Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf unwaith eto wedi galw ar Lywodraeth y DU i adfer ei chyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai yn dilyn cylch arall o doriadau sylweddol i'r ffynhonnell werthfawr hon o gyllid.

Defnyddir Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai gan awdurdodau lleol i liniaru effeithiau diwygiadau lles eraill gan gynnwys helpu pobl y mae'r cap ar fudd-daliadau yn effeithio arnynt, newidiadau i'r lwfans tai lleol a'r dreth ystafell wely.

Mae'r taliadau hyn yn helpu i atal tenantiaid rhag mynd i ôl-ddyledion rhent, ac ar adeg pan fo pobl yn wynebu argyfwng costau byw a rhenti preifat yn cynyddu mae'n amhosibl deall pam mae llywodraeth y DU wedi penderfynu gwneud toriadau mor llym.

Mae'r gostyngiad yn y cyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai sydd ar gael i awdurdodau lleol Cymru yn y flwyddyn ariannol hon yn cyfateb i doriad o tua 27% - £2.3 miliwn - o'i gymharu â 2021-22.

Mae hyn yn dilyn gostyngiad blaenorol o £1.8m (18%) gan Lywodraeth y DU yn 2021-22 o'i gymharu â'r flwyddyn ariannol flaenorol.

Rhoddodd Llywodraeth Cymru £4.1m i'r gronfa hon y llynedd i liniaru'r gostyngiad hwn er mwyn cydnabod pwysigrwydd y gronfa hon, yn enwedig yng nghyd-destun COVID a phwysau ariannol eraill ar aelwydydd.

Roeddwn wedi gobeithio y byddai Llywodraeth y DU yn cynyddu'r cyllid sydd ar gael i awdurdodau lleol, yn enwedig wrth iddynt barhau i rewi'r Lwfans Tai Lleol a'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn eu hwynebu o ganlyniad i’r argyfwng costau byw presennol.

Yr wythnos hon, rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau unwaith eto yn amlinellu’r ffaith y bydd y dystiolaeth a ddefnyddir gan swyddogion rhenti ar gyfer pennu cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol wedi dyddio o dros dair blynedd a hanner erbyn mis Mawrth 2023 ac felly nid yw’n ystyried y cynnydd sylweddol iawn mewn lefelau rhent mewn rhai ardaloedd.

Mae'r ddau ffactor hyn yn unig yn creu problem fforddiadwyedd enfawr i rentwyr. Bydd gostyngiad yn y cymorth ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai gan Lywodraeth y DU yn gwaethygu sefyllfa'r rhai sydd eisoes yn wynebu’r argyfwng costau byw ac yn anochel bydd yn arwain at galedi pellach a mwy o bobl yn cael eu troi allan, gyda'r effaith enfawr ar iechyd meddwl a chorfforol pobl a ddaw yn sgil hyn.

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.