Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Mawrth 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 11 Chwefror cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei bod yn bwriadu gweithredu ar argymhellion y Comisiwn ar Ariannu Gofal a Chymorth yn Lloegr, a gadeiriwyd gan Andrew Dilnot.

Bu disgwyl hir am y cyhoeddiad hwn ac rwy'n ei groesawu i'r graddau ei fod yn egluro peth ar fwriadau Llywodraeth y DU i gyflwyno trefniadau newydd ar gyfer Lloegr. Rhoddodd Canghellor y Trysorlys ddiweddariad i’r cyhoeddiad yr wythnos hon, fel mai elfennau allweddol y cyhoeddiad ar gyfer Lloegr yw:

  • Cap ar gostau gofal unigolyn am oes o £72,000 (gyda'r costau cysylltiedig â llety mewn gofal preswyl wedi'u safoni ar uchafswm o £12,000 y flwyddyn, ar draws Lloegr);
  • Cap ar gyfradd is i bobl sy'n datblygu anghenion gofal a chymorth cyn cyrraedd oedran ymddeol, gyda chyfradd o ddim i bobl ifanc sydd ag anghenion gofal a chymorth erbyn iddynt gyrraedd 18 oed; a,
  • Cynnydd yn y terfynau cyfalaf ar gyfer y prawf modd mewn gofal preswyl o £23,250 i £118,000, gyda Llywodraeth y DU yn talu cyfran o gostau gofal preswyl yr unigolion hyn ar raddfa symudol (ar sail debyg i'r system "dariff" sy'n gweithredu ar hyn o bryd yn Lloegr).

Deallaf mai bwriad Llywodraeth y DU yw y dylid rhoi'r trefniadau hyn ar gyfer Lloegr ar waith o fis Ebrill 2016, gyda chynllun cyffredinol newydd i gynnig taliadau gohiriedig i bobl yn Lloegr yn dod i rym o 2015. Cynhwysir y diwygiadau hyn yn ei Bil Gofal a Chymorth drafft pan gyflwynir hwnnw i'r Senedd a bydd felly'n amodol ar basio'r ddeddfwriaeth honno a datblygu cynigion manwl wedi hynny dros y blynyddoedd sy'n dilyn.

Yn ddiweddar cefais drafodaeth gadarnhaol a ffrwythlon â'r Gweinidog Gofal a Chymorth dros Loegr, Norman Lamb AS, a chroesawaf y llythyr a gefais wedyn oddi wrtho. Mae hyn yn cadarnhau y bydd y broses o osod y gyllideb, ac unrhyw effaith ar symiau canlyniadol Barnett, yn cael eu penderfynu mewn Adolygiad o Wariant yn y dyfodol.

Er na fydd newid am gryn amser ar y trefniadau codi tâl yn Lloegr, rwyf yn awyddus bellach i droi fy sylw at ystyried o ddifrif y ffordd orau o adeiladu ar seiliau'r diwygiadau a gyflwynwyd gennym eisoes i'r ffordd y codir am ofal a chymorth yng Nghymru. Mae arnaf eisiau symud ymlaen o ddifrif gyda hyn, a datblygu cynigion i Gymru dros flwyddyn sydd i ddod.

Rwyf eisoes wedi cynnwys darpariaethau yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant sydd ar hyn o bryd yn mynd drwy broses graffu yn y Cynulliad Cenedlaethol, a fydd yn ein galluogi i gyflwyno cynllun taliadau gohiriedig cryfach. Rwyf hefyd wedi ceisio gwarchod y Bil "rhag y dyfodol” drwy gynnwys darpariaethau ynddo a fydd yn caniatáu hyblygrwydd inni gyflwyno un o nifer o fodelau o drefniadau codi tâl diwygiedig, os penderfynwn wneud hynny. Fy mwriad yw sicrhau na fydd oedi i ddiwygiadau yma o ganlyniad i orfod ceisio pwerau deddfwriaethol sylfaenol.

Rwyf yn y gorffennol wedi cefnogi ar goedd egwyddor cap ar ariannu gofal a chymorth. Wedi'r cyfan, rydym wedi arwain y ffordd yma yng Nghymru o ran cyflwyno'r cysyniad hwn, gyda'n huchafswm taliad wythnosol o £50 am ofal nad yw'n ofal preswyl er 2011. Mewn gwirionedd, bu modd i mi egluro'r drefn hon i Andrew Dilnot pan ymwelodd â ni y flwyddyn honno, a dweud wrtho am y manteision y credaf y mae'n eu rhoi i bobl yma o ran talu swm teg, tryloyw a chyfiawn am eu gofal, lle bynnag yng Nghymru y bônt yn byw. Rydym wedi buddsoddi dros £20 miliwn y flwyddyn yn yr uchafswm tâl hwn ac yn y diogelu ariannol "Codi Tâl Tecach" a gyflwynwyd gennym yn 2007, a chredaf fod pobl ar draws Cymru yn elwa ar y buddsoddiad hwnnw. Os daw'r trefniadau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU i rym yn Lloegr erbyn 2016, bydd pobl yma yng Nghymru wedi elwa o'n cap ni am bum mlynedd cyn i bobl ar draws y ffin yn Lloegr ddechrau elwa. Hyd yn oed wedyn, ni fydd y cap a gyflwynir yn Lloegr yn 2016 yn ôl-weithredol ac felly bydd peth amser yn mynd heibio wedi hynny cyn y bydd pobl yn Lloegr yn dechrau elwa.

