – ym mlwyddyn gyntaf y Llywodraeth hon.

Rydym wedi ymrwymo £43m yn y Gyllideb i gyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen. Ar ben hynny, i gefnogi ein nod ehangach i wella statws, telerau ac amodau’r gweithlu ac i ysgogi newid cynaliadwy yn y sector, yn ogystal â chefnogi pobl wrth i brisiau a chostau gynyddu, byddwn yn gwneud taliad ychwanegol i helpu’r rhai sy’n gymwys ar gyfer y cyflog byw gwirioneddol o fis Ebrill ymlaen.

Byddwn yn buddsoddi £96m ychwanegol i wneud hyn, gan atgyfnerthu ein hymrwymiad i’r holl weithwyr hynny yn y sector sydd wedi gwneud cyfraniad mor werthfawr i’n bywydau, ac sy’n parhau i wneud hynny. Gobeithiaf y bydd y taliad ychwanegol hwn, ynghyd â’r cyflog byw gwirioneddol, yn ein helpu hefyd i ddelio â rhai o’r heriau sylweddol sy’n wynebu darparwyr o ran recriwtio a chadw pobl sydd â’r sgiliau angenrheidiol i gyflawni’r rolau hanfodol hyn.

Bydd y cynnydd i’r cyflog byw gwirioneddol yn berthnasol i weithwyr cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref, yn y gwasanaethau i oedolion a phlant. Bydd hefyd yn cael ei gynnig i Gynorthwywyr Personol a ariennir drwy Daliad Uniongyrchol.

Swm gros y taliad ychwanegol, a fydd ar gael i’r rhai sy’n gymwys am y cyflog byw gwirioneddol, fydd £1,498. Mae’n golygu y bydd gweithwyr gofal cymdeithasol ar y gyfradd dreth sylfaenol yn cael tua £1,000 yn eu pecyn cyflog ar ôl didyniadau. Bydd modd ei gael mewn un taliad neu mewn rhandaliadau misol. Bydd y taliad hwn, a fydd ar gael i oddeutu 53,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru, yn cael ei reoli ar ein rhan gan awdurdodau lleol. Rydym yn ddiolchgar i’r awdurdodau lleol am wneud hynny yn y cyfnod heriol hwn.

Bydd y taliad ychwanegol hefyd yn cael ei wneud i uwch staff gofal a rheolwyr mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref. Drwy gynnwys y gweithwyr gofal cymdeithasol hyn, rydym yn cydnabod pwysigrwydd ein hymrwymiad i broffesiynoli’r sector ymhellach a gwella llwybrau gyrfaoedd.

Rydym wedi cyflawni dau gynllun blaenorol yn 2020 a 2021 a wnaeth daliadau cydnabyddiaeth i wobrwyo ymdrechion staff gofal cymdeithasol sydd wedi darparu gofal hanfodol i’n dinasyddion mwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig Covid.  

Mae’r taliad ychwanegol hwn yn wahanol – mae wedi’i gyplysu’n benodol â chyflwyno’r cyflog byw gwirioneddol ac mae’n ffurfio rhan o’n hymrwymiad i wneud gwelliannau i ddatblygiad proffesiynol staff gofal cofrestredig mewn cartrefi gofal ac ym maes gofal cartref.

Rydym am weld mwy o bobl yn ymgymryd â swyddi parhaol ym maes gofal cymdeithasol ac yn dechrau gyrfa sy’n rhoi boddhad iddynt. O ganlyniad, ni fydd y taliad yn cael ei wneud i staff asiantaeth.

Rydym hefyd am i’r bobl hynny sy’n meddwl gadael gofal cymdeithasol, neu sydd eisoes wedi gwneud hynny, ailystyried.

Rydym yn sefydlu nifer o weithgorau gydag awdurdodau lleol, darparwyr a rhanddeiliaid i ddatblygu canllawiau ar fanylion y dull gweithredu a byddwn yn cyhoeddi’r holl wybodaeth maes o law. Rydym yn disgwyl i’r taliad ychwanegol a’r cyflog byw gwirioneddol gael eu prosesu yng nghyflog pobl rhwng mis Ebrill a mis Mehefin, oherwydd cymhlethdod y sector gofal a’r nifer mawr o gyflogwyr perthnasol.

Edrychaf ymlaen at weithio gydag aelod dynodedig Plaid Cymru ar ein hymrwymiad yn y Cytundeb Cydweithio ynglŷn â dyfodol gofal cymdeithasol. Mae hyn yn cynnwys sefydlu grŵp arbenigol i gefnogi ein huchelgais ar y cyd i greu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol, am ddim pryd a lle bynnag y bo’i angen. Byddwn hefyd yn parhau i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal yn well a gweithio tuag at sicrhau chwarae teg o ran cydnabyddiaeth a thâl i weithwyr iechyd a gofal.

Bwriadaf wneud datganiad pellach i’r Senedd yr wythnos nesaf.