Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, y Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ers i ddiwygiadau lles Llywodraeth Prydain ddechrau ym mis Ebrill 2011, bu Llywodraeth Cymru yn broactif yn helpu pobl Cymru i ymdopi â'r effeithiau.  Mae hyn wedi cynnwys sicrhau bod oddeutu £3 miliwn ar gael i Awdurdodau Lleol drwy ei Chronfa Rhwystro Digartrefedd, i gydweithio â landlordiaid a thenantiaid i fynd i'r afael â'r diffyg yn y budd-daliadau ac i sicrhau llety fforddiadwy.

Mae'r Gronfa Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn, sydd heb ei datganoli, yn galluogi  tenantiaid newydd i dderbyn cymorth ariannol dros dro pan fyddant yn wynebu diffyg yn eu hawl am Fudd-dal Tai.  Yn 2015/16 bydd Llywodraeth Prydain yn gostwng y Gronfa hon o £7.8 miliwn i £6.7 miliwn, ac mae'r galw ar y gronfa sydd eisoes dan bwysau yn debygol o gynyddu, a allai arwain at fwy o galedi hyd yn oed.

Fel canlyniad uniongyrchol i gymhorthdal ystafell sbâr Llywodraeth Prydain, mae'r galw am dai un a dwy lofft wedi cynyddu.  Felly, yn 2013/14, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £20 miliwn drwy'r rhaglen Grant Tai Cymdeithasol i ddarparu tai un a dwy lofft llai.  Bydd £5 miliwn yn ychwanegol ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon a bydd £15 miliwn arall ar gael yn ystod 2015/16.

Yn dilyn cais gan y Sector Rhentu Cymdeithasol, sefydlwyd Grŵp Gorchwyl a Gorffen ym mis Gorffennaf 2014 i ystyried polisi Llywodraeth Cymru ar gyflwyno taliadau uniongyrchol ar gyfer costau tai o fewn y system Budd-daliadau Tai bresennol.  Mae'r Prosiectau Arddangos Taliadau Uniongyrchol eisoes wedi dangos bod taliadau uniongyrchol i denantiaid yn arwain at mwy o ôl-ddyledion rhent.  Roedd y Grŵp, wedi'i drefnu a'i arwain gan Lywodraeth Cymru, i ystyried ffyrdd y gallai taliadau uniongyrchol gael eu gwneud gyda cyn lleied â phosib o effaith ar yr ôl-ddyledion rhent, gan ei gwneud yn fwy tebygol o sicrhau tenantiaethau cynaliadwy.    

Gofynnais i'r Grŵp baratoi adroddiad i asesu effaith bosib newid mor fawr i'r system fudd-daliadau.  Mae'r adroddiad Taliadau Uniongyrchol a Thenantiaethau Cynaliadwy yn crynhoi ystyriaethau y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Diwygio Lles ar y pwnc, eu casgliadau ac awgrymiadau ar gyfer camau pellach i'w cymeryd.  Mae'r olaf yn cynnwys lledaenu arferion gorau ar draws y sector rhentu cymdeithasol.  

Mae'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen wedi nodi nifer o faterion pwysig ac rwy'n ddiolchgar i'r aelodau am eu gwaith.  Byddwn yn tynnu sylw'r Adran Gwaith a Phensiynau, yr Awdurdodau Lleol a darparwyr tai y Sector Rhentu Cymdeithasol at yr argymhellion perthnasol.  Byddaf yn ystyried yn ofalus y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymeryd o ganlyniad i argymhelliad 14.  O ran argymhelliad 15, ynghylch dewis tenant o ran tâl budd-dal, roeddwn eisoes wedi ysgrifennu at yr Arglwydd Freud, cyn cwblhau'r adroddiad hwn, ac rwy'n aros am ei ateb.  

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fonitro'r holl faterion hyn, yn cymeryd camau pan fydd hyn o fewn ein cylch gwaith, ac yn annog rhanddeiliaid i helpu tenantiaid i ymdopi â'r newidiadau, a chynnig sylwadau pellach i Lywodraeth Prydain fel y bo angen.

Cyhoeddir yr adroddiad ar safle rhyngrwyd Llywodraeth Cymru heddiw.