Er gwaethaf rhinweddau cyffredinol cap ar godi tâl, mae gennyf rai amheuon ynghylch fy nymuniad i gyflwyno yma y math arbennig o gap y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu ei gyflwyno yn Lloegr. Oherwydd bod y system arfaethedig yn dibynnu ar record yn null "mesurydd tacsi" o gyfraniadau oes unigolion, mae posibilrwydd y bydd cyfundrefn gymhleth braidd yn datblygu, gan wneud bywyd yn anodd i bobl sydd ag anghenion gofal a chymorth ac i'r awdurdodau lleol a fydd yn gyfrifol am gadw golwg ar eu cyfraniadau (tybiannol). At hynny, deallaf y bydd y drefn newydd yn Lloegr yn dibynnu ar fecanwaith ehangach o gyllidebau personol, nad yw'n cael ei ail-greu yma. Credaf y byddai felly'n ddoeth ystyried yn ofalus y trefniadau gweithredu manwl y mae Gweinidogion y Deyrnas Unedig yn bwriadu eu cyhoeddi yn ddiweddarach eleni, i sicrhau ein bod yn deall sut y bydd eu model yn gweithio'n ymarferol, a beth fydd ei gostau, cyn inni wneud penderfyniadau terfynol ynghylch y ffordd gywir i symud ymlaen yng Nghymru.

Yn arbennig, byddai arnaf eisiau deall yn iawn beth fyddai costau a manteision codi'r terfynau cyfalaf, cyflwyno tapr "tariffau", ac estyn trefniadau capio mewn rhyw ffordd i gynnwys costau gofal preswyl, cyn ystyried a ddylid atgynhyrchu unrhyw rai o'r mesurau hynny yng Nghymru. Nodaf fod Llywodraeth y DU, pan gyhoeddodd ei diwygiadau arfaethedig gyntaf ym mis Chwefror, wedi datgan y gallai hyd at 16% o bobl hŷn sy'n talu am ofal ddisgwyl wynebu costau’r cap arfaethedig ar y pryd o £75,000, ac y byddai’r cap hwnnw felly'n eu helpu. Bu cryn dipyn o drafod ynghylch a yw hynny'n gyfran ddigon mawr o bobl i elwa, a byddwn i am sicrhau y byddai unrhyw gyfundrefn newydd y byddem yn ei chyflwyno yma yn dod â'r budd mwyaf i bobl y mae arnynt wir angen amdano.

Am y rheswm hwnnw, byddaf yn dymuno datblygu cynigion i Gymru sydd nid yn unig yn adeiladu ar seiliau ein cap presennol ar gostau gofal, ond sy’n seiliedig ar ganlyniadau ymchwil a thystiolaeth arall, ac ar ymgynghori a thrafod â rhanddeiliaid yn ogystal â'r pleidiau gwleidyddol eraill yma yng Nghymru. Mae fy Ngrŵp Cynghori o Randdeiliaid ar dalu am ofal eisoes wedi gwneud rhagorol tuag at gyrraedd y nod hwn a dymunaf ddiolch iddynt am eu cyfraniad parhaus i'r gwaith hwn. Rwy'n cyhoeddi'r cyngor a gefais ganddynt ar i ba raddau y credant fod argymhellion Comisiwn Dilnot yn berthnasol neu'n fanteisiol yng nghyd-destun Cymru.

Bydd angen teilwra ein cynigion ar gyfer diwygiadau i weddu i amgylchiadau a dewisiadau yma yng Nghymru – er enghraifft, gan roi ystyriaeth i batrymau gwahanol o ran cyfoeth personol a gwerth eiddo a pherchnogaeth eiddo, a chan gydnabod y gwerthoedd a'r egwyddorion sy'n bwysig i ni yng Nghymru. Bydd angen iddynt gefnogi'r weledigaeth a goleddwn o gyfundrefn ofal a chymorth sy'n gynaliadwy, ac un y mae pwysigrwydd atal, annibyniaeth a lles i bobl o bob oed yn ganolog iddi, fel y nodir yn y Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.