Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf am hysbysu Aelodau’r Senedd faint o daliadau BPS llawn a balans fydd yn cael eu gwneud fory, 9 Rhagfyr.

Bydd 90% o’r rheini sydd wedi hawlio yn cael eu taliad BPS 2022 llawn neu falans yfory. Bydd taliadau gwerth £62.5m yn cael eu gwneud i 14,400 funesau fferm Cymru, ar ben y £161m o ragdaliadau BPS gafodd eu talu ar 14 Hydref.

Llwyddodd RPW unwaith eto i sicrhau bod nifer trawiadol yn cael eu taliadau BPS ar ddechrau’r cyfnod talu gan roi peth sicrwydd ariannol i fusnesau fferm yn ystod cyfnod anodd.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i randdeiliaid y diwydiant sydd unwaith eto wedi cydweithio’n glos â’m swyddogion i ddarpau’r nifer ardderchog o daliadau BPS.

Bydd fy swyddogion yn dal ati i weithio’n galed i brosesu’r BPS 2022 sy’n weddill cyn gynted ag y medrwn. Rwy’n disgwyl y bydd pawb heblaw am yr achosion mwyaf cymhleth wedi’u talu’n llawn erbyn 30 Mehefin 2023